Myfyr Isaac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Dafyddt y dudalen Isaac, Myfyr i Myfyr Isaac
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gitarydd amryddawn, ynghydcerddor âa bodchynhyrchydd ynyw gynhyrchydd'''Myfyr aIsaac''' sydd wedi bod yn cherddorffigwr dylanwadolamlwg ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen.
 
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd-gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod y 1980au a’r 1990au.
== Hanes ==
 
== Bywyd cynnar ==
Fe’i ganed yn Llanafan ger [[Aberystwyth]]. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis [[Bill Haley]] a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un fel anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blŵs enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.
 
==Gyrfa==
Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm [[Budgie]]. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).
 
Ar ôl byw am gyfnod yn [[Toronto]] dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis Sêr (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr Endaf Emlyn, ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp [[Brân (band)|Brân]] a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 The Tube), a dau o aelodau [[Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr|Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr]], Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, Genod Oer (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog Twrw Tanllyd – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod]] Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).
 
Yn ystod y 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan [[Bando]] a [[Crys (band)|Crys]], yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf [[Endaf Emlyn]] yn ystod y cyfnod hwn, Dawnsionara (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio solos melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân ‘Rola’. Ymunodd Isaac gyda [[Bando]] gan gyd-gyfansoddi caneuon megis ‘Nos yng Nghaer Arianrhod’ a ‘Saf ar dy Draed’, gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd – bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol Rhisiart Arwel – tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r arddull roc trwm anthemig. Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores [[Caryl Parry Jones]], ar recordiau hir megis ''Shampŵ'' (Sain, 1982), Caryl a’r Band (Gwerin, 1983) ac Eiliad (Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr [[Geraint Griffiths]] ar ei recordiau unigol yntau, Madras (Sain, 1984), Rebel (Sain, 1986) ac Ararat (Sain, 1988), ynghŷd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu Dinas.
 
==Bywyd personol==
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd-gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod y 1980au a’r 1990au.
Mae'n briod a [[Caryl Parry Jones]], cyn-gantores Bando a mae ganddynt pedwar o blant.
 
{{Esboniadur|Isaac,_Myfyr|Myfyr Isaac|CC=BY}}
 
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Cerddoriaeth]]
{{cyfeiriadau}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{DEFAULTSORT:Isaac, Myfyr}}
[[Categori:CerddoriaethCerddorion Cymreig]]
[[Categori:Gitaryddion Cymreig]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]