Sŵnami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
 
== Hanes ==
Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym [[Meirionnydd]], gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu [[Coleg Meirion-Dwyfor|Coleg Meirion Dwyfor]]. Ymddangosodd y grŵp ar raglen [[Bandit (rhaglen deledu)|Bandit]] ar y ffurf hwn.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=WEBE1YVmFdM</ref> Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r [[Y Selar|Selar]] y flwyddyn hon.
 
Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, ''Mynd a Dod'' ac ''Eira'' ar label [[Rasal]] yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw [[Crash.Disco!]], â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, ''Du a Gwyn'', ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'.
 
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014|Eisteddfod Llanelli]], 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, [[I Ka Ching]], gyda'r record fer ''Cynnydd / Gwenwyn''.
 
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, ''Sŵnami'', yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015|Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau]], 2015, am albwm gorau'r flwyddyn.
 
== Gwobrau ==
 
=== Gwobrau'r Selar ===
* 2011 - Band Newydd Gorau
* 2013 - Record Fer Orau (''Du a Gwyn''), Fideo Gorau (Gwreiddiau)
* 2014 - Record Fer Orau (Cynnydd/Gwenwyn), Fideo Gorau (Gwenwyn), Offerynnwr Gorau (Lewis Williams)
* 2015 - Cân Orau (Trwmgwsg), Gwaith Celf Gorau (''Sŵnami''), Band Gorau, Record Hir Orau (''Sŵnami)''
 
=== Albwm Cymraeg y Flwyddyn (Eisteddfod Genedlaethol Cymru) ===
* 2015 - ''Sŵnami''
 
== Cyfeirnodau ==