Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "C. P. Snow"

Ychwanegwyd 2,232 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(dd a gwella)
(ehangu)
{{gwella}}
[[Ffiseg]]wr a nofelydd o [[Sais]] oedd '''Charles Percy Snow, Barwn Snow o Ddinas Caerlŷr''' [[Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig|CBE]] ([[15 Hydref]] [[1905]] – [[1 Gorffennaf]] [[1980]]).
 
Mynychodd [[Prifysgol Caerlŷr]] ac enillodd doethuriaeth o [[Prifysgol Caergrawnt|Brifysgol Caergrawnt]]. Daeth yn gymrawd yng [[Coleg Crist, Caergrawnt|Ngholeg Crist, Caergrawnt]] yn 25 oed ac astudiodd [[ffiseg foleciwlaidd]] am ugain mlynedd cyn iddo gymryd swydd gweinyddwr y brifysgol. Yn y 1930au fe gychwynodd ar gyfres o 11 o nofelau o'r enw ''Strangers and Brothers'' (cyhoeddwyd 1940–70). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei benodi'n gynghorwr gwyddonol i'r llywodraeth. Priododd y nofelydd Pamela Hansford Johnson ym 1950. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1957 a'i wneud yn arglwydd am oes ym 1964.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/C-P-Snow |teitl=C. P. Snow |dyddiadcyrchiad=28 Chwefror 2017 }}</ref>
 
Manteisiodd Snow ar ei yrfa ddeuol drwy ysgrifennu llyfr ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a llenyddiaeth: ''The Two Cultures and the Scientific Revolution'' (1959). Dadleuodd bod y gwyddonydd a'r llenor yn gwybod bron dim am ddisgyblaeth y llall, ac felly mae cyfathrebu rhyngddynt yn anodd, os nad amhosib. Sbardunodd dadl ffyrnig ymhlith academyddion a deallusion Gwledydd Prydain, a daeth y beirniad llenyddol [[F. R. Leavis]] i flaen y gad i wrthwynebu gosodiad Snow. Ymhelaethodd Snow ar ei syniadau mewn llyfr dilynol, ''Second Look'' (1964).<ref>{{eicon en}} Stefan Collini. "[https://www.theguardian.com/books/2013/aug/16/leavis-snow-two-cultures-bust Leavis v Snow: the two-cultures bust-up 50 years on]", ''[[The Guardian]]'' (16 Awst 2013). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.</ref><ref>{{eicon en}} Robert Whelan. "[http://www.telegraph.co.uk/technology/5273453/Fifty-years-on-CP-Snows-Two-Cultures-are-united-in-desperation.html Fifty years on, CP Snow's 'Two Cultures' are united in desperation]", ''[[The Daily Telegraph]]'' (5 Mai 2009). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.</ref><ref>{{eicon en}} Roger Kimball. "[http://www.newcriterion.com/articles.cfm/-The-Two-Cultures--today-4882 The Two Cultures today]", ''New Criterion'' (Chwefror 1994). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.</ref><ref>{{eicon en}} Peter Dizikes. "[http://www.nytimes.com/2009/03/22/books/review/Dizikes-t.html Our Two Cultures]", ''[[The New York Times]]'' (19 Mawrth 2009). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
[[Categori:Nofelwyr Seisnig]]
[[Categori:Pobl o Gaerlŷr]]
 
{{eginyn Sais}}
71,449

golygiad