Defnyddiwr:Twm Elias/Sêr a Phlanedau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Y Lleuad== gan Twm Elias ===Y Tywydd=== Mae’n goel gyffredin yndydy? – bod y tywydd yn gwella wrth i’r lleuad gyrraedd ei llawnder, ac mai yn yst...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:30, 2 Mawrth 2017

Y Lleuad

gan Twm Elias

Y Tywydd

Mae’n goel gyffredin yndydy? – bod y tywydd yn gwella wrth i’r lleuad gyrraedd ei llawnder, ac mai yn ystod y lleuad llawn y cewch chi dywydd goreu’r mis. Rydw i’n grediniol fod yr hen goel yma yn eitha cywir hefyd – ar y cyfan. Ond cefais sawl dadl efo anghredinwyr am hynny – pobl Swyddfa’r Met ydi’r gwaetha – yn taeru nad oes tystiolaeth “ystadegol ddibynadwy” bod y lleuad yn effeithio ar y tywydd.

Wel am rwtsh! Meddyliwch – os ydi’r lleuad yn ddigon cryf i effeithio ar y llanw, ac yn achosi llanw mawr adeg y ddau gyhydnos – ddiwedd Mawrth a diwedd Medi – wel mae o’n bownd hefyd o effeithio ar bwysedd yr awyr – sy’n ei dro yn effeithio ar y tywydd. Fel y clywais i rywun yn dweud rhyw dro: “Mae o ’fatha gwrthod cydnabod bod gen ti dwll yn dy dîn – jyst am na fedri di’ weld o! Ond mae o yna garantîd!”


Dylanwadau

Mae’r “Hen leuad wen uwchben y lli” wedi cael dylanwad rhyfeddol arnom ni – ers cychwyn gwareiddiad am ’wn i. Roedd helwyr cyntefig yn maneisio ar oleuni’r lleuad i hela rhai mathau o greaduriaid – creaduriaid y nos, yn naturiol. A phan gododd gwareiddiad amaethyddol – yn y dwyrain canol a llefydd eraill – roedd y lleuad yn sail i’r calendrau cyntefig cynta, ac yn cael ei chysylltu â Duwies Ffrwythlondeb. Roedd hynny yn naturiol, o ystyried bod cylchdro’r lleuad yn 28 niwrnod, yn cyfateb i gylchdro ffrwythlondeb misol merch.

Cynnydd a Gwendid

Mae hi’n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H.y., wrth i’r lleuad gryfhau (neu dod i’w llawnder) fe fyddai ei hegni yn ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu gwanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, byddai ffermwyr a garddwyr yn cynllunio’u gwaith o amgylch hynny ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau’r lleuad yn fanwl bob mis.

Byddid yn hau yn y gerddi a’r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta’r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid ieir i orri fel bo’r cywion yn deor a chynyddu efo’r lleuad. Dyma’r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a’u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo’r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo’r lleuad ar ei ’chelder (Morgannwg).

Adeg gwendid neu ‘dywyllwch’ y lleuad y dylsid tynnu chwyn o’r ddaear; pigo ffrwythau (credid y byddai golau’r lleuad yn gwneud i’r ffrwythau bydru’n gynt); tynnu llysiau; medi’r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i’r coedyn aeddfedu’n iawn).

Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i’r fuwch, myharen i’r defaid, a chawsai’r rhai fyddai’n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio’r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai’r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw’r lleuad llawn yn Leuad Babis.

Hen Lanter y Plwy a’r Lleuad Fedi Bu’r lleuad llawn yn garedig iawn dros y canrifoedd yn goleuo’r nos inni. Mae enwau fel ‘Hen Lantar y Plwy’, ‘Canwyll y Plwy’, y Lanter Fawr, neu hyd’noed ‘Haul Tomos Jôs’ yn dyst o hynny ac roedd hi’n arfer ar un adeg i gyfarfodydd a Steddfodau lleol gael eu cynnal oddeutu’r lleuad llawn – er mwyn i’r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.

Cawsai y lleuad llawn gynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei alw y ‘Lleuad Fedi’ neu ‘Leuad y Cynheuaf’, pryd y ceid y ‘Naw Nos Olau’. Byddai’r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg am y ceid goleuni llachar, bron fel golau dydd, am o leia’ y 4 noson cyn, ac ar ôl, y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario’r sgubau ŷd i’r teisi ac am y byddai’r lleuad yn codi hefo’r machlud gellid dal ati i gario o’r caeau (h.y., cyn dyddiau’r dyrnwr medi) ymhell i’r nos – hyd y wawr pe bai angen.

Lwc, Anlwc a Darogan

Fe gred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu hydnoed drwy ganghennau coed (am fod y gwydr, neu’r canghennau, yn atal, neu ddwyn, lwc dda cynnydd y lleuad). Ac mae rhai yn dangos eu harian i’r lleuad newydd (neu ei droi drosodd yn eu poced) – er mwyn iddo gynyddu hefo’r lleuad ynde? Ond rhaid i’ch prês fod yn arian go iawn, neu weithith o ddim. Dim rhyfedd bod y £ wedi colli ei gwerth cymaint ers i gyfansoddiad ein harian poced newid o’r metel arian i cupro-nicel! [Gostyngodd i 50% arian yn 1920 ac i cupro-nicel pur yn 1947]

I sicrhau lwc dda arferai pobl Ceredigion godi eu hetiau’n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai’r merched yn bowio iddi. Mae’n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta’r flwyddyn fe gaiff ei wireddu (cofiwch honna!). Yn Sir Gaernarfon, pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i’r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno.

Lloerig

Fe dybid hefyd fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae’r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a ‘Lloerig’ yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny - ac mae’r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o ‘benwendid’ yn y cyfnod a ddilynai’r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau’r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad!

Dyn neu Sgwarnog y Lleuad

Coel sy’n gyffredin drwy wledydd Ewrop yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad o hen ŵr yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Ond yn yr India, Tsieina, Japan, a de Affrica sgwarnog neu wningen welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau’r Aztec ym Mecsico i bortreadu’r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â’r dduwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o’r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am Melangell yn rhoi lloches i’r sgwarnog rhag helgwn y tywysog Brochfael ym Maldwyn?

Mercher

Dylanwadau Astrolegol

Mae’n debyg bod y goel y gall y sêr, y lleuad a’r planedau ddylanwadu ar ein bywydau a’n tynged ni, yn un o goelion hynna’r ddynoliaeth. Ond, ar ben hynny, mae’n syniad sydd wedi dal yn eithriadol o fyw hyd heddiw. Does ond ichi ystyried gwerth blynyddol y ‘diwydiant’ astrolegol modern a phoblogrwydd colofnau dweud ffortiwn seryddol mewn papurau newydd a chylchgronnau i weld hynny.

Un o hanfodion astroleg yw bod y planedau, fwy neu lai, yn gorwedd ar yr un gwastad wrth iddynt gylchdroi rownd yr haul. Golyga hynny bod llwybrau eu teithiau gofodol, fel meant i’w gweld o’r ddaear, i’w canfod ar hyd gwregys cul o awyr sy’n ymestyn rownd y ddaear ac o un gorwel i’r llall. Ar hyd y gwregys hwn y gorwedda’r cytserau sy’n ffurfio 12 arwydd y Sidydd fyddant yn cylchdroi yn araf bach uwch ein pennau yn ystod y flwyddyn gan ddylanwadu, yn eu tro, ar dynged bawb a phopeth – yn ôl yr astrolegwyr.

Credant hefyd y bydd y planedau, hwythau, yn dylanwad arnom gan ddibynnu ar pa arwydd Sidydd y byddent yn digwydd pasio drwyddo ar y pryd, e.e. credir bod Mercher yn rheoli arwyddion yr Efeilliaid (Gemini) yn ystod y dydd a’r Forwyn (Virgo) yn ystod y nos ac yn rhoi huodledd, medrusrwydd a sioncrwydd, yn ogystal ag anwadalwch i’r sawl sydd dan ei ddylanwad.

Mercher – negesydd y duwiau

Mae yna wahaniaethau yn yr hyn a welwn o’r ddaear o batrwm symudiad y planedau. Bydd y rhai sy’n bellach na ni o’r haul yn ei hwylio hi’n braf ar draws yr awyr o un cwr i’r llall. Ond fedr Mercher, na Gwenner, sydd rhyngthom ni a’r haul, ddim gwneud hynny. Byddant hwy yn ymddangos am gyfnodau byrrach – yn gynnar ac yn hwyr yn y nos, a Mercher ddim ond am ryw awr ar y mwyaf cyn y wawr ac wedi’r machlud.

Bydd Mercher i’w gweld yn agos at y gorwel yn y gwyll rhwng dydd a nos, yn hebrwng yr haul tuag at oleuni’r wawr neu yn ei ddilyn i’r tywyllwch gyda’r machlud. Mae fel petae’n ffoi rhag y tywyllwch i’r goleuni neu rhag y goleuni i’r tywyllwch. Dim rhyfedd felly i’r blaned fach hon gael ei hystyried gan sawl gwareiddiad yn negesydd y duwiau; yn symyd rhwng goleuni a thywyllwch a rhwng bydoedd y byw a’r meirw i arwain eneidiau i wlad y meirwon. I’r Groegiaid, Hermes oedd ei enw, i’r Babiloniaid – Nabŵ y Doeth ac i’r Eifftiaid – Thoth.

Roedd yn amlwg hefyd bod Mercher yn symyd yn gyflym iawn o’i gymharu â’r planedau eraill. Ac mae hynny’n hollol gywir oherwydd yr agosaf ydych at yr haul y cyflyma yw eich hynt. Mae Mercher yn teithio tua dwywaith cyflymach na’r ddaear ac yn cwblhau ei ‘flwyddyn’ mewn 88 niwrnod. Dyma sy’n cyfri am ei ddelwedd fel rhedwr, wedi ei bortreadu hefo adenydd ar ei fferau a’i helmed.

Ond roedd Mercher hefyd yn gyflym a sgilgar mewn sawl maes. Ef oedd duw cerdd am iddo ddyfeisio’r delyn, a’i fab, Pan, oedd dyfeisydd y pibau Pan enwog sy’n dwyn ei enw. Roedd yn dduw masnach (tardda ei enw o’r un gwreiddyn a ‘merchant’) ac yn dduw lladron a thwyllwyr – am mai ef fyddai’r duwiau yn ei yrru i ddwyn yr hyn fyddai’n amhosib cael gafael arno. Roedd hefyd yn dduw ffraethineb (am ei fod yn slic iawn ei dafod), cyfrwysdra, direidi, gwybodaeth, lwc dda, ffyrdd, teithwyr, dynion ifanc a bugeiliaid. Yn ogystal, roedd ei ffon adeiniog, hefo dwy sarff wedi eu plethu am ei phen, yn arwydd ffrwythlondeb, iechyd a doethineb.

Mercher y Celtiaid

Dywed Cesar am y Celtiaid: ‘O’r holl dduwiau meant yn addoli Mercher yn fwy na’r un arall a chanddo y mae y nifer fwyaf o ddelweddau; dywedasant mai ef greodd gelfyddyd a’i fod yn dywysydd ar ffyrdd a siwrneiau, a chredasant mai ef sydd fwyaf dylanwadol i wneud arian a masnach’.

Gwaetha’r modd, ni chofnodwyd enw amgenach iddo gan y Rhufeiniaid na: ‘Y Mercher Celtaidd’, oedd yr un mor amryddawn a’r un Rhufeinig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel duw rhyfel yn ogystal. Caiff ei bortreadu ar allorau ac mewn cerfluniau hefo’i anifeiliaid sanctaidd – ceiliog, gafr (neu hwrdd) a chrwban o gwmpas ei draed. Weithiau mae ganddo dri phen neu dri wyneb, sy’n treblu ei ddoethineb, ac ar y cyfandir fe’i ceid yn aml ar gerfluniau yng nghwmni duwies golud.

Ychydig iawn o’r duwiau Celtaidd sydd ag enwau cydnabyddedig iddynt mewn gwirionedd. Mae’n debyg fod eu gwir enwau yn gyfrin, yn cuddio dan ochl sawl enw amgen fyddai’n amrywio dan wahanol amgylchiadau ac o un llwyth neu gwlt i’r llall. Ond os edrychwn ar y chwedlau Cymreig a Gwyddelig fe welwn bod ambell arwr yn cyfateb yn eitha agos i’r Mercher Celtaidd.

Yn yr Iwerddon gwelwn bod Ogma yn un fersiwn ohono – yn gysylltiedig â ffraethineb, yn fardd ac yn ddyfeisydd yr alffabet Ogam yn ogystal a bod yn hebryngydd eneidiau’r meirwon i’r byd arall.

Ond o’r cyfan, Lleu, neu’r ‘Lugh’ Gwyddelig, sydd agosa. Os disgrifid Mercher gan y Rhufeiniaid fel ‘dyfeisydd pob celf’, llysenw Gwyddelig Lugh oedd ‘galluog ymhob celf’. Disgrifir hynny yn y stori amdano yn ceisio mynediad i wledd fawr yn Tara. A’r porthor yn gwrthod mynediad iddo onibai ei fod yn feistr ar gelf – ni chawsai neb fynediad heb hynny.

’Rydw i’n saer’ meddai Lugh, ond roedd saer i mewn yn barod ac fe’i gwrthodwyd. ’Rydw i’n ofaint’ meddai wedyn, ond roedd un o’r rheiny yno hefyd. Rhestrodd Lugh ei ddoniau fel arwr, telynor, bardd, hanesydd, dewin, heliwr, meddyg, crefftwr ayyb, ond roedd pob un crefft wedi ei chynrychioli yn barod. ‘Wel, oes yna rywun sy’n cyfuno’r sgiliau hyn i gyd ’ta?’ gofynodd. Ac am nad oedd, cafodd fynediad.

Dydd Mercher

Cred rhai bod rhai dyddiau’r wythnos yn fwy lwcus neu anlwcus na’i gilydd, a bod dydd Mercher yn sicr yn dod dan ddylanwad y duw y’i galwyd ar ei ôl. Roedd yn ddydd o lwc gymysg, yn dda i ddechrau triniaeth feddygol, sgwennu llythyr, gofyn am ffafr ac i dorri gwinedd eich traed. Ond roedd yn ddydd sal i briodi (byddai eich plentyn yn siwr o fynd i’r crocbren), neu i gychwyn rhywbeth newydd – yn enwedig busnes am y byddai mwy o ladron a thwyllwyr o gwmpas ar ddydd Mercher. Roedd hefyd yn un o ddydiau’r gwrachod, felly rhaid peidio corddi menyn, clymu’r gwartheg am y gaeaf na chwaith gyrru moch – rhag ofn iddynt fynd ar goll. Ac os oedd hi’n gyfnod y lleuad newydd fe fyddai’r agweddau anlwcus hyn o ddydd Mercher yn saith gwaeth!

Gwener

Y Blaned

Gwenner ydy’r ail blaned o’r haul; cymdoges agosa’r ddaear a’r ddisgleiraf o’r holl blanedau. O ran maint mae’n debyg iawn i’n daear ni ac fe’i hystyriwyd ar un adeg fel efeilles inni. Ond mae iddi natur tra gwahanol. Cuddir ei hwyneb gan gymylau trwchus gwenwynig a danghosodd ymweliadau gan longau gofod, o’r 1970au ymlaen, bod yr wyneb ei hun yn uffern eiriasboeth a difywyd o losgfynyddoedd a chraterau enfawr. Bydd y tymheredd ar ei hwyneb yn cyrraedd tua 460°C a phwysau’r awyr tua 90 gwaith mwy na’n daear ni – nid rhywle i fynd ar eich gwyliau yn sicr!

Mae’n amlwg, felly, bod y blaned wedi cael ei chamenwi! Mae mor wahanol i’r ddelwedd o Wenner, duwies cariad a harddwch….onibai, ar y llaw arall, ei bod yn cynrychioli tempar merch sy’ wedi ei phechu! Gwae chi wedyn rhag ei chynddeiriowgrwydd!

Oherwydd ei chymylau trwchus, sy’n adlewyrchu’r haul mor dda, ychydig iawn a wyddem amdani tan yn lled ddiweddar. Hydnoed cyn hwyred a’r 1960au tybid bod ei hwyneb yn gefnforoedd eang a bod rhannau ohonni, efallai, yn fforestydd tebyg i’r hyn oedd ar y ddaear adeg ffurfio’r meusydd glo. Roedd posibiliadau o’r fath yn sbardun enfawr i ddychymyg awduron ffuglen wyddonol. Faint ohonoch sy’n cofio Dan Dare a’r ‘Fenwsiaid’ yn y comic ‘The Eagle’ yn y 1950au? Ac yn ei stori fer enwog, ‘The Illustrated Man’, disgrifia Ray Bradbury helynt teithwyr gofod ar Gwenner yn ceisio lloches rhag y glaw parhaus. Roedd o’n rhannol gywir – mae hi yn bwrw’n barhaus yno – ond am fod wyneb y blaned mor boeth dydy’r glaw byth yn cyrraedd y llawr. Fe ddisgyna o tua 20 milltir uwchben y wyneb, ond try’n ager ar uchder o tua 10 milltir!

Rhaid oedd aros tan i longau gofod Rwsiaidd, yng nghyfres ‘Venera’ a ‘Vega’, lanio ar Gwenner rhwng 1970 a 1984, cyn y cawsom wybodaeth gywir am ei natur. Ers hynny llwyddwyd i fapio ei nodweddion daearyddol yn fanwl a chytunwyd, drwy’r Undeb Astronomegol Ryngwladol, ar enwau iddynt. Nid yn annisgwyl, enwau merched sydd i’r mwyafrif ohonynt, e.e. enwyd ‘cyfandir’ o lif folcanig ar ôl Aphrodite, duwies cariad y Groegiaid; crater anferth ar ôl y gantores Billie Holiday ac ucheldir Lada ar ôl y dduwies Slafaidd (nid y car!). Ac os ydych am gysylltiad Cymreig – ceir ucheldir ‘Guinevere’, neu Gwenhwyfar, wrth gwrs. Ond mae un eithriad, enwyd rhes o fynyddoedd ar ôl y gwyddonydd Albanaidd, James Clerk Maxwell. Ef, druan ohono, yw’r unig ddyn ar y blaned!

Am ei bod yn nes i’r haul na ni fe fydd ei hymddanghosiad yn newid, yn union fel y lleuad, o lawn i hanner i chwarter ayyb. Mae’n eitha hawdd gweld hynny os edrychwch arni drwy sbienddrych go dda, neu delisgôp.

Fydd hi byth yn crwydro ymhell o’r haul, chwaith, a bydd i’w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y’i gelwir un ai yn Seren y Gweithiwr, am ei bod yn codi gyda’r wawr, neu yn Seren y Machlud. Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda’r nos.

Eicon Sosialaidd

Daeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i’r mudiad sosialaidd yn y ganrif ddiwethaf gan ymddangos yn amlach ar faneri’r gwledydd Comiwnyddol na hydynoed y morthwyl a’r cryman a’r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y proletariat. Fe’i gwelir hyd heddiw ar faner Tsieina, Angola, Y Congo, Ciwba, Gogledd Korea, Mozambique a Fietnam ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen USSR, yr hen Iwgoslafia ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri’r Undebau Llafur a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau enwog o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i’w gwaith yn y boreuau.

Cysylltiadau dwyfol

Gwenner oedd duwies cariad a harddwch y Rhufeiniaid ac yn cyflawni swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte’r Groegiaid. Ond nid delweddau o’r fath geir i’r blaned gan bawb o bobol y byd. I’r Tsieineaid, mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd a’r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I’r Maya roedd y blaned yn un ryfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai’r bobl yn cau eu drysau a’u ffenestri rhag pelydrau, neu saethau, y duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I’r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.

Anodd nabod duwies gyfatebol i Gwenner ym mytholeg y Celtiaid, yn enwedig ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae’n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a’r gallu i wella yn ogystal a rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a’u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i’r llall. Tebyg i briodoleddau delfrydol merch go iawn ynde? Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwenner ar hyd a lled Ewrop, sy’n dangos grym dylanwad yr Imperialwyr yn eu cyfnod.

Seryddiaeth

Creda seryddwyr bod y planedau yn dylanwadu’n drwm ar bobl. Yn ‘Seryddiaeth, neu Lyfr Gwybodaeth yn Dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion’, Llanrwst (1830), dywed Robert Roberts (mab i John Roberts, Almanac Caergybi): “Y mae y blaned hon (Gwenner) i’w chyfri yn blaned fawr…a’i natur yw gwneud priodasau, uno pobloedd trwy chwant; hon sy’n rheoli yr arenau, a’r natur yn y rhan honno sy’n peri carwriaeth a serch cnawdol y naill at y llall…” “Y mae’r bobl yma o dymer lawen, ysmala, yn hoffi bod mewn cwmni ysmala, sef mewn tafarnau, yfed diodydd cryfion mewn llawenydd a hawddgarwch, canu cerddi gwagedd, chwerthin, dawnsio, a tharo penill gyda’r tannau…” Maent yn swnio’n dipyn o hwyl i mi!


Y Ddaear

Sut ar y ddaear mae hydnoed cychwyn son am lên gwerin y ddaear? Mae’n faes mor anferth fe fyddai angen cyfrol yn hytrach na cholofn neu ddwy i wneud cyfiawnder â fo. Ond o leia gallwn edrych ar un agwedd sy’n gydnaws â thema gosmig y gyfres hon, drwy holi sut y daeth y ddaear i fodolaeth yn y lle cynta.

Mae gan pob diwylliant ei stori am y creu – ceir dwy yn Genesis hydynoed. Serch hynny, er yr amrywiaeth rhyfeddol ym manylion y straeon hyn cawn sawl thema gyffredin.

Yn ôl y mwyafrif ohonynt doedd dim ond anrhefn yma ar y cychwyn ar ffurf môr diderfyn neu anialwch di-ffurf mewn tywyllwch llwyr. Cred eraill mai o freuddwyd y daeth popeth. Ond i gael trefn ar yr anrhefn cychwynol yma, a chreu bodolaeth o anfodolaeth, roedd angen gweithred ac fe ddigwydodd hynny un ai drwy ddamwain neu drwy fwriad rhyw greawdwr neu’i gilydd.

I’r Sgandinafiaid damwain oedd y cyfan, a’r byd wedi cychwyn drwy hap pan ddaeth tân a rhew at ei gilydd yng ngheubwll anrhefn, a elwir Ginnungagap. Ond y gred fwyaf cyffredin yw mai rhyw greawdwr fu ar waith, e.e. yn ôl y Tiv yng ngogledd Nigeria, saer coed oedd y creawdwr, oedd wedi cerfio popeth yn ôl ei ddelwedd ef o berffeithrwydd a rhoi bywyd iddynt.

Beth am gymryd golwg felly ar rai o brif themau stori’r creu drwy’r byd:

Ai breuddwyd yw’r cyfan?

I frodorion Awstralia cychwynodd popeth yn amser y freuddwyd (dream time) ac mae’r ffin rhwng y freuddwyd fawr honno a’n realaeth ni yn dal yn un dennau iawn ar y gorau. Rhaid cynnal y defodau priodol, cadw at reolau tabŵ a pharchu ysbrydion pawb a phopeth os am i bethau aros yn eu priod le.

Efallai bod perthynas â hyn yn y syniad Hindwaidd mai myfyrdod y duw Brahma wedi troi’n realaeth yw ein bodolaeth ni ac mai drwy fyfyrdod y cawn ninnau’r allwedd i ystyr y bodolaeth hwnnw.

Anrhefn dyfrllyd a dreigiau

Dyma’r stori fwyaf cyffredin ac eang ei dosbarthiad drwy’r byd am yr hyn oedd yma gynta, sef anrhefn dyfrllyd neu fôr di-ffurf ac, yn aml iawn, efo anghenfilod dinistriol yn byw ynddo. Rhaid oedd lladd yr anghenfilod hyn cyn i’n byd ni fedru dod i fodolaeth. Ym mytholeg y Sumeriaid, 3,500CC, ceir hanes Nammu (duwies y dyfroedd) roddodd enedigaeth i’r awyr a’r ddaear. Yn un rhan o’r stori mae’r arwr-dduw Ninwta yn lladd y sarff-ellyll Kur ac yn defnyddio’r corff fel morglawdd i wahanu’r tir oddiar y môr.

Hon yw’r fersiwn gynharaf o deulu cyfan o fythau Indo-Ewropeaidd am rai’n brwydro yn erbyn draig, e.e. Hercules a’r Hydra; Perseus a Medusa; Sant Siôr a’r ddraig; Beowulf a Grendel; Krishna a Kaliya a cheir sawl stori leol drwy’r byd Celtaidd am arwr yn lladd anghenfil y llyn i achub y ferch oedd am gael ei haberthu iddo.

Ceir straeon tebyg yn Tsieina am y dduwies-greawdwr Nu Wa yn brwydro yn erbyn draig yr Afon Felen, tra yn yr Aifft bu raid trechu sarff y dyfroedd a’i halltudio i’r is-fyd cyn y daethai’r byd i drefn. Mae brwydro yn erbyn sarff neu grocodeil enfawr yn thema gyffredin yn y straeon creu o Indonesia tra yn Awstralia ceir stori o amser y freuddwyd am y frwydr rhwng y dduwies-greawdwr ar ffurf sarff yr enfys a’i mab. Yn ystod y frwydr honno y daeth tir, mynyddoedd ac afonydd i fodolaeth.

Ym mhenod gynta Genesis sonir am “ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd”, ac “Yna dywedodd Duw ‘casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych’”. Ni sonir am ddraig yma, ond yn Eseia 27, 1 dywedir: “Yn y dydd hwnnw bydd yr Arglwydd a’i gleddyf …yn cosbi Lefiathan y sarff…ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr”, ac yn y Salmau 74, 13-14: “Ti a’th nerth rannodd y môr, torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan…”

Codi o’r dyfroedd

Yn rhai fersiynnau o’r creu o anrhefn dyfrllyd ceir bod tir sych wedi ei godi o waelod y môr, un ai gan greawdwr-bysgotwr oedd wedi ei fachu a’i godi o’r dyfnder (Polynesia); crwban môr yn gwthio tywod i fyny (Hawai, de-ddwyrain Asia ac India) neu aderyn neu greadur arall yn plymio a chodi llaid (canol Asia, Siberia a gogledd America).

Creadigaeth sych

Daw’r mwyafrif o’r straeon hyn o dde-ddwyrain Asia a’r rhannau sych o Affrica ac Awstraila, e.e. yn Gini Newydd sonir am fyd sych a chreigiog a phobl yn ymddangos o dwll yn y ddaear.

Yn ôl dehongliad rhai, ceir fersiwn arall o’r creu sych yn Genesis 2, 4-7. Yma, fel rhagymadrodd i hanes creu Adda o lwch y tir ac Efa o’i asen, dywedir: “Yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod i’r tir…”. Ni cheir son o gwbwl am y môr yn y fersiwn hon a daw dŵr i fodolaeth fel “tarth yn esgyn o’r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.”

Ŵy cosmig

I’r Dogon yng ngorllewin Affrica, y creawdwr Amma dorrodd blisgyn yr ŵy dwyfol oedd yma ar y cychwyn, gan ollwng yn rhydd y ddau dduw sy’n cynrychioli trefn ac anrhefn.

Yn Tsieina datblygodd y cawr dwyfol Pan Gu oddimewn i ŵy cosmig a nofiai yn anrhefn. Pan ddeffrodd y cawr torrodd y plisgyn yn ddau ddarn a elwir yn Yin (tywyllwch) a Yang (goleuni). Cyferbynia Yin a Yang hefyd fennyw a gwryw, oerni a gwres, meddal a chaled, da a drwg ayyb. Safodd Pan Gu, fel y gwnaeth Atlas, am oes gyfan yn cadw’r dau ddarn (y ddaear a’r awyr) ar wahan a phan fu farw daeth yr haul o’i lygad dde, y lleuad o’i lygad chwith, y gwynt o’i anadl, glâw a gwlith o’i chwys a mynyddoedd, afonydd, ffyrdd, coed, metalau a bob dim arall o wahanol rannau o’i gorff.

Lladd anrhefn drwy ddamwain

Ceir ambell stori ddigon doniol. Er enghraifft o Tsieina daw hanes dau o Ymerawdrwyr y moroedd yn cyfarfod â Ymerawdwr Anrhefn. Sylwodd y ddau nad oedd gan Ymerawdwr Anrhefn y 7 twll corfforol arferol, fel yr oedd ganddynt hwy, i weld, clywed, anadlu ayyb. Dyma fynd ati felly, fel ffafr iddo, i dorri’r cyfryw dyllau efo ebillion a drilau, un twll y dydd. Ond roedd yr holl dyllu’n ormod ac ar ddiwedd y seithfed dydd bu farw Ymerawdwr Anrhefn druan. Ac o’r eiliad honno fe ddaeth ein byd trefnus ni i fodolaeth.

Cylch di-derfyn?

Yn y frwydr ddi-derfyn rhwng trefn ac anrhefn disgrifia rhai mythau sut mae’r byd yn cael ei greu a’i ddinistrio’n gyson. I’r Hopi yn Arizina bu sawl byd, ond dinistriwyd y cynta gan dân, yr ail gan rew a’r trydydd gan ddilyw. Rydym yn awr yn y pedwerydd byd a bydd hwn yn dod i ben cyn bo hir.

Mae hyn yn debyg i syniad yr Aztec o greu a chwalu parhaus yn deillio o ffraeo rhwng pedwar mab y creawdwr. Gwaed aberth oedd yr unig beth gadwai byd yr Aztec rhag chwalu’n ôl i anrhefn.

Yn yr India gollyngodd y duw Vishnu lotus o’i fogail, ac ynddi y creawdwr Brahma. O fyfyrdod Brahma y creuwyd y byd cyntaf cyn i’r byd hwnnw ymdoddi yn ei ôl i anrhefn ac i fyd arall godi yn ei le. Erbyn hyn rydym yn y pedwerydd byd.

Er nad ydy’r traddodiad Groegaidd / Rhufeinig yn son am ddinistr y byd ar ddiwedd pob cylch, fe soniant am 5 oes, a phob oes yn gysylltiedig â phobol wahanol. Efallai bod cysylltiad yma â’r traddodiad Celtaidd a welwn ar ei fwyaf cyflawn yn stori 5 goresgyniad Iwerddon gan bump tylwyth chwedlonnol cyn dyfodiad y Gwyddelod eu hunnain.

Prin a gwasgaredig yw’r wybodaeth am stori’r creu yn ôl y Derwyddon. Fe esgeulusodd y mynachod a gofnododd yr hen chwedlau yn y canol oesoedd wneud hynny am ryw reswm. Ond yn ôl haneswyr Rhufeinig ystyriai’r Derwyddon eu hunnain yn gyfrifol am y creu a bod angen aberthu pobl yn flynyddol i gadarnhau ail-enedigaeth (neu ail-greu) yr haul yn rheolaidd. Roeddent hefyd yn credu mai’r modd y deuai’r byd i ben fyddai i’r awyr gwympo ar y ddaear!


Mawrth

Mawrth yw’r unig blaned i roi ei henw i un o ddyddiau’r wythnos yn ogystal a un o fisoedd y flwyddyn. Hi yw’r bedwaredd blaned o’r haul ac am fod iddi liw coch trawiadol fe’i cysylltid â rhyfel, tywallt gwaed a thân yn y dyddiau a fu – yn enwedig yn Ewrop a’r dwyrain canol. Mae tua hanner maint y ddaear; tua 1½ gwaith pellach o’r haul na ni; yn troi ar ei hechel unwaith bob 24.63 awr ac yn cymeryd 687 o ddyddiau i fynd rownd yr haul, sy’n golygu bod ei blwyddyn bron ddwywaith hirach na’r un ddaearol.

Oherwydd ei bod yn bellach na ni o’r haul mae ei hwyneb yn oerach ac yn amrywio o –125°C yn y pegynnau rhewllyd i 25°C yn llygad yr haul ar y cyhydedd. Er nad yw pwysedd yr awyr ond yn 6mb (llai na 1% o bwysedd atmosfferig y ddaear), mae hynny’n dal yn ddigon i beru gwyntoedd cryfion sy’n achosi stormydd llwch amlwg iawn ar adegau a rheiny’n medru para am wythnosau. Mae’r aer dennau yn 95% carbon deuocsid, â’r gweddill yn neitrogen, argon ac ychydig bach bach o ocsigen ac anwedd dŵr.

Am na fu’r prosesau erydu sydd wedi llunio tirwedd y ddaear cyn gryfed ar Fawrth fe erys rhai o’i mynyddoedd yn eithriadol o uchel a garw a cheir ceunentydd enfawr a serth sydd sawl gwaith dyfnach a hirach na’r ‘Grand Canyon’. Ceir hefyd losgfynyddoedd, e.e. Olympus Mons, sydd, eto, lawer iawn mwy na dim geir ar y ddaear, a sawl crater amlwg lle bu gwrthdrawiadau â sêr gwib o’r gofod yn y gorffennol. Nodwedd amlwg iawn yw’r pegynnau gwynion, sydd yn gapiau rhew – 85% carbon deuocsid a 15% dŵr. Heblaw am y pegynnau ni cheir dŵr ar yr wyneb ar hyn o bryd, ond yn ddiweddar daeth llawr o dystiolaeth ffotograffig y bu dŵr yn llifo yma ar un adeg – ni fedr rai o’r nentydd sychion a rhai nodweddion eraill fod wedi cael eu creu gan ddim byd arall yn ôl y farn wyddonol.

A oes Bywyd?

Mae presenoldeb dŵr, yn codi’r cwestiwn dyrus: a oes, neu a fu, bywyd ar Fawrth? Ym Mehefin 1976 cyrhaeddodd Viking 1 wyneb y blaned ac arni lwy fecanyddol i godi samplau o bridd a’u dadansoddi’n gemegol am olion bywyd. Pan roddwyd maeth hylifol ar rai o’r samplau bu cyffro mawr pan gynhyrchwyd ocsigen, yn union fel y gellid ei ddisgwyl petae bacteria cyntefig yn y pridd. Gwaetha’r modd doedd y prawf ddim digon manwl oherwydd gallasai prosesau di-fywyd roi’r un canlyniad. Ers hynny cynhaliodd cerbyd bach crwydrol y Mars Pathfinder (1997), a dau arall – y Spirit ac Opportunity (2004) – brofion tebyg ond, eto, amhenodol fu’r canlyniadau. Mae’r ddadl yn parhau felly.

'Marshans'

Ond os na fedr technoleg fodern brofi yr un ffordd na’r llall, hyd yn hyn, bod bywyd ar Fawrth doedd y fath ansicrwydd ddim yn bodoli yn hanner cynta’r 20g. Pan ddaeth Giovanni Schiaparelli i’r canlyniad, yn 1877, bod patrymau ar ffurf llinellau i’w gweld ar wyneb Mawrth (canali fel y’u gelwid yn yr Eidaleg), buan y daeth pobl, gan gynnwys y seryddwr enwog Percival Lowell ddechrau’r 20g, i gredu mai camlesi enfawr oeddent, wedi cael ei hadeiladu gan wareiddiad datblygiedig i drosglwyddo dŵr o’r pegynnau i ddyfrio’r anialdiroedd.

O ganlyniad aeth dychymyg pobl yn rhemp am fywyd ar blanedau eraill a buan y daeth nofelwyr i sgwennu am deithiau gofodol, gan gyfuno ychydig o wyddoniaeth, stori antur dda a chryn dipyn o wreiddioldeb! Esgorwyd ar ‘genre’ newydd o sgwennu ddaeth yn adnabyddus fel ffuglen wyddonol, e,e, Percy Gregg â’i Across the Zodiac (1890), ddisgrifiodd daith mewn llong ofod drwy system yr haul yn ymweld a’r planedau, gan gynnwys y Fawrth boblog. Yna, yn 1898 cyhoeddodd HG Wells ei nofel enwog War of the Worlds a The First Men in the Moon yn 1901. Daeth War of the Worlds i amlygrwydd byd eang yn 1938 pan y’i ddarlledwyd ar y radio yng ngogledd America gan Orson Welles. Roedd cyflwyniad Welles, ar ffurf adroddiad newyddion, mor ddramatig nes yr achosodd banic llwyr ymysg llawer o’i wrandawyr gan beri iddynt ffoi yn eu degau o filoedd o Efrog Newydd rhag llongau gofod dinistriol y ‘Marshans’, gan achosi’r tagfeydd traffig a’r llanast mwyaf welodd y ddinas erioed.

O’r 1920au hwyr daeth cylchgronnau a nofelau ffuglen wyddonol i werthu yn eu cannoedd o filoedd, a daeth y dynion bach gwyrdd, efo cyrn malwen ar eu pennau yn eiconau llenyddol poblogaidd mewn comics, dramâu radio cyffrous a rhai o ffilmiau byrrion Fflash Gordon a sawl ffilm wael, hirach, yn y 1950au. Ni chafwyd ymdriniaeth gall o Fawrth yn y maes hwn tan The Sands of Mars, Arthur C Clarke (1951), sy’n weddol agos at ei le o ran yr amgylchedd mae’n bortreadu ar y blaned goch.

Dim ond yn raddol, wrth i delescopau gwell gael eu datblygu, y gwelwyd mai twyll llygad oedd wedi rhoi’r argraff o linellau, neu ganali, ac mai anialwch orchuddiai wyneb y blaned goch. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth pan lwyddodd y lloeren Mariner 9, fu’n cylchdroi o amgylch Mawrth, yrru lluniau manwl yn ôl i’r ddaear yn 1971 – 72.

Ymlaen i Fawrth!

Cymaint oedd dylanwad ffuglen wyddonol ar bobl ifanc ddechrau’r 20g nes yr ysgogwyd rhai i chwilio am ddulliau o gyrraedd y gofod ac i arbrofi efo rocedi. Darllen War of the Worlds ysbrydolodd yr Americanwr ifanc Robert Goddard i ddyfeisio a lawnsio’r roced danwydd hylif gynta yn 1926. Darllen deunyddiau tebyg yn yr Almaeneg gychwynodd yrfa Werner von Braun (a ddyfeisiodd rocedi i Adolff Hitler, a’r Americanwyr yn ddieddarach) ac yr un oedd cefndir Fredrik Tsander fu’n gyfrifol am lawnsio rocedi cynta Rwsia. Cri Tsander i ysbrydoli ei gyd-weithwyr fyddai “Ymlaen i Fawrth!”

Mawrth y Duwiau

Lliw coch y blaned, neu’r seren symudol hon, fu’n gyfrifol am iddi gael ei henwi ar ôl Mawrth – duw rhyfel y Rhufeiniaid – sy’n cyfateb âg Ares, duw rhyfel, terfysg a thywallt gwaed y Groegiaid a Nergal, y duw o Mesopotamia sy’n lladd drwy ryfel a phla. Yn Tsieina cysylltir y blaned â thân a gwaed.

Roedd gan y Celtiaid sawl duw a chwlt lleol fyddai’n cyfateb i’r Mawrth Rhufeinig ond yn hytrach na chyfyngu ei hun i fod yn dduw’r milwyr, ac un ffyrnig a didostur oedd o hefyd, yn cynrychioli rhyfel er mwyn rhyfel, roedd y ‘Mawrth’ Celtaidd yn ehangach ei fryd. Byddai’n amddiffyn rhag drygioni ag afiechydon yn ogystal. Cafwyd delwau ac arysgrifau o’r cyfnod Rhufeinig i ‘Mars Nodeus’, yn iachawr gysylltir â Lydney yn ne Lloegr; ‘Mars Camulos’ gysylltir â Camulodunum (Colchester) a Camuloressa (yn ne’r Alban); ‘Mars Lenus’ oedd yn iachawr ac amddiffynwr yr ifanc sy’n gysylltiedig â ffynhonnau yng Ngâl ac y cafwyd delw iddo yng Nghaerwent. Portreadir Lenus fel milwr efo gŵydd wrth ei droed – aderyn sy’n aml yn cael ei gysylltu â duw rhyfel y Celtiaid oherwydd ei natur ymosodol a’r ffaith y bydd yn rhybuddio rhag peryg. Cafwyd yr enw ‘Mars Ocelus’ hefyd yng Nghaerwent, efo Ocelus, mae’n debyg yn enw gan y Silwriaid lleol am y Mawrth Celtaidd.

Deimos a Phobos

Mae gan Fawrth ddwy leuad fechan, Deimos (arswyd) a Phobos (ofn), sydd ddim ond rhyw chydig gilomedrau ar eu traws ac yn debyg o fod yn asteroidau wedi eu dal yn hytrach na lleuadau go iawn. Fe’u gelwid ar ôl meibion Ares ac Aphrodite – duw rhyfel a duwies cariad y Groegiaid. Mae cylchdro Phobos yn lleihau’n raddol – ryw ddwy fedr y flwyddyn – sy’n golygu y bydd yn disgyn, gan achosi craith ar wyneb ei ‘dad’, ond ymhen 50 miliwn o flynyddoedd!