Defnyddiwr:Twm Elias/Llên Gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Afonydd= Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar draws y byd a hynny ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i...'
 
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
==Afonydd==
Bu afonydd yn bwysig i fywydau a chredoau pobl ar draws y byd a hynny ers cychwyn gwareiddiad. A pha ryfedd o ystyried yr hyn sydd gan afon i’w gynnig – yn ddŵr bywiol, pysgod a’r gwiail a hesg defnyddiol ar ei glannau? Onid yn aberoedd neu diroedd gorlif afonydd mawrion y byd, e.e. y Tigris, Ewffrates, Nîl, Ganges, Indws a Hwang Ho (yr “Afon Felen” yn Tsieina) y datblygodd y gwareiddiadau mawrion amaethyddol cyntaf?
 
Llinell 100:
 
Tybed a oes elfen symbolaidd yn stori Gwenffrewi? Ydi hon y ddelwedd sy’n cynrychioli adfer bywyd drwy’r ffydd Gristnogol yn hytrach na’r hyn a ystyrid fel ei aberthu fel geid dan yr hen drefn baganaidd? Hefyd, am fod y ffynnon arbenig hon wedi ei chreu o’r newydd drwy farwolaeth Gwenffrewi, y ferch Gristnogol, roedd ei dyfroedd yn sanctaidd bûr, ac felly’n rhydd o unrhyw gysylltiadau neu ddefnyddiau paganaidd blaenorol?
 
==Llynnoedd yng Nghymru==
 
Mae llynnoedd yng Nghymru, yn ogystal a’r môr, afonydd a ffynhonnau, yn gyforiog o goelion a straeon gwerin dyfrllyd – lawer ohonynt (efallai?) yn atgof niwlog am hen draddodiadau a defodau cyn-Gristnogol Celtaidd.
 
Roedd dŵr yn elfen holl bwysig ym mywydau pobol; yn rhan mor hanfodol o drefn natur ac eto’n llawn gwrthgyferbyniadau – yn ffynhonnell bywyd a bwyd, yn iachau a phuro, ond hefyd yn chwalu a lladd. Gallai fod yn dryloyw ac eto’n llawn dirgelwch yn nyfnder anweladwy llyn, môr neu bwll a phan yn llonydd yn adlewyrchu goleuni duw’r haul a llun y sawl a edrychai iddo.
 
===Aberthu===
Ystyrid bob corff o ddŵr yn sanctaidd ac yn borth i’r arall-fyd lle preswyliai ac y gellid cysylltu â’r duwiau a bodau goruwchnaturiol eraill. Dyma pam yr aberthid cymaint o drysorau i lynnoedd ar draws y byd Celtaidd. Tystia’r Groegwr Strabo fel y byddai llwyth Celtaidd y Volcae Tectosages yn aberthu ingotiau o aur ac arian i lyn sanctaidd ger Toulouse yn yr ail ganrif CC ac na feiddiai neb amharu â’r safle cyn i’r Rhufeiniaid anwar geisio codi’r cyfoeth o waelod y llyn yn 106CC! Disgrifia Gregory o Tours yn y canol-oesoedd ŵyl baganaidd 3 niwrnod ger llyn Gévaudan yn y Cevennes, ple aberthai’r bobl fwyd, dillad ac anifeiliaid i’r llyn.
 
Mae’r dystiolaeth archeolegol am aberthu i lynnoedd yn sylweddol. Un o’r safleoedd enwocaf a chyfoethocaf yw La Téne yn y Swisdir lle cafwyd olion llwyfan pren mewn mawnog ar ymyl bae bychan ar lan ddwyreinol Llyn Neuchâtel. Oddiarno, yn y ddwy ganrif CC derbyniodd duw’r llyn gannoedd o dlysau, picellau, cleddyfau a thariannau yn ogystal a chŵn, gwartheg, moch, ceffylau a phobl. Ar sail arbenigrwydd a cheinder yr addurniadau ar lawer o’r ebyrth metal hyn y diffiniwyd teip ag arddull addurniadol un o gyfnodau amlycaf y gelfyddyd glasurol Geltaidd.
 
Yng Nghymru canfyddwyd celc o waith metel yn Llyn Mawr, Morgannwg, yn dyddio o tua 600CC. Yn eu mysg roedd addurniadau harnais a cherbyd ceffyl; bwyelli, crymannau a dau grochan efydd – rhai ohonynt yn arddull addurniadol Hallstat, oedd yn blaenori’r La Ténne. Yn Llyn Cerrig Bach ym Môn cafwyd casgliad o arfau, crochannau, cadwen gaethweision a darnau o gerbyd rhyfel, oll wedi eu haberthu rhwng yr ail ganrif CC a’r ganrif gynta OC.
 
===Anghenfilod===
Parhaodd y cof am aberthu i lynnoedd yn hir iawn ac mae straeon gwerin yn gyffredin am anghenfil sy’n preswylio yn y dyfnder dyfrllyd ac yn mynnu aberth blynyddol – merch ifanc fel arfer – neu bydd yn gadael y llyn ac anrheithio’r wlad oddiamgylch. Ond wrth lwc, fel arfer, fe ddaw arwr i ymladd a difa’r anghenfil ac achub y ferch!
 
Un o’r enghreifftiau enwocaf o anghenfil o’r fath, pe cai ferch ifanc neu beidio(!), oedd Yr Afanc a cheir sawl fersiwn o’r stori am y peth erchyll hwn. Yn Nyffryn Conwy, lle y llechai mewn pwll mawr yn yr afon Conwy – Llyn yr Afanc ger Betws y Coed – fe achosai orlifoedd enbyd yn y dyffryn bob hyn a hyn. Ond llwyddwyd i’w raffu a’i lusgo gan yr Ychain Bannog i Lyn Cwm Ffynnon yng nghesail y Glyder Fawr, ple na allai wneud cymaint o ddifrod. Yn Llyn Syfaddon ger Aberhonddu, Hu Gadarn a’i haliodd o’r llyn, tra yn Llyn Barfog ger Aberdyfi y Brenin Arthur a’i farch fu’n gyfrifol.
 
A beth am Tegid – sy’n anghenfil mwy modern, efallai – a driga yn Llyn Tegid? Fel Loch Ness yn yr Alban mae Llyn Tegid angen anghenfil yndoes?!
 
===Gorlifoedd===
Priodolir tarddiad amryw o lynoedd i orlif pan esgeuluswyd roi’r caead yn ei ôl ar rhyw ffynnon neu’i gilydd. Enghraifft o hyn yw stori Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin a ffurfwyd pan anghofiodd Owain roi’r llech oedd yn gaead ar ffynnon ar y Mynydd Mawr yn ei hôl. Wrth farchogi ymaith digwyddodd edrych dros ei ysgwydd a gweld bod y ffynnon yn brysur orlifo’r wlad. Onibai iddo lwyddo i garlamu ei geffyl rownd y llyn newydd i’w atal rhag tyfu’n fwy, byddai’r wlad i gyd, a phawb a drigai ynddi, wedi boddi.
Ceir straeon tebyg am Ffynnon Grasi yn gorlifo a chreu Llyn Glasfryn yn Eifionydd; Ffynnon Gywer yn creu Llyn Tegid ac mae fersiwn gynnar o stori Cantre’r Gwaelod yn son am anffawd Mererid, ceidwades y ffynnon, yn methu ail-gaeadu’r ffynnon sanctaidd nes i’r cantref cyfan gael ei foddi.
 
Os dielid am esgeuluso ail-gaeadu ffynnon ceir hefyd ddial am greulondeb a chamwri. Mae stori Tyno Helig ar lannau’r Fenai, pan glywir y llais ysbrydol yn gwaeddi “Daw dial! Daw dial! Daw dial!” yn rhybudd erchyll y boddir y drwgweithredwr a’i holl ddisgynyddion rhyw ddydd. Cysylltir straeon tebyg hefyd â Llyn Llynclys rhwng Croesoswallt a Llanymynaich, Llyn Syfaddon a Llyn Tegid.
 
===Y Tylwyth Teg===
Ond, o’r cyfan, efallai mai straeon am lynnoedd yn breswylfeydd i’r Tylwyth Teg sydd fwyaf adnabyddus ac am fugail yn hudo rhyw Dylwythes Deg i’r tir i’w briodi. Chwedl Llyn y Fan yw’r enghraifft orau o hyn a sut y gosodwyd amodau ar Rhiwallon fyddai’n sicrhau y byddai ei wraig yn aros yn ein byd ni. Pan dorwyd yr amodau aeth y ferch yn ôl i’r llyn gyda’i holl eiddo a’i gwartheg. Ond ni allasi gymeryd eu tri mab, na chwaith yr holl wybodaeth am feddyginiaethau yr oedd wedi ei ddysgu iddynt. Felly, am bod y fferm bellach yn “bancrypt(!)” fe drodd Rhiwallon a’i feibion yn feddygon gan ddod yn adnabyddus o hynny ymlaen fel teulu enwog Meddygon Myddfai.
 
Ceir straeon tebyg, neu o leia’n cynnwys rhai elfennau o’r stori hon, yn gysylltiedig â Llyn Nelferch neu Lyn y Forwyn ym Morgannwg; a Llynnau Barfog ac Arenig ym Meirionnydd a Llyn y Dywarchen a Llun Dwythwch yn Eryri.
Ond yn ogystal â’r Tylwyth Teg a’u hanifeiliaid yn dod i’n byd ni ceir enghraifft , yn stori Llyn Cwm Llwch ger Aberhonddu am ddrws cyfrin fyddai’n agor bob Calan Mai i wlad y Tylwyth Teg. Gwarchodid y porth a’r llyn gan gorach blïn mewn côt goch, a chawn disgrifiad o breswylfa’r Tylwyth ar ynys hud, fyddai’n anweledig fel arfer – sy’n ein hatgoffa, mewn cyswllt arall, o Ynys y Meirw, Afallon neu Dir Na-nog ym môr y gorllewin. Dyma’r porth i’r arall-fyd yn sicr.
 
==Mynyddoedd==
 
Fe ddywedir bod pobl y mynydd-diroedd yn wahanol mewn sawl ffordd i drigolion llawr gwlad. Dyma safbwynt yr Athro R Alun Roberts yn ei Ddarlith Radio i’r BBC: “Yr Elfen Fugeiliol ym Mywyd Cymru” (1968) ac mae’n werth ei darllen neu ei hail-ddarllen. Ynddi dadleua bod yr economi gydweithredol a symudol oedd yn gysylltiedig â’r hen gyfundrefn Hafod a Hendre, a’r pwyslai oddiar hynny ar fagu a marchnata da byw, wedi dylanwadu ar ein diwylliant a’n ffordd o edrych ar y byd o’n cwmpas. O ganlyniad, rydym yn fwy ysbrydol ein bryd na phobl y tiroedd gwastad, ac yn hynny o beth yn debycach ein diwylliant i drigolion Norwy, Yr Alpau a’r Pyreneau na’r rhannau eraill o Ewrop sydd y tu allan i’r gwledydd Celtaidd.
 
Boed hynny’n wir neu beidio mae’n amlwg iawn, o edrych ar ein llên gwerin a’n chwedlau ni fel Cymry, a phobloedd eraill yr ucheldiroedd ar draws y byd, fod mynyddoedd wedi chwarae rhan bwysig yn ein datblygiad diwylliannol.
 
===Mynyddoedd Sanctaidd===
Yn ôl Sylwedyddion Rhufeinig a Groegaidd roedd ffurfiau’r tir yn bwysig iawn i’r Derwyddon Celtaidd – yn llynnoedd, ffynhonnau a mynyddoedd. Y mynydd oedd gorseddfan duwiau’r awyr a gellid gweld a theimlo eu llid adeg tywydd gerwin, yn enwedig pan geid mellt a tharannau, ond ar adegau eraill rhoddasant weledigaeth, achubiaeth a doethineb. Tebyg mewn gwirionedd i fynydd Olympws y Groegiaid – cartrefle Zeus, tad y duwiau, oedd mor anwadal ei dymer a’r tywydd a reolai!
 
Gwelwn hyn yn amlycach fyth, wrth reswm, yn y rhannau o Ewrop a’r dwyrain canol lle ceir llosgfynyddoedd – pa amlycach arwydd o lid y duwiau na hynny!? Onid ar fynydd tanllyd Sinai y siaradodd Duw â Moses gan roi iddo’r Deg Gorchymyn? Yn yr un modd gwelwn fod gan Ffwji yn Japan, Kilimanjaro yn Kenya a Mauna Lao yn Hawai, ran hanfodol yng nghrefyddau pobl y rhannau hynny o’r byd.
 
Yn ne a chanolbarth America arferid aberthu ar gopaon y mynyddoedd – cyrchfan y cymylau – i ennyn ffafr duwiau’r glaw ar gyfer llwyddiant y cnydau. Ar gopa mynydd Tlaloc ym Mecsico cyflwynid hadau’r gwahanol gnydau i ddelw o dduw’r glaw (o’r un enw a’r mynydd) i sicrhau llwyddiant y tymor. Aberthai’r Incaid blentyn ifanc i’r un pwrpas bob blwyddyn ar gopaon rhai o fynyddoedd yr Andes a chanfyddwyd nifer o gyrff bychain yn ddiweddar yn tystio i hyn – wedi eu claddu’n seremoniol a’u mymieiddio.
 
Parhaodd pwysigrwydd crefyddol rhai mynyddoedd i’n dyddiau ni, e.e. pererindod i gopa Mynydd Ffwji gan tua 20,000 o ddilynwyr y grefydd Shinto yn Japan bob blwyddyn ac onid yw’r pererindodau blynyddol gan Gatholigion Gwyddelig i gopa Croag Patrig ym Mayo a “Phererindod y Pedwar Copa” yn Carinthia, Awstria yn enghreifftiau eraill? Difyr sylwi faint o Gapeli a phentrefi Cymreig gafodd eu henwi yn y 19g ar ôl mynyddoedd sanctaidd lle cafwyd gweledigaeth ddwyfol yn y Beibl, e.e. Sinai, Horeb, Tabor, Carmel, Gerizim a Nebo.
 
Tybir bod y croesau Cristnogol welir ar rhai copaon ac ar fylchau uchel, yn enwedig mewn gwledydd Catholig, yn adlais o gyfnod pan ystyrid y safleoedd hynny yn sanctaidd gan ddilynwyr y crefyddau blaenorol. Pa well ffordd sydd ‘na i ddiddymu grym hen safle baganaidd, ynte, na phlannu croes arni? Ceir sawl Bwlch y Groes yng Nghymru, oni cheir, a charnedd gladdu ar gopa bron bob un o’n mynyddoedd amlycaf?
 
Ni cheir pererindodau crefyddol i gopaon mynyddoedd Cymru bellach ond ceir yr hen arfer o ddringo i gopa’r Wyddfa adeg lleuad lawn y naw nos olau bob mis Medi. Tybed a dardda hyn o ryw hen ddefod yn ymwneud â thymor medi’r cnydau?
 
===Gwyddfa Rhita Gawr===
Ystyr “gwyddfa” yw carnedd gladdu ac enw llawn ein mynydd uchaf yw Gwyddfa Rhita Gawr. Fe’i henwyd ar ôl y bwli haerllyg hwnnw geisiodd gipio barf y Brenin Arthur i’w chynnwys yn y glog farfau a wisgai dros ei ysgwyddau. Fe’i lladdwyd gan Arthur a orchymynodd wedyn y dylsid codi carnedd dros gorff Rhita, oedd braidd yn rhy fawr i’w gladdu. Mor amhoblogaidd oedd yr hen furgyn nes y death cymaint o bobl o bob man efo cymaint o gerrig nes ffurfiodd y garnedd y mynydd a elwir “Yr Wyddfa” hyd heddiw!
 
===Campau Prawf===
Ydy arholiadau yn bethau newydd d’eudwch? Na, oherwydd ar un adeg rhaid oedd i filwyr ifanc a phrentisiaid Derwyddon gwblhau campau arbennig i brofi eu hunnain. Yn ôl traddodiad byddai neidio o un i’r llall rhwng y ddau faen a elwir Adda ac Edda ar gopa Tryfan yn un o’r campau osodid i brofi dewrder llanciau ifanc y fro ac roedd aros nos ar gopa mynydd yn un arall.
 
Dywedir y bydd y sawl a dreulia noson ar gopa Cader Idris un ai yn farw, yn fardd neu yn wallgo erbyn y bore. Mae’n wir hefyd! Hynny yw, mae siawns dda ichi drengi o oerfel ac mae’n rhaid eich bod un ai yn fardd neu’n wirion i hydnoed meddwl am noswylio yn y fath le beth bynnag!
 
===Ogofau===
Fel pyrth i’r byd arall ac i gorff y fam ddaear bu ogofau yn bwysig o gyfnod cynnar iawn – yn lloches i’n cymunedau cynharaf un fel yn ogofau Tŷ Newydd yn Nyffryn Clwyd a Paviland ym Mhenfro. O’r Oes Efydd ymlaen, ceid trysor o gloddfeydd tanddaearol megis Mynydd Parys, Y Gogarth a Dolaucothi. Dim rhyfedd bod cymaint o chwedlau am ddreigiau neu eryrod yn gwarchod trysor mewn ogof.
 
A beth am yr holl enghreiftiau o hen frenhinoedd neu arwyr yn cysgu mewn ogof gudd ac yn aros i ddeffro i amddiffyn y wlad pan fo’u hangen? Yng Nghymru cysga Arthur a’i filwyr yn Ogof Llanciau Eryri ar Lliwedd a cheir chwedlau tebyg am Owain Glyndwr, ac Ifor Bach yn ei ogof dan Castell Coch, Caerdydd. [Deffrwch y diawliaid!]. Ond nid yng Nhgymru yn unig y ceir coelion o’r fath – fe’u ceir hefyd am arwyr cenedlaethol eraill fel y brenin Siarlamaen yn ne Ffrainc a Ffredric y 1af yn Awstria.
 
==Y Môr==
 
===Y Weilgi===
Gair arall am y môr neu’r cefnfor yw 'weilgi'. Mae hwn yn hen air sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn dyddio o leia i’r 13g, e.e. “eistedd yd oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi”. Ystyr gweilgi yw blaidd ac yn ôl y Geiriadur: “math o bersonoliad o’r môr yw gweilgi neu ryw syniad mytholegol amdano fel anifail yn udo, neu…yn delweddu’r môr fel blaidd.” Tybed ai o’r hen goel fod y blaidd yn greadur tywyllodrus a pheryglus y cododd hyn – yn cynrychioli stormydd?
 
Yn y cyswllt hwn, o bosib, mae’n ddifyr imi ddod ar draws arwydd tywydd o ardal Clynnog yn Arfon yn cyfeirio at y “bwlff” neu “wlff” (woolf) fel enw ar y pytiau bach o enfys welir weithiau y nail ochr i’r haul ac sydd yn aml iawn yn arwydd bod storm ar ei ffordd. Enwau eraill ar y rhain yw ci drycin neu cyw drycin, ac o Glynnog y cyfeiriad arferol i’w gweld yw i’r gorllewin – dros y môr – rhyw ddwy neu dair awr cyn y machlud. Oes rhywrai eraill wedi clywed am gysylltu’r blaidd â stormydd?
 
===Casgliad Marie Trevelyan===
Ie, rhywbeth i’w barchu fu’r môr inni’r Cymry erioed ac fel pob cenedl arfordirol arall mae ein llên gwerin morol yn gyfoethog iawn – yn enwedig ym mysg morwyr a physgotwyr. I’r sawl y dibynnai ei fywoliaeth a’i fywyd arno byddai defodau a choelion a pharch tuag at y môr yn yswiriant rhag trychineb!
 
Mae gan Marie Trevelyan yn ei Folk-lore and Folk Stories of Wales (1909), gasgliad difyr o straeon a choelion o’r fath. Er enghraifft dywed fod y seithfed neu’r nawfed ton yn gryfach na thonnau eraill ac os llwyddith dyn sy’n boddi i ddal un o’r rhain mae siawns dda y caiff ei achub. Ar y llaw arall os yw rhywun yn nofio tua’r lan mae ei fywyd mewn peryg os caiff ei oddiweddyd gan un o’t tonnau hyn.
 
Byddai ymdrochi yn y môr ar naw bore canlynnol yn iachau rhywun sal, a byddai ymdrochi naw gwaith ar yr un bore yn dda i rywun sy’n diode â’i nerfau. Dywed hefyd y byddai rhywun a yfai ychydig o ddŵr y môr bob bore o’i blentyndod yn sicr o fyw i oedran mawr. A bod pobl a aned ger y môr yn naturiol ddewr.
 
Ar un adeg ‘chydig o bysgod a fwyteid yng Nghymru oherwydd credid bod pysgod yn byw ar gyrff pobl a foddwyd.
 
Byddai tonnau gwynion yn cael eu hystyried â pharchedig ofn a chredid mai ysbrydion rhai a foddwyd oeddent yn codi i’r wyneb ar wynt i gael hwyl yn marchogi eu cesyg gwynion. Gelwid y tonnau gwynion gwylltion oddiar Trwyn yr As ger Sain Dynwyd ym Morgannwg y “merry dancers.”
 
Daeth cwpwrdd Dafydd Jones neu “Davy Jones’ Locker” yn enw adnabyddus am y môr. Dyddia’r enw o tua canol y 18g yn ôl Geiriadur Rhydychen ac mae ei darddiad yn ansicr. O blith morwyr o Gymru y death yn ôl Marie Trevelyan, ond does gan neb glem pwy oedd y Dafydd Jones gwreiddiol chwaith – môrleidr yn ôl rhai.
 
Weithiau gwelid goleuadau rhyfedd yn dawnsio o gwmpas y mast a’r rigin. Cannwyll yr ysbryd neu Gannwyll yr Ysbryd Glân oedd enwau’r morwyr Cymraeg arnynt (St Elmo’s Fire i’r Saeson a morwyr y Cyfandir). Byddai gweld un o’r goleuadau hyn ar ben ei hun yn anlwcus; dau yn arwydd o dywydd braf a mordaith lwyddiannus a llawer ohonynt yn ystod storm yn arwydd fod y gwaetha drosodd ac y deuai hindda’n fuan.
 
Hen stori o Forgannwg oedd bod y diafol ar un adeg yn hwylio oddiar glannau Cymru mewn llong dri mast i gasglu eneidiau pechaduriaid. Fe’i hadeiladwyd o goed dorrwyd yn Anwfn ac roedd yr aroglau swlffwr ddeuai ohoni yn erchyll! Gorfoleddai’r hen ddiafol bob tro y cawsai gargo newydd o eneidiau ond fe wylltiodd hynny Dewi Sant, yn ôl rhai, neu Sant Dynnwyd yn ôl eraill, nes iddo drywannu’r llong â phicell fawr! Prin y llwyddodd y Diafol i ddianc ac fe ddryllwyd y llong ar greigiau Gŵyr lle gwnaeth rhyw gawr mawr bric dannedd o’i mast a hances boced o’i hwyl!
 
===Lwc ag anlwc===
Ceir nifer fawr o ofergoelion yn ymwneud â’r môr – dyma ddyrnaid bychan ohonynt:
 
#Mae clust-dlws aur yn arbed morwr rhag boddi
#Plentyn ar fwrdd llong yn dod a lwc dda.
#Peidied chwibannu ar fwrdd llong rhag tynnu storm.
#Ddylsai neb dorri ei wallt na’i ewinedd ar fwrdd llong.
#Mae colli bwced dros yr ochr yn anlwcus iawn.
#Hoelio pedol ar y mast yn arbed rhag drwg.
#Sticio cyllell yn y mast i gael gwynt têg i hwylio
#Ni ddylsid cychwyn mordaith ar ddydd Gwenner oherwydd dyna’r dydd y croeshoiliwyd Crist
#Mae hwylio o’r harbwr ar ddydd Sul yn lwcus.
#Ddylsai’r gwragedd ar y lan ddim golchi dillad ar y dydd yr hwyliai eu gwŷr – rhag i’r llong gael ei golchi ymaith.
#Mae cau cath mewn cwt neu ei rhoi dan dwb yn codi gwynt mawr a byddai rhai merched yn gwneud hyn i gadw eu gwŷr neu gariadon adre!
#Taflu cath i’r môr yn tynnu andros o storm.
#Anlwcus gweld rhywun â gwallt coch cyn hwylio
#Mae penwaig yn casau ffraeo ac os yw rhwydi dau gwch wedi tanglo – peidied a ffraeo neu ni ddelir mwy o benwaig!
#Peidiwch a cyfri’r pysgod cyn cyrraedd y lan neu ddelir dim mwy.
#Mae priodi yn tynnu stormydd, felly yr amser gorrau i briodi ydi ar ddiwedd y tymor pysgota.
 
 
===Crefydd y Celtiaid===
Roedd y môr yn bwysig iawn yng nghrefydd yr hen Geltiaid ac os edrychwn ar achau duwiau ac arwyr y Mabinogi gwelwn fod Llŷr, duw’r môr yn dad i Bendigeidfran, Branwen a Manawydan. I’r hen Gymry, duw crefft oedd Manawydan yn bennaf ond yn chwedlau Iwerddon roedd ef (Manannán mac Lir), fel ei dad, yn dduw’r môr fyddai’n marchogi’r tonnau ar ei geffyl gwyn. Ef amgylchynodd Iwerddon â môr i’w hamddiffyn ac a roddodd ei enw i Ynys Manaw
 
===Moeswersi===
Ceir aml i foeswers yn codi o eigion y môr. Cymerwch yr hen stori gyfarwydd am pam fod y môr yn hallt. Y creadur dwl hwnnw ddwynodd y felin halen hud oedd yn gyfrifol. Roedd yn cofio’n iawn y swyn i gael y felin i gynhyrchu ond anghofiodd y swyn i wneud iddi stopio! Pan suddodd ei long dan bwysau’r holl halen doedd dim modd adfer na rhoi stop ar y felin byth wedyn! Y foeswers, yn naturiol, yw i beidio a bod mor farus yn y lle cyntaf a bod canlyniadau pellgyrhaeddol iawn i esgeulustod syml weithiau.
 
A beth am stori Sinbad y morwr pan neidiodd hen ddyn y môr ar ei gefn. Ddeuai hwn byth oddiarno wedyn ac roedd yn amhosib ei dynnu na’i ysgwyd i ffwrdd chwaith. Yn y diwedd rhoddodd Sinbad wïn iddo nes i’r hen ddyn feddwi a llacio ei afael fel y gallodd Sinbad ddianc! Mae ’na rybudd yn erbyn effeithiau gor-yfed yn fan’na yn sicr (i’r hen ddyn!) ond am Sinbad mae yn fy atgoffa o ddywediad glywais gan fy mrawd: “Os wyt ti am dynnu stanc neu bolyn ffens waeth iti heb a’i gurro ar ei ben hefo gordd - sigla di o yn ôl ac ymlaen ac fe ddaw o’r ddaear yn ddi-lol”. Os na fydded gryf bydded gyfrwys, mewn geiriau eraill.
 
Mae ’na stori ddifyr o ardal Clynnog, ac fe glywais fersiynau tebyg o’r un hanes yn Nefyn a Môn, am bysgotwyr penwaig dros ddwy ganrif yn ôl yn cael helfeydd toreithiog iawn am rai blynyddoedd. Roeddent yn dal a dal a dal, lawer mwy na ellid eu gwerthu na’u halltu na’u sychu at y gaeaf. Ond dal i bysgota wnai’r dynion gan wasgaru’r pysgod hyd y caeau fel gwrtaith hydynoed. Wel, yng ngwyneb yr holl wastraff ac am fod drewdod y pysgod pydredig ar y caeau yn chwythu dros dir rhyw hen wrach oedd yn byw gerllaw, dyma honno yn melltithio’r pysgotwyr gan ddweud na ddaliai neb yr un pysgodyn arall oddiar y rhan hwnnw o’r arfordir am ddau can mlynedd! Gwir y gair, oherwydd o hynny ymlaen fe beidiodd yr heigiau penwaig ddod ar gyfyl Clynnog a bu raid i’r pysgotwyr a’u teuluoedd symud oddiyno. Dyma, yn ôl rhai, sy’n cyfrif am y murddynod ar y traeth ger Ty’n y Coed.
 
Efallai bod elfen o wirionedd hanesyddol yn y stori hon oherwydd mae’n wir bod penwaig yn newid eu llwybrau ymfudo o bryd i’w gilydd ond hefyd roedd diwedd y 18g yn gyfnod o newid yn y diwydiant pysgota. Bryd hynny fe danseilwyd bywoliaeth y pysgotwyr bach bron ymhobman wrth i gychod mwy ddechrau gweithio allan o borthladdoedd cyfagos gan gipio’r farchnad oddiarnynt. Beth bynnag am hynny y wrach yn cosbi’r pysgotwyr am eu gwastraff gaiff y bai, a’r stori wedi goroesi am fod ynddi foeswers a rhybudd am ganlyniadau bod yn wastraffus.
===Llên gwerin llongau===
Ceir llawer o ddefodau a choelion yn gysylltiedig a llongau:–
Adeiladu – ystyrid, ar gychwyn adeiladu, bod gosod y cêl neu gilbren yn iawn yn holl bwysig a rhaid oedd defod briodol i sicrhau hynny. Byddid yn “yfed iechyd” y llong a rhaid oedd taro’r hoelen gyntaf yn gywir. Byddai rhai yn ei tharo drwy bedol ceffyl i sicrhau lwc dda a chlymid ruban coch (lliw gwaed a bywyd) am yr hoelen gynta i arbed rhag melltith a’r llygad ddrwg. Gwae os coda gwreichionyn wrth ei tharo oherwydd byddai’r llong yn siwr o gael ei dinistrio gan dân a byddai pawb yn ofalus rhag brifo a cholli gwaed oherwydd deuai hynny â chanlyniadau difrifol i’r criw rhyw ddydd. Ddylsai neb regi na thyngu chwaith!
Enwau – enwau benywaidd fel arfer a byddai’r hen forwyr yn amheus iawn o enwau rhy feiddgar a mawreddog. Dyma pam nad oedd rhai yn gweld llawer o lwc yn enw rhyfygus y Titanic. Pan ddeuai newyddion am anffawd neu longddrylliad byddai cryn ddyfalu am y rhesymau pam a rhai yn sicr o chwilio’n ofalus am rhyw ystyr cudd yn enw’r llong fyddai wedi rhoi arwydd o’i thynged.
Lansio – enwir y llong ar ei lansiad ac mae’n arfer erbyn hyn i dori potel o wïn neu siampên ar ei blaen i’w gyrru ar ei ffordd. Tardda hyn o’r hen ddefod o gyflwyno aberth dynol i dduw’r môr drwy glymu carcharor ar y llithr-ffordd y gwthid y llong neu gwch i’r dŵr. Roedd hyn yn hanfodol i long ryfel – er mwyn iddi fagu blas ar waed ar gychwyn ei gyrfa. Roedd y Llychlynwyr a’r Polynesiaid yn enwog am hyn a hydynoed mor ddiweddar a 1784 arferai Llywodraethwr Tripoli lansio ei longau rhyfel hefo caethwas wedi ei glymu ar ei blaen.
Y flaen-ddelw – cariai llongau’r Eifftiaid, y Groegiaid, Phoeniciaid a’r Rhufeiniaid allorau neu ddelwau o dduwiau neu dduwiesau gwarcheidiol. Byddai delwedd o lygad, e.e. llygad y duw Horus ar longau’r Eifftiaid, yn amddiffyn rhag stormydd a llongddrylliadau. Roedd hyn i’w weld yn y dwyrain pell yn ogystal ac fe welwch lun llygaid ar flaen pob jync Tsineaidd a chwch Polynesiaidd hyd heddiw. Roedd blaen-ddelw o’r rhan uchaf o gorff merch – hefo’i llygaid yn rhythu ac yn fron-noeth - yn gyffredin iawn ar longau Ewropeaidd ac Americanaidd yn oes yr hwyliau am fod y llygaid a’r bronnau noethion yn tawelu stormydd.
Y gloch – ar ôl y flaen-ddelw, y gloch oedd yr eitem bwysica ar y llong ac fe’i cedwid yn barchus ymhell ar ôl i’r llong ei hun orffen ei gyrfa – hynny yw, os nad oedd wedi suddo! Ac os suddodd y llong – bydd y gloch yn dal yn glywadwy dan y tonnau adeg drycin!
Ceir stori o Gernyw am forwr glywodd gloch yn canu a’r sŵn yn codi o fedd hen gapten foddwyd yn y môr. Boddwyd y morwr hwnnw ar ei fordaith nesa.