Cwm Rhondda (emyn-dôn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Hughes (cyfansoddwr)
John Hughes (cyfansoddwr)
Llinell 1:
[[Emyn-dôn]] [[Cymru|Gymreig]] boblogaidd iawn yw '''Cwm Rhondda''', sy'n cael ei ystyried fel anthem answyddogol Cymru a chanir ar nifer o achlysuron ar wahân i'r [[eglwys]], gan gynnwys [[chwaraeon|mabolgampau]] (yn enwedig ar y maes [[rygbi]]).<ref name="100 Arwyr Cymru">[http://www.100welshheroes.com/cy/bywgraffiad/williamwilliams 100 Arwyr Cymru — William Williams (Pant-y-celyn)]</ref> Daw enw'r gân o le caiff ei chyfansoddi, sef [[Cwm Rhondda]], yn dilyn arferiad i alluogi organyddion i adnabod tôn yn syth.<ref name="Codi Canu">[http://www.s4c.co.uk/codicanu/c_rehearsalroom_songs_cwmRhondda.shtml S4C — Codi Canu: Cwm Rhondda]</ref> Ysgrifennodd [[William Williams (Pantycelyn)|William Williams]] y testun (''Arglwydd, arwain trwy'r anialwch'')<ref name="100 Arwyr Cymru"/> a chaiff ei ganu i [[alaw (cerddoriaeth)|alaw]] a gyfansoddodd [[John Hughes (cyfansoddwr)|John Hughes]]. Cred rhai i'r alaw gael ei hysgrifennu ar gyfer Cymanfa Ganu'r Bedyddwyr ym Mhontypridd yn 1905 ond dywed eraill ei bod wedi ei hysgrifennu i gyrddau arbennig yng Nghapel Rhondda, eglwys y Bedyddwyr, Trehopcyn, Pontypridd, yn 1907. Mae'n sôn am hanes yr [[Iddewon]] yn teithio o'r [[Aifft]] i [[Canaan|Ganaan]] (stori [[Llyfr Exodus]] yn [[y Beibl]]).<ref name="Codi Canu"/> Weithiau canir geiriau ''[[Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd]]'' gan [[Ann Griffiths]]. Mae fersiynau [[Saesneg]] o'r gân hefyd: ''Bread of Heaven'' (cyfieithiad o eiriau Williams, gan [[Peter Williams]]), ''Christ is Coming'', a ''God of Grace and God of Glory''.
 
{{Gwrando|enw'r_ffeil=Cwm Rhondda.ogg|teitl=Cwm Rhondda|disgrifiad=''Cwm Rhondda'' ar y piano|fformat=[[Ogg]]}}