Pryderi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cymeriad ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] yw '''Pryderi''', mab [[Pwyll]], brenin Dyfed, a [[Rhiannon]] ei wraig. Ef yw'r unig gymeriad sy'n ymddangos ym mhob un o'r pedair cainc.
 
Yn y Gainc Gyntaf, ''[[Pwyll, Pendefig Dyfed]]'', ceir hanes geni Pryderi. Mae Pwyll yn cyfarfod [[Arawn]], brenin [[Annwfn]] (yr [[Arallfyd]]) ac yn cyfnewid lle â fo am flwyddyn ac yn ennill [[Rhiannon]] yn wraig. Genir mab i Bwyll a Rhiannon, ond y noson ar ôl ei eni mae y baban yn diflannu. Cyhuddir Rhiannon o'i ladd, ac er iddi wadu hyn mae'r llys yn pwyso ar Pwyll i'w hysgar. Gwrthyd Pwyll wneud hyn, ond mae Rhiannon yn gorfod gwneud penyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae [[Teyrnon Twrf Liant]], brenin [[Gwent Is Coed]], yn dod â'r mab i lys Pwyll. Yr oedd y bachgen wedi ei gymeryd trwy hud i lys Teyrnon, lle magwyd ef dan yr enw "Gwri Wallt Eurin". Caiff yr enw '''Pryderi''' o eiriau Rhiannon pan glyw fod ei mab yn fyw: "Oedd esgor fy mhryder im, pe gwir hynny."
 
Wedi marwolaeth Pwyll mae Pryderi yn ei ddilyn ar orsedd Dyfed. Mae'n ychwanegu tri chantref [[Ystrad Tywi]] a phedwar cantref [[Ceredigion]] at ei deyrnas, ac mae'n priodi â [[Cigfa]] ferch Gwyn Gohoyw.