Defnyddiwr:Twm Elias/Llên Gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Afonydd= Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar draws y byd a hynny ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:13, 2 Mawrth 2017

=Afonydd

Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar draws y byd a hynny ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i’w gynnig – yn ddŵr bywiol, pysgod a’r gwiail a hesg defnyddiol ar ei glannau? Onid yn aberoedd neu diroedd gorlif afonydd mawrion y byd, e.e. y Tigris, Ewffrates, Nîl, Ganges, Indws a Hwang Ho (yr “Afon Felen” yn Tsieina) y datblygodd y gwareiddiadau mawrion amaethyddol cyntaf?

Yma, cysylltid llif tymhorol yr afonydd mawrion â bywyd a ffrwythlondeb y cnydau. Dyma rodd duwiau’r afon a gallasai’r wobr fod yn fawr o drin y tir yn amserol ac yn briodol. Ond, roedd pobl yn ymwybodol bryd hynny, fel heddiw, nad oes dim i’w gael yn y byd ’ma am ddim! Felly, roedd rhaid parchu a chydnabod y ddyled i’r duwiau [a bortreadir yn aml ar ffurf dreigiau neu anghenfilod a gynrychiolai beryglon y cerrynt a’r gorlifoedd] drwy ddefodau ac aberthu tymhorol i dalu’n ôl am y ffafr.

Sonia Marie Trevelyan yn ei ‘Folk-lore and Folk Stories of Wales’ (1909) am anghenfilod afonol Cymreig, gan nodi bod un o’r rhain yn aber yr afon Tâf yng Nghaerdydd. Dywed y byddai trobwll di-waelod yno, oedd yn un o saith rhyfeddod Morgannwg, lle y llechai sarff anferth. Doedd dim gobaith i neb a dynnid i’r trobwll oherwydd cawsai un ai ei lyncu gan y sarff a diflannu am byth, neu, os oedd o gymeriad da cawsai ei gorff ei olchi i’r lan am nad oedd yr hen sarff yn hoff o gig y cyfiawn. Ceid stori debyg am y trobwll ym Mhontypridd tra mewn ardaloedd eraill fe gymer yr anghenfil ffurfiau eraill, e.e. yr Afanc yn afon Lledr, Betws y Coed; y Ceffyl Dŵr ac Anghenfil y Fawddach.

Yn Ewrop a Phrydain ceir tystiolaeth helaeth o aberthu i afonydd ar ffurf yr holl waith metel cain a daflwyd i ddyfroedd sawl afon yn yr Oesoedd Efydd a Haearn. Mewn gwirionedd mae y mwyafrif o drysorau Celtaidd mwyaf gwerthfawr yr Oes Haearn ym Mhrydain ac Iwerddon wedi eu darganfod mewn safleoeoedd fyddai’n welyau afonydd yn wreiddiol, e.e. tarian Battersea a helmed Waterloo yn yr afon Tafwys.

Fe barhaodd aberthu i ddyfroedd tan yn ddiweddar iawn a hydynoed i’n dyddiau ni - er yn fwy diniwed! Onid yw taflu pin haearn i ffynnon yn fodd i rymuso swyn neu i sicrhau rhinweddau y dyfroedd iachusol? A faint ohonom sydd wedi taflu darn arian i ffynnon er mwyn gwireddu dymuniad ac i gael lwc dda?

Roedd ambell afon mor bwysig nes y priodolid duwies arbennig iddi a byddai’n ffocws i gwlt fyddai’n gwasanaethu’r dduwies a chynnal y defodau priodol. Dyma rai ohonynt: yr afon Marne, yng Ngâl, a enwid ar ôl Matrona oedd yn brif dduwies y Celtiaid; yr Hafren – a gysylltir â’r dduwies Sabrina; y Boyne yn Iwerddon ar ôl y dduwies Boann a’r Braint (ym Môn) ar ôl Brigantia neu Brigid. Dywedir fod yr elfen ‘dwy’ yn enwau’r afonydd Dwyfach, Dwyfor a Dyfrdwy yn tarddu o’r un gwreiddyn a ‘dwyfol’.

Yn aml ystyrid tarddiad afon yn sanctaidd – yn enwedig os codai o ffynnon, e.e. Sequana oedd duwies y fynnon o’r hon y ffrydiai’r afon Seine yn Burgundy. Yno parhaodd adeiladwaith helaeth yn dyddio o’r cyfnodau Celtaidd a Rhufeinig a chanfyddwyd llawer o fodelu pren aberthwyd iddi yn cynrychioli anifeiliaid a phobl y dymunid i’r dduwies eu hiachau.

Ystyrid llif yr afon yn gyfrwng i olchi ymaith bechodau. Onid dyma pam y bedyddir pobl mewn afon? A pheidied anghofio pwysigrwydd y Ganges i’r Hindwiaid i gario llwch y meirwon i fyd gwell. Syniad tebyg, de’cini, oedd y tu ôl i’r arfer o grogi pen dafad a ddioddefai o’r ‘bendro’ ar gangen uwchben yr afon yng Nghwm Pennant rai blynyddoedd yn ôl – er mwyn i’r afon waredu’r afiechyd o’r cwm a’i gario i rywle arall!

Gall afonydd fod yn ffiniau pwysig yn ogystal, e.e. yn ddaearyddol rhwng dau lwyth; rhwng dwy elfen sef aer a dŵr, a rhwng dau fyd sef y byd daearol ac Annwfn – yr arall-fyd.

Yn naturiol, os oedd afon yn ffîn diriogaethol, yna roedd y mannau croesi yn lefydd pwysig yn ogystal. Yn y Mabinogi onid yn y rhyd ar yr afon Cynfal y bu i Gronw Pebr ladd drwy ddichell yr arwr Lleu, ac i Leu atgyfodi a lladd Gronw yn yr un lle? Nepell oddiyno y bu’r frwydr, yn y Felenrhyd, pan laddwyd Pwyll Pendefig Dyfed gan Gwydion y lleidr moch. Yn Llyfr Du Caerfyrddin a’r Triawdau sonir am Cynon, oedd yn un o’r fintai yrrwyd i ddial am ladd Elidir Mwynfawr o’r Hen Ogledd gan wŷr Arfon ger yr afon Rheon. Chafodd Cynon fawr o hwyl arni chwaith ac fe’i lladdwyd a’i claddwyd yntau ger “Rheon Ryd”.

Onid ar bont y pentre, adeg Ffair Llanllyfni, a llawer pont arall mewn sawl pentre arall, y casglai’r gweision adeg Ffeiriau Glanmai a Glangaea i gyflogi i ffermydd y fro? Ac ar ambell bont hynafol, e.e. Pont Dolymoch, ym Mhlwy’ Ffestiniog, fe welwch ôl troed wedi ei gerfio ar un o lechi canllaw’r bont. Arferai rhywun oedd ar fin ymfudo wneud hyn, er mwyn sicrhau lwc dda i’w gamre ar y daith.

Delwedd adnabyddus o afon fel y ffin rhwng y byd hwn a’r nesa yn honno yn chwedloniaeth Groeg, o dyn y fferi yn rhwyfo eneidiau’r meirwon ar draws yr afon Styx i’r byd nesa. Yn chwedloniaeth y Celtiaid mae’r rhwyfwr yn fwy tebygol o rwyfo’r eneidiau i ynys hudol yn y gorllewin [ynys y meirw, Afallon neu Tir na Nog]. Yn y gorllewin, wrth gwrs, y machluda’r haul – sydd hefyd yn arwyddo machludiad bywyd yr ymadawedig.

Corsydd

Roedd corsydd, fel afonydd, llynnoedd a ffynhonnau yn bwysig iawn yn nychymyg ac yn nefodau’r hen Geltaidd. Byddai eu hoffeiriaid yn aberthu i’r lleoedd dyfrllyd hyn, a ystyrid yn byrth i Annwfn (y byd arall) er mwyn sicrhau atgyfodiad yr haf yn flynyddol yn y frwydr ddiderfyn rhwng pwerau’r tywyllwch a’r goleuni.

Cawn adlais o hynny yn chwedl Lleu yn y Mabinogion. Ymgorfforiad o dduw’r haul oedd Lleu ac yn ôl y stori cafodd yr arwr ei ladd pan gyflawnwyd tri amod arbennig yn y rhyd yn yr afon Cynfal. Yna, mae’n troi’n eryr (roedd aderyn yn symbol o daith yr enaid i’r byd nesa) cyn cael ei atgyfodi yn ddiweddarach, ar ffurf dyn unwaith eto, gan y dewin Gwydion. Un o’r tri amod oedd bod raid i Lleu sefyll mewn lle nad oedd yn dir nac yn ddŵr. Tybed be arall allai hynny fod heblaw cors ynde?

Mae’n debyg bod cors neu donnen (y fignen ddyfrllyd honno sy’n siglo dan draed), fel heddiw, yn cael ei hystyried yn le peryglus a thywyllodrus – yn ymddangos yn gadarn ond yn gallu traflyncu’r anghyfarwydd. Hawdd credu y byddai’r hen bobl yn ystyried cors yn drigfan i bwerau mileinig a drygnaws oedd angen eu tawelu âg aberth. Hydnoed yn nes i’n dyddiau ni credid bod pwerau’r fall yn trigo mewn corsydd. Onid canwyll gorff oedd un o’r enwau ar y fflamau rhyfedd, achosid gan y nwy methan, a welid ar fawnogydd weithiau? Yn Nyfed, yr enw ar y dwymyn dridiau (teiffws neu ‘ague’) oedd yn plagio pobl oedd yn byw gerllaw corsydd oedd Yr Hen Wrach. Ac, wrth gwrs, croesi Cors Anobaith oedd un o’r profion wynebai Cristion yn ‘Nhaith y Pererin’, John Bunyan.

Canfyddwyd rhai o drysorau amlycaf y gwareiddiad Celtaidd mewn corsydd, e.e. sawl crochan efydd, offer metal addurniedig, a hydnoed wageni seremonîol mewn mawnogydd yn ynysoedd Prydain a rhannau o’r Cyfandir, e.e., yn Jutland yn Nenmarc y cafwyd crochan arian enwog Gundestrup.

Ond yn fwy trawiadol fyth yw’r dystiolaeth o aberth dynol. Daethpwyd ar draws dros 200 o gyrff hynafol mewn mawnogydd yn ystod y dair canrif ddiwethaf ym Mhrydain ac Iwerddon. Trueni ynde, mai dim ond yn ddiweddar y dysgwyd sut i gadw’r cyrff hyn rhag pydru’n gyflym unwaith y daethant i gysylltiad ag aer. Cafwyd nifer dda ohonynt yn Nenmarc hefyd – darllenwch lyfr yr Athro PV Glob “The Bog People” (1969) am fwy o’u hanes. Yna, yn 1984, darganfyddwyd corff Dyn Lindow (neu ‘Pete Marsh’!) yn Lindow Moss (Lindow yn tarddu o Llyn Du) ger Manceinion. Roedd llawer o’r cyrff hyn, am eu bod wedi eu piclo mewn mawn, mewn cyflwr mor ‘berffaith’ pan y’u darganfyddwyd nes galwyd yr heddlu’n syth cyn i rheiny, yn eu tro, drosglwyddo’r mater i’r archeolegwyr!

Roedd yn amlwg bod llawer o’r cyrff yma, oeddent yn dyddio o tua 300 – 500CC, wedi eu haberthu’n seremonîol. Roeddent (bron) yn noeth – Dyn Tollund, yn Nenmarc, yn gwisgo dim ond cap a gwregys lledr a Dyn Lindow yn gwisgo breichled o ffwr llwynog, a’i gorff wedi ei baentio’n wyrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o’r ail amod eraill oedd ei angen i ladd Lleu – ddim wedi ei wisgo a ddim yn noeth. Tybed a oedd Lleu wedi ei baentio fel Dyn Lindow?

Ond y peth mwyaf trawiadol am y cyrff corslyd hyn oedd y modd y cawsant eu lladd. Roedd Dyn Lindow, er enghraifft, wedi ei ladd drwy ei daro ar ei ben, ei grogi â chortyn, a’i wddw wedi ei dori â chyllell cyn iddo gael ei osod â’i wyneb i lawr yn y gors. Mae hyn yn cyfateb yn agos iawn i ddisgrifiadau’r Rhufeiniaid o sut y byddai’r Derwyddon yn dienyddio eu haberth – sef drwy’r farwolaeth driphlyg. Bellach rydym wedi colli’r wybodaeth am pam bod rhaid aberthu yn y modd hwn, drwy ladd mewn tair ffordd. Tri dull i fodloni’r tri prif dduw efallai?

Os chwiliwn yn ofalus fe gawn sawl adlais o’r farwolaeth driphlyg, neu farwolaeth ar ôl cyflawni tri amod, yn britho’r hen chwedlau Cymreig a Gwyddelig. Er enghraifft, yn y straeon am Cú Chulain, arwr Ulster, mae’n rhaid i Cú Chulain brofi ei ddewrder drwy adael i Cú Roi gogio ei daro dair gwaith yn ei wddw â bwyell ac mae’n rhaid i dri amod gael eu cyflawni cyn y gall Gronw Pebr ladd Lleu. Y trydydd amod, gyda llaw, at y ddau grybwyllwyd eisoes, oedd na ddylsai fod mewn adeilad nac yn yr awyr agored.

Yn yr Alban ceir stori Lailoken (y ‘Myrddin’ Albanaidd) gafodd ei daro â charreg nes iddo ddisgyn i’r afon – lle cafodd ei drywannu gan stanc adawyd yn y dŵr gan bysgotwr, a boddi! A beth am y stori o Eryri am y llanc ymladdodd yr anghenfil triphen ar lan Llyn Gwynant – ond a gafodd ei frathu gan yr anghenfil cyn disgyn i’r dŵr, taro ei ben ar garreg a boddi!

Mewn amgylchiadau eraill dim ond y pen a osodwyd yn y gors ac mae hynny, o bosib, yn dystiolaeth o ddefodau oedd yn gysylltiedig â ‘Chwlt y Pen’ oedd yn un o gwltau pwysica’r hen Geltiaid. Credai dilynwyr y cwlt bod y pen yn drigfan i enaid ei berchenog gwreiddiol ac y gallasai siarad a rhannu ei ddoethineb â’r byw – fel y gwnai pen Bendigeidfran ar ei ffordd yn ôl o’r Iwerddon. Credid y byddai’r offeiriad Celtaidd hyd’noed yn codi pen o’r fawnog yn achlysurol i ymgynghori ac ef a’r duwiau. Oes ’na ryfedd d’wch bod pobl gyffredin, ar hyd y canrifoedd, yn ofni corsydd ac yn eu hystyried yn drigfannau i bwerau’r fall!?

Dilyw

Rydan ni i gyd yn gyfarwydd â stori Cantre’r Gwaelod a sut y bu i Seithenyn, druan bach, oherwydd ei chwant alcoholaidd, esgeuluso’i ddyledswyddau a gadael i’r môr foddi’r wlad. Stori debyg yw honno am foddi Tyno Helig, a orweddai dan yr hyn sydd yn fôr erbyn hyn rhwng Bangor a’r Gogarth, am i’r duwiau ddial am ddichell y llofrudd Tathal a’i wraig Gwenduddrwy drwy eu boddi nhw a’u gwlad a phedair cenhedlaeth o’u hil.

Yn y Triawdau Cymreig ceir hanes Llyn Llïon a orlifodd gan foddi’r holl ddynoliaeth heblaw am Dwyfan a Dwyfach a ddihangodd mewn cwch di-fast ac a ail-boblodd Ynys Prydain. Ceir fersiwn arall o’r un stori, yn son am long Nefydd Naf Neifion a gariai wryw a benyw o bob math o anifeiliaid pan orlifodd y llyn.

Mae rhywbeth yn y straeon hyn o’r Triawdau sy’n ein hatgoffa o Arch Noa onid oes? A’r peth difyr ydy’ fod stori Noa yn un o ddosbarth o straeon sydd hefo rhai elfennau yn gyffredin iddynt drwy’r byd. Er enghraifft, wyddoch chi fod ’na stori o Fecsico am orlif mawr yn yr afon a gŵr o’r enw Tezpi a’i deulu ynghyd â hadau ac anifeiliaid yn cael dihangfa mewn cwch mawr hyd nes i’r gorlif ostegu? Bu iddo yrru fwltur i chwilio am dir, yn union fel y gyrrodd Noa ei gigfran.

Ceir o leia 500 o straeon o wahanol rannau o’r byd yn son am orlifoedd yn dinistrio’r ddynoliaeth, neu wledydd cyfan, a llawer ohonynt, fel yr uchod , yn rhyfeddol o debyg i’w gilydd. Un thema gyffredin iawn ymysg y straeon hyn, yn enwedig yn Ewrop, yw rhywun yn esgeuluso rhoi caead y ffynnon yn ei ôl, neu yn anghofio’r swyn briodol i’w chau, a’r ffynnon wedyn yn gorlifo’r wlad. Mae ’na hydynoed un fersiwn gynnar o stori Cantre’r Gwaelod lle ceir hynny, ac awgryma Syr John Rhys [Celtic Folklore, Cyf. 1, tud. 382] mai anffawd merch o’r enw Mererid hefo caead y ffynnon oedd yn gyfrifol am foddi’r wlad a bod y stori am esgeuluso’r llifddorau yn gam-ddehongliad ieithyddol o’r gwreiddiol.

Ceir sawl enghraifft arall Gymreig o ffynhonnau’n gorlifo – fel arfer yn gysylltiedig â tharddiad rhai o’n llynnoedd, e.e. gorlif Ffynnon Grasi yn creu Llyn Glasfryn yn Eifionydd, Ffynnon Gywer yn creu Llyn Tegid, a stori Llyn Llech Owain, ayyb Mae’n thema gyffredin yn yr Iwerddon hefyd, e.e. gwraig yn esgeuluso rhoi’r caead ar ffynnon y Tylwyth Têg oedd gyfrifol am y gorlif ffurfiodd Loch Neagh ayyb.

Ond tybed beth sy’ tu ôl i’r straeon ’ma? A pam eu bod nhw i’w cael ar draws y byd - lawer ohonynt o ganolbarth a gogledd America; nifer go lew o Ewrop; nifer o Affrica ag Awstralia; llawer iawn o’r dwyrain canol ond y nifer fwyaf o’r dwyrain pell, yn enwedig Indonesia, Polynesia ac arfordiroedd de-ddwyrain Asia?

Dyma rai posibiliadau:

1.) gorlifoedd tymhorol, e.e. yn aberoedd afonydd megis y Nïl a’r Ganges. 2.) trychinebau: - stormydd enbyd yn achosi gorlifoedd. - folcano - tybia rhai mai ffrwydriad Thera a chwalodd y gwareiddiad Minoaidd tua 3,500CC sydd y tu ôl i’r stori am ddiflaniad Atlantis - tswnami – wyddoch chi fod ton enfawr wedi dinistrio pentre Aber Towi yn Sir Gaerfyrddin yn 1607 a gwyddom am drychineb y tswnamis mawrion ar arfordiroedd cefnfor India ar Ŵyl Steffan 2004.

3.) codiad yn lefel y môr: ar ddiwedd Oes y Rhew, rhwng tua 12 – 5,500CC, cododd lefel y môr 120 – 130 medr gan foddi ardaloedd eang iawn ymhob cwr o’r byd bron. Un o’r ardaloedd lle roedd hyn amlycaf oedd Indonesia a de-ddwyrain Asia lle boddwyd tiroedd oedd rhwng dwy a thair gwaith arwynebedd yr India heddiw! Sylwer bod yr olion coedwigoedd ddaw i’r golwg ar draethau’r Borth a mannau eraill rownd arfordir Cymru yn ein hatgoffa yn gryf o godiad yn lefel y môr rhwng Cymru a’r Iwerddon tua’r un amser. Ond nid codiad graddol a chyson oedd hwn, digwyddodd mewn sawl hyrddiad ac yn aml gyda cyfnodau o ansefydlogrwydd tywydd enbyd a tswnamis ayyb yn cyd-fynd ag o.

Tystiolaeth Hanesyddol? Yn 1929 cafwyd tystiolaeth, wrth gloddio ym mynwent brenhinoedd Ur ym mhen ucha Gwlff Arabia, bod olion gorlif sylweddol o’r môr wedi digwydd yn yr ardal honno oddeutu 5,500CC. Roedd yr haenau tywod ddanghosai hynny yn gwahannu’n glir y diwylliant Oes y Cerrig geid yno cynt oddiar ddiwylliant Oes Efydd, soffisticedig y Swmeriaid geid ar ei ôl. Yn rhyfeddol iawn cafwyd cyfeiriadau eglur at y gorlif hwn yng nghofnodion ysgrifenedig “Cuneiform” y Sumeriaid, e.e. yn eu Rhestr y Brenhinoedd a ysgrifenwyd tua 2,100CC.

Yn ychwanegol, ac yn dyddio o’r un cyfnod, ceir stori’r Sumeriaid am y brenin-arwr Ziusudra gafodd ei rybuddio gan un o’r duwiau fod dilyw mawr ar fin digwydd. Aeth y brenin ati felly, yn gall iawn, i adeiladu cwch cauedig yn yr hon y bu iddo ef a’i deulu, ac anifeiliaid o bob math, gael eu harbed.

Ond dim ond un fersiwn gynnar yw hon o 11 o straeon tebyg ddarganfyddwyd yn hen ysgrifau’r dwyrain canol – gan gynnwys stori Noa o’r Beibl (a ysgrifenwyd tua 600CC). Ceir cyfeiriad at y dilyw hefyd yn stori epig Gilgamesh (ceir fersiynnau gan y Swmeriaid, Babyloniaid a’r Asyriaid) ble mae’r arwr yn cael sawl antur wrth chwilio am Utnapishtim – y gŵr a oroesodd y dilyw.

Ai ffaith ynteu ffug yw’r straeon am y dilyw? Wel, anodd iawn gen i gredu mewn dilyw sydyn byd-eang yn difa popeth byw (bron) oherwydd ni fyddai digon o ddŵr i orchuddio holl fynyddoedd y byd! Ond yn sicr fe fu gorlifoedd lleol yspeidiol a chodiad sylweddol yn lefel y môr ar ddiwedd Oes y Rhew. A rhain, bron yn sicr, yw sail y straeon a barhaodd cyhyd yng nghof cenhedloedd ledled y byd.


Ffynhonnau

Cafodd ffynhonnau, yn llawer mwy na unrhyw ryfeddod naturiol arall, barch eithriadol dros y canrifoedd gan bobl ymhob cwr o’r byd. A pha ryfedd – onid o ffynnon y tardda’r dyfroedd bywiol sy’n hanfodol nid yn unig i yfed ac ar gyfer anghenion beunyddiol bywyd ond, mewn rhai achosion, yn ffynhonnell o ddyfroedd rhinweddol sy’n iachau corf ag enaid yn ogystal?

Oherwydd hyn hawdd deall sut y bu i leoliad ffynhonnau ddylanwadu ar batrymau anheddu, masnach a chysylltiadau sawl ardal. Edrychwch ar fap ac fe welwch – yn enwedig yn ardaloedd y garreg galch ac mewn sawl ardal arall hefyd – y rhes o anheddau sy’n dilyn y darddlin ffynhonnau neu “spring line” ar hyd gwaelod allt neu yn wregys ar draws llethr mynydd.

Hefyd, onid dilyn cyfres o ffynhonnau sanctaidd wna llwybrau pererinion ar draws gwlad? Yn sicr, yng ngogledd Affrica a’r dwyrain canol mae lleoliadau ffynhonnau neu werddonnau wedi penodi cyfeiriad sawl llwybr masnach. Roedd hynny’n wir hefyd yn niffeithwch Awstralia a pheithdiroedd Patagonia a gogledd America yn nyddiau’r ceffyl – ond bariau neu lefydd gwasanaetth yw mannau dyfrio neu “watering holes” ein dyddiau ni!

Roedd dŵr ynddo’i hun yn sanctaidd i’r hen Geltiaid, boed yn lyn, pwll neu afon (gw. Llafar Gwlad 88 ag 89). Ond byddai blaen y nant, codiad neu darddiad y dŵr neu ‘lygad’ y ffynnon yn bwysicach fyth. Yma yr oedd y dyfroedd ar eu puraf, a hefyd, o’u cymharu âg ehangder llyn neu hyd afon (fyddai’n ymestyn ymhell o’r golwg) roedd y ffynnon yn ffocws mwy pendant i ddefod ac yn hwylusach i’w rheoli.

Yn aml, o gwmpas safle o’r fath codwyd adeiladwaith barhaol a phwrpasol – o gerrig fel arfer – unai i warchod y ffynnon ei hun neu i bwysleisio ei phwysigrwydd crefyddol neu rinweddol. Os fyddai’n ffynnon gymunedol i dynnu dŵr yfed ohonni byddai yn aml hefo caead arni, a byddai’n cael ei haddasu drwy greu pwll neu gronfa hylaw i godi dŵr ohonni yn ogystal. Weithiau pe bai digon o lifeiriant fe adeiledid gofer neu bistyll pwrpasol fel bo’r dŵr yn llifo’n gyfleus i fwced neu lestr. Yn sicr fe fyddai’n ganolbwynt tra phwysig i gymdeithasu wrth gyrchu dŵr, yn enwedig i’r merched, ac yn safle gawsai gryn barch.

Byddai gan ffynhonnau sanctaidd neu rinweddol adeiladwaith dipyn mwy amlwg ac yn aml byddai ceidwad i’w gwarchod. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol cysylltid duwiesau â ffynhonnau, a phob un yn ffocws i gwlt fyddai’n gwasanaethu’r dduwies ac yn cynnal defodau ac yn aberthu iddi. Yn y cyswllt hwnnw roedd i’r ffynnon rymoedd a rhinweddau arbennig iawn oherwydd ei bod mor amlwg yn ffïn rhwng uwchlaw ac islaw’r ddaear ac felly’n borth rhwng ein byd ni ac Annwfn – yr arall-fyd.

Ceir llawer o dystiolaeth o aberthu i ffynhonnau yn y cyfnod cyn-Gristnogol – yn offer haearn, addurniadau o aur neu efydd, darnau arian, modelau pren o bobl ac anifeiliaid, a hydynoed pobl go iawn (neu eu pennau). Aberthid pobl i gorsydd hefyd a darganfyddwyd ugeiniau o gyrff a phennau wedi eu piclo mewn mawnogydd ar draws gogledd Ewrop. Mae’n ddifyr bod atgof o’r offrymu i ffynhonnau wedi parhau i’n dyddiau ni ar ffurf taflu pinnau haearn i ffynnon a chrogi cadachau uwch ei phen fel rhan o swyn. Ac, wrth gwrs, mae pawb bron wedi taflu darn o arian i ffynnon i gael lwc dda a gwneud dymuniad – heb sylweddoli bod yr arfer ‘diniwed’ hwn â’i wreiddiau mewn hen hen ddefod offrymol baganaidd.

Un o gwltau grymusaf y Celtiaid oedd cwlt y pen, oedd yn mynegi’r grêd bod enaid dwyfol person yn trigo yn y pen. Byddai arwyr yn torri a meddiannu pennau eu gelynion i gymeryd eu nerth iddynt eu hunnain, ond, ar y llaw arall, byddi pen arwr neu bennaeth yn parhau yn ffynhonnell nerth a doethineb i’w gyfeillion ymhell wedi marwolaeth y corff. Gwelwn hynny yn achos pen Bendigeidfran, oedd yn sgwrsio’n braf hefo’r cwmni yn absenoldeb ei gorff! Ceir sawl stori am bennau byw arwyr yn chwedloniaeth yr Iwerddon a’r Alban hefyd.

Gallasai pen neu benglog arwr, pennaeth, neu un aeth yn aberth i’r duwiau ar ran y llwyth, fod yn rhinweddol iawn mewn seremonïau cwltaidd. Dyma, o bosib, sydd tu ôl i’r adroddiadau Rhufeinig am benglogau yn cael eu defnyddio i yfed ohonynt. A hydynoed ymhell i’r cyfnod Cristnogol ceir adroddiadau am benglogau yn gysylltiedig â ffynhonnau iachusol. Er enghraifft yn Drumcondra yn Nulun byddai yfed o ‘benglog y ffynnon’ yn gwella’r ddannoedd, tra yn ‘Ffynnon y Pen’, yn Wester Ross, roedd diod o’r penglog yn gwella’r epilepsy.

Ceir cysylltiad difyr rhwng pen a ffynnon yn stori Gwenffrewi. Pan dorrwyd ei phen gan y treisiwr Caradog ap Alawg yn y 7g tarddodd ffynnon iachusol o’r man y tarrodd y pen y llawr. Wrth lwc, pan welodd Beuno Sant beth oedd wedi digwydd i’w nith, cododd y pen a’i roi yn ôl ar ei hysgwyddau a daeth y ferch yn ôl yn fyw! Daeth y ffynnon – Ffynnon Wenffrewi, yn Nhreffynnon – yn un o ffynhonnau iachusol enwocaf Cymru ac mae’n gyrchfan bwysig i bererinion hyd heddiw. Ceir straeon tebyg yng Nghernyw a Llydaw yn ogystal.

Tybed a oes elfen symbolaidd yn stori Gwenffrewi? Ydi hon y ddelwedd sy’n cynrychioli adfer bywyd drwy’r ffydd Gristnogol yn hytrach na’r hyn a ystyrid fel ei aberthu fel geid dan yr hen drefn baganaidd? Hefyd, am fod y ffynnon arbenig hon wedi ei chreu o’r newydd drwy farwolaeth Gwenffrewi, y ferch Gristnogol, roedd ei dyfroedd yn sanctaidd bûr, ac felly’n rhydd o unrhyw gysylltiadau neu ddefnyddiau paganaidd blaenorol?