Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dewi Sant"

Ychwanegwyd 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(manion)
B
 
==Hanes a thraddodiad==
Yn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn [[Henfynyw]] ger [[Aberaeron]], ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at [[Capel Non|Gapel Non]], gerllaw [[Eglwys Gadeiriol Tyddewi]] heddiw. Ei fam oedd y santes [[Non]] a'i dad oedd Sant [[(neu [[Sandde]]), brenin Ceredigion.
 
Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn [[Tyddewi|Nhyddewi]] (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn [[llawysgrif]] Wyddelig o tua'r flwyddyn [[800]]. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin ''vallis rosina'' sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu ''cwm corsiog''.{{angen ffynhonnell}} Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i [[Iwerddon]], [[Cernyw]], [[Llydaw]] gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol [[Tyddewi]] ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.