Myfyr Isaac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger [[Aberystwyth]]. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis [[Bill Haley]] a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un fel anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blŵs enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.
 
Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm [[Budgie]]. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).
 
Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis Sêr (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr Endaf Emlyn, ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 The Tube), a dau o aelodau Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, Genod Oer (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog Twrw Tanllyd – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).
Llinell 9:
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd-gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod y 1980au a’r 1990au.
 
'''Pwyll ap Siôn/Wyn Thomas'''
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
[[Categori:Cerddoriaeth]]