Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
3
4
Llinell 1:
{{Ffurfiant y DU}}
 
Roedd '''Deddfau "Uno" 1536 a 1543''', sy'n derm camarweiniol<ref>''Y Gwyddoniadur Cymraeg'' tud 284; [[Gwasg Prifysgol Cymru]]; Uwch Olygydd: John Davies.</ref>, yn ddwy ddeddf a basiwyd yn [[San Steffan]] i "gorffori" [[Cymru]]'n wleidyddol â theyrnas [[Lloegr]] yngyd â'i "huno a'i chysylltu" â hi, ac i ddileu'r [[iaith Gymraeg]]. Saesneg o hyn ymlaen oedd iaith swyddogol y gyfraith a gweinyddiaeth, a pharhaodd felly hyd at ddiwedd y [[1960au]].
 
==Cefndir==
Llinell 13:
Ymgais oedd Deddf 1563 i gysoni'r system gyfreithiol yn y ddwy wlad, drwy sefydlu egwyddorion "ar gyfer gweinyddu cyfraith a chyfiawnder yng Nghymru yn yr un modd ag a wneir yn y deyrnas hon". Roedd yr ail ddeddf yn ddatblygiad o hyn a thrwy hynny daeth perthynas wleidyddol, gweinyddol a chyfreithiol y ddwy wlad yn nes.
 
Creodd Deddf 1536 bump o siroedd newydd: Sir Drefadwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy yn ychwanegol at y chwe sir oedd eisioes yn ffurfio 'tywysogaeth' Cymru: Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd, Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Sir Gaernarfon a Sir y Fflint a'r siroedd 'palatin' (neu'r 'Arglwyddiaethau') Penfro a Morgannwg a oedd eisioes yn rhan o'r Mers. Gwnaeth Deddf 1536 y Cymry'n ddinasyddion cydradd a'r Saeson. Mae hyn yn un o'r rhesymau pam y bu i Gymry dylanwadol yr oes groesawu'r Deddfau hyn. Yr hyn a wnaeth tad Harri, sef [[Harri Tudur]] oedd gwobrwyo rhai Cymry gan roi statws dinesydd cyflawn iddynt. Wedi'r Ddeddf hon, nid oedd angen hynny, gan fod pob un yn ddinesydd cyfartal. Er bod Cyfraith Gyffredin Lloegr yn araf, dros ddwy ganrif, wedi disodli [[Cyfraith Hywel]], hi, bellach, oedd cyfraith swyddogol Cymru.
 
===Aelodau seneddol===
Cyhoeddodd y Ddeddf y byddai un [[Aelod Seneddol|aelod seneddol]] yn cael ei benodi ym mhob sir yng Nghymru, gyda dau ym Mynwy. Rhoddwyd cynrychiolaeth seneddol i bob tref oddigerth i [[Harlech]] a ystyriwyd yn rhy dlawd i gynnal aelod! Roedd disgwyl i'r [[bwrdeidrefbwrdeisdref]]i hyn gynnal yr aelod seneddol yn ariannol. Rhoed yr hawl i bob dyn rhydd a oedd ag eiddo gwerth 40 swllt y flwyddyn bleidleisio; yn y bwrdeidrefi, roedd pleidlais gan bob rhyddfreiniwr. Creodd Ddeddf 1543 ynadon heddwch yng Nghymru gan ddod ag awdurdod cyfreithiol arglwyddi'r Mers i ben. Ac o gofio cysylltiad Harri Tudur (a'i ewyrth [[Siasbar Tudur|Siasbar]]) gyda [[Hwlffordd]], rhoddwyd statws sir i'r dref. Roedd nifer yr aelodau seneddol o Gymru, felly, yn 27.
 
Nid etholwyd yr aelodau seneddol cyntaf Cymru tan 1542.
 
===Y llys chwarter===
Sefydlwyd llys chwarter ym mhob sir gydag wyth ynad heddwch ym mhob llys. Newidiwyd rol Cyngor y Gororau i arolygu gwaith cyfreithiol yng Nghymru.
 
===Llysoedd y Sesiwn Fawr===
Trefnwyd deuddeg sir, drwy Deddf 1543, yn bedair cylchdaith; cysylltwyd Mynwy, fodd bynnag, gyda chylchdaith [[Rhydychen]]. Achosodd hyn gryn gamddealltwriaeth yn ddiweddarach ynghylch perthynas y sir â Chymru (gelwid hi ar adegau yn ''Wales and Monmouthshire'').
 
==Rhaglith Deddf 1536==