Pibgod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Offeryn cerdd yw pibgod. Llenwir y cod ag awyr (naill ai drwy anadl neu fegin fraich) a cynhyrchir y sain drwy yrru'r awyr o'r god gan greu dirgryniad mew...'
 
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Offeryn cerdd yw '''pibgod'''. Llenwir y cod ag awyr (naill ai drwy anadl neu fegin fraich) a cynhyrchir y sain drwy yrru'r awyr o'r god gan greu dirgryniad mewn gorsen yn y bib neu'r pibau.
 
Mae’r cyfeiriad cyntaf at y pibgod (sydd weithiau yn mynd yn ôl yr enwau cotbib, pibau cŵd neu pipa cwd) yn dyddio nôl i’r 12g. Mae’n debyg fod pibyddion wedi cystadlu yn yr [[Eisteddfod]] gyntaf i’w chofnodi – a drefnwyd gan yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yn [[Aberteifi]] yn [[1176]]. Tua’r un cyfnod, nododd [[Gerallt Gymro]] (Giraldus Cambrensis, c.1146–1223) fod y Cymry’n chwarae’r [[Telyn|delyn]], y pibgod a’r [[crwth]]. Cyfeirir yn aml atynt ym marddoniaeth Cymru’r canol oesoedd (e.e. [[Iolo Goch]] yn sôn am ‘chwibanogl a chod’, neu bib a bag) tra bod cerddi dychanol gan feirdd a oedd hefyd yn delynorion yn ddirmygus o bibyddion a’u offerynnau.
 
Cyfansoddwyd nifer o alawon ar hyd y blynyddoedd gyda’r pibgod mewn golwg, gyda theitl yr alaw yn amlygu’r bwriad i’w berfformio ar yr offeryn, megis ‘Erddigan y Pibydd Coch’ a ‘Conset y Peipar Coch’. Mae’r rhain y dyddio o’r 17g. hyd at y 19g. Mae cryn dystiolaeth eiconograffig o bibgodau a phibyddion yng Nghymru hefyd, yn amrywio o gerfluniau sy’n dyddio o’r 11g. o bibyddion, gan gynnwys cyrnbeipiau dwbl, at ddarluniau o bibyddion ar gefn ceffylau mewn seremonïau priodasol yn y 19g. Yn ôl disgrifiadau o arferion pibyddion erbyn y 19g. dyma oedd y cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer pibgodau. Mae’n debyg mai ucheldir anial [[Bannau Brycheiniog]] yn ne Cymru oedd cadarnle olaf y pibgod gyda enw dau chwaraewr yn goroesi o’r cyfnod – Evan Gethin ac Edward Gwern y Pebydd. Chwaraea’r ddau mewn priodasau yng [[Glyn-nedd|Nglyn Nedd]] oddeutu 1860, neu o bosib ychydig yn hwyrach. Lleoliad arall tebygol oedd tref [[Caerfyrddin]], lle clywid pibgodau yn fwyaf aml mewn priodasau mawreddog.
 
Ni wnaeth unrhyw bibgodau cynhenid Gymreig oroesi o’r cyfnod. Un ai fe wnaethant ddiflannu neu fe’i difrodwyd. Fe losgwyd neu gladdwyd cannoedd ohonynt yn dilyn y [[Y Diwygiad Methodistaidd|Diwygiad Methodistaidd]], gan gyrraedd ei benllanw yn 1905. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth eiconograffig, disgrifiadau ysgrifennedig a’r gerddoriaeth sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau yn gyson â’r math o fagbib oedd yn gyffredin yng ngogledd orllewin [[Ewrop]] (e.e. [[Llydaw]] a [[Galisia|Galicia]]), megis y gaita, veuze, a’r binou. Roedd gan rai offerynnau un drôn, rhai ddau, ac eraill dri. Yn achos y ddau olaf roedd y dronau yn anghyfartal o ran hyd ac wedi eu tiwnio wythfed a phumed yn îs na’r nodyn ar y chweched bys, er ei bod yn bosibl fod rhai dronau wedi eu tiwnio i’r pumed bys fel a geir yn Llydaw, yn arbennig wrth ystyried y repertoire gyffredin o alawon sy’n perthyn i’r traddodiadau hyn. Nid oes digon o dystiolaeth ynglŷn â gwneuthuriad mewnol y pibau eu hunain i wybod os oes gorchwythu neu groesfyseddu yn bosibl. Mae gwneuthurwyr pibgodau cyfoes fel Jonathan Shorland yn creu pibau gyda gwahanol dyllfeddau ar gyfer defnydd gwahanol fel sy’n gyffredin ymysg gwneuthurwyr bagbibau ar y cyfandir. 
 
==Llyfryddiaeth==
* D. Barrington, ‘Some Account of Two Musical Instruments used in Wales’, Archaeologia, iii (1775), 30–34.
* E. Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (Llundain, 1794).