Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 61:
{{Prif|Brwydr Maes Bosworth}}
 
==Wedi Maes Bosworth==
Wedi cyfnod byr yng [[Caerlŷr|Nghaerlŷr]], ar y 3ydd o Fedi, teithiodd Harri a'i osgordd i Lundain gan arwain prosesiwn o [[Shoreditch]] i [[Eglwys Gadeiriol Sant Paul]] gan osod y Ddraig Goch a dwy faner arall i orffwys wrth yr allor. Pythefnos yn ddiweddarach daeth wyneb yn wyneb â'i fam am y tro cyntaf ers pan oedd yn 14 oed (1470); daeth hithau i Lundain i fyw yn un o'i dai: Coldharbour, ar lan y Tafwys.
 
Yn dilyn y frwydr canodd y beirdd, gan gynnwys Guto'r Glyn a ganodd gywydd i Rhys ap Tomas o Abermarlais a'i ran ym muddugoliaeth Harri:
:Cwncwerodd y Cing Harri 
:Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
:Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
:Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
:A Syr Rys mal sŷr aesawr 
:Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr.<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutoswales/cy/ygad-rhyfelrhos-cymru.php gutorglyn.net;] adalwyd 4 Chwefror 2017.</ref>
 
Roedd nifer o noddwyr eraill Guto'r Glyn yn cefnogi Harri ac yn eu plith roedd Syr Water Herbert, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn a mwy na thebyg yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell. Roedd Siôn Edward o Blasnewydd yno ym myddin Syr William Stanley, a chyfeiria Guto at y pryder amdano ac yntau wedi teithio i Loegr 'yn awr angen y baedd':
:Yn rhaid y baedd rhodiaw bu 
:Yn Lloegr, ninnau'n llewygu; 
:A Duw a'r saint a'i rhoes ef 
:O'r frwydr, ef a'i wŷr, adref.
 
Gwobrwywyd llawer o gefnogwyr Cymreig, wedi'r frwydr, gan gynnwys Siasbar Tudur (Dug Bedford) a Rhys ap Thomas (marchog). Erbyn 1496 aeth y rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo'r Cymry ac ehangodd eu cyfle yn Lloegr i ddal swyddi a gwneud gyrfa iddynt eu hunain yno. Dyrchafwyd hefyd lawer o Gymry'n esgobion a swyddi eraill yn yr Eglwys yng Nghymru; cafwyd esgobion Cymreig yn Nhyddewi (1496), Llanelwy (1500) a Bangor (1542). Daeth arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]] hefyd i ben ac erbyn 1509, tri'n unig oedd ar ôl: Buckinham (Brycheiniog a Chasnewydd), Charles Somerset (Cas-Gwent, Cruchywel, Rhaglan a Gŵyr) ac Edward Grey (rhan o Bowys).
 
Ymhlith y rhai dderbyniodd anrhydeddau neu nawdd roedd ei dad gwyn, Thomas Stanley, a dderbyniodd faenorau yn Fflint, Caer a Warwick. Gwnaed Rhys ap Thomas yn Farchog ac yn Siambrlaen De Cymru a'i ewyrth Siasbar yn Arglwydd Brif Ustus De Cymru ac Adam ap Jevan ap Jenkins yn Dwrnai'r Brenin yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Gwobrwywyd hefyd lawer o Gymry a ymunodd â Harri ar eu taith drwy Gymru, gan gynnwys: Morris Lloyd, Owen Lloyd (Cwnstablaeth Castell Aberteifi) ac [[William Gruffudd]] (William Griffith) yn Siambrlaen Gogledd Cymru a William Stanley (perthynas teulu'r Stanley) yn Arglwydd Brif Ustus Gogledd Cymru. Gwobrwywyd meddyg Elizabeth Woodville, sef [[Lewis o Gaerleon]] a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon rhwng Elizabeth a Margaret Beaufort, mam Harri, gyda nawdd blynyddol o £40. Yn ôl J. M. Edwards, chwaraeodd y telu [[Mostyn]] ran blaenllaw iawn yn y frwydr; dywed i un o'r teulu, Huw Conwy o Fodrhyddan ddilyn Harri i Lydaw gyda neges am y trefniadau diweddaraf. Noda hefyd i Richard ap Howell, Mostyn arwain 1,600 o ddynion i gyfarfod Harri, ychydig cyn y frwydr. Am hyn derbyniodd gleddyf a gwregys Harri.<ref>[https://books.google.co.uk/books?id=Dq48AAAAIAAJ&pg=PA150&lpg=PA150&dq=John+Trevor+soldier+%7CFrance+Bosworth&source=bl&ots=Qvuhmkee2s&sig=lKPTE_VxpT-8ySejH_OIGzwTmek&hl=en&sa=X&ved=0ahUKEwjLm6SAioDSAhUhCMAKHcNFCKcQ6AEIJjAC#v=onepage&q=John%20Trevor%20soldier%20%7CFrance%20Bosworth&f=false Cambridge County Geographies Flintshire; J. M. Edwards] adalwyd 8 Chwefror 2017.</ref>
 
Derbyniodd y canlynol hefyd roddion a gwobrau: Rhydderch ap Rhys, Maurice ap Owen a Richard Owen (Stiwardiaeth Cydweli), Rhys ap llywelyn ap Hulkyn (Statws 'Sais'); rhoddwyd rhodd i un o brif filwyr Harri a fu gydag ef ar hyd y daith o Lydaw, sef yr Albanwr Alexander Bruce. Gwobrwywyd dros 400 o bobl yn ystod y blynyddoedd dilynol.
 
==Plant==