Ffilm fud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Er bod y syniad o wneud ffilmiau gyda thraciau sain recordiedig hyned â'r [[diwydiant ffilm]] ei hun, oherwydd anawsterau technegol roedd y rhan fwyaf o ffilmiau yn fud hyd y [[1920au]] diweddar.
 
Cyfeirir yn aml at gyfnod y ffilm fud fel "Oes y Sgrîn Arian," am fod gan y ffilm a ddefnyddid yn y 1910au a'r 1920au yn sglein arianaidd.
 
Roedd actio mewn ffilm mud yn gofyn technegau arbennig. Byddai'r actorion yn pwysleisio emosiynau a theimladau trwy ystumiau'r wyneb, ac mae golygfeydd sy'n canolbwyntio ar wyneb yr actor(es) yn nodweddiadol o ffilmiau mud. Mewn canlyniad mae'r actio a welir yn y ffilmiau yn gallu ymddangos fel "gor-actio" i wylwyr heddiw, ond rhaid cofio fod ymateb cynulleidfaoedd cyfoes yn wahanol.