Cwmni Recordiau Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Albobryn (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 50:
Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu'r stiwdio newydd, a bu'n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau [[Barcud (cwmni)|Barcud]] a chwmni cynhyrchu [[Tir Glas (cwmni)|Tir Glas]] ar gyfer sianel [[Teledu|deledu]] newydd [[S4C]]. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN.
 
Cymerwyd lle Hefin Elis fel cynhyrchydd staff gan Gareth Hughes Jones, ac yna gan Emyr Rees. Cynhyrchwyr eraill a fu'n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw Tudur Morgan, Les Morrison, Simon Tassano, Donal Lunny, Euros Rhys, Steffan Rees, [[Gareth Glyn]], Geraint Cynan, [[Myfyr Isaac]], Annette Bryn Parri, a'r diweddar Gareth Mitford Williams.
 
Yn [[1987]], agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â'r gallu i olygu'n ddigidol, a chynhyrchu [[Cryno-Ddisg]]iau. Mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno bellach, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau â'r byd [[teledu]], [[ffilm]] a [[fideo]].