Pibgod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Offeryn cerdd yw '''pibgod'''. Llenwir y cod ag awyr (naill ai drwy anadl neu fegin fraich) a cynhyrchir y sain drwy yrru'r awyr o'r god gan greu dirgryniad mewn gorsen yn y bib neu'r pibau.
Mae’r cyfeiriad cyntaf at y pibgod (sydd weithiau yn mynd yn ôl yr enwau cotbib, pibau cŵd neu pipa cwd) yn dyddio nôl i’r 12g. Mae’n debyg fod pibyddion wedi cystadlu yn yr [[Eisteddfod]] gyntaf i’w chofnodi – a drefnwyd gan yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yn [[Aberteifi]] yn [[1176]]. Tua’r un cyfnod, nododd [[Gerallt Gymro]] (Giraldus Cambrensis, c.
Cyfansoddwyd nifer o alawon ar hyd y blynyddoedd gyda’r pibgod mewn golwg, gyda theitl yr alaw yn amlygu’r bwriad i’w berfformio ar yr offeryn, megis ‘Erddigan y Pibydd Coch’ a ‘Conset y Peipar Coch’. Mae’r rhain y dyddio o’r 17g. hyd at y 19g. Mae cryn dystiolaeth eiconograffig o bibgodau a phibyddion yng Nghymru hefyd, yn amrywio o gerfluniau sy’n dyddio o’r 11g. o bibyddion, gan gynnwys cyrnbeipiau dwbl, at ddarluniau o bibyddion ar gefn ceffylau mewn seremonïau priodasol yn y 19g. Yn ôl disgrifiadau o arferion pibyddion erbyn y 19g. dyma oedd y cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer pibgodau. Mae’n debyg mai ucheldir anial [[Bannau Brycheiniog]] yn ne Cymru oedd cadarnle olaf y pibgod gyda enw dau chwaraewr yn goroesi o’r cyfnod – Evan Gethin ac Edward Gwern y Pebydd. Chwaraea’r ddau mewn priodasau yng [[Glyn-nedd|Nglyn Nedd]] oddeutu 1860, neu o bosib ychydig yn hwyrach. Lleoliad arall tebygol oedd tref [[Caerfyrddin]], lle clywid pibgodau yn fwyaf aml mewn priodasau mawreddog.
|