38,968
golygiad
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Gitarydd amryddawn, cerddor a chynhyrchydd yw '''Myfyr Isaac''' (ganwyd Mawrth [[1954]]) sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen.
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd-gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod y 1980au a’r 1990au.
== Bywyd cynnar ==
==Gyrfa==
Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm [[Budgie]]. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).
Ar ôl byw am gyfnod yn [[Toronto]] dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis [[Sêr (rhaglen deledu)|Sêr]] (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr [[Endaf Emlyn]], ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp [[Brân (band)|Brân]] a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop [[Channel 4|Sianel 4]] The Tube), a dau o aelodau [[Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr|Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr]], Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, ''Genod Oer'' (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân
Yn ystod y 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan [[Bando]] a [[Crys (band)|Crys]], yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf [[Endaf Emlyn]] yn ystod y cyfnod hwn, ''Dawnsionara'' (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio solos melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân
==Bywyd personol==
Mae'n
{{Esboniadur|Isaac,_Myfyr|Myfyr Isaac|CC=BY}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{DEFAULTSORT:Isaac, Myfyr}}
[[Categori:Genedigaethau 1954]]
[[Categori:Cerddorion Cymreig]]
[[Categori:Gitaryddion Cymreig]]
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]
|