Defnyddiwr:Twm Elias/Sêr a Phlanedau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 298:
 
Hm! Fe hoffwn i ofyn pe bai Neifion ac Iwranws wedi eu canfod ar ryw gyfnodau hanesyddol eraill, tybed fyddai efeithiau astrolegol gwahanol wedi cael eu priodoli iddyn nhw? Ond dyna fo, dim ond rhyw hen anghrediniwr fel fi fyddai’n gofyn peth felly ynde?
 
 
 
==Plwto==
 
===Plwto – duw’r is-fyd===
Mae Plwto bell wedi ei enwi, yn addas iawn, ar ôl y duw’r is-fyd Rhufeinig sy’n cyfateb yn agos iawn i Hades y Groegiaid. Yn ôl y chwedl, wedi i Iau, y prif dduw, drechu a sbaddu ei dad Sadwrn, gwahoddodd ei ddau frawd i dynnu byrraf docyn i benderfynnu pwy gawsai reoli yr awyr, y môr a’r is-fyd. O ganlyniad Iau ddaeth i reoli’r awyr, Neifion y moroedd a Phlwto yr is-fyd.
 
Yr is-fyd yw trigfan y meirw ac yn le estron iawn i bopeth byw. Anaml iawn y deuai Plwto i fyd y byw, er iddo ddod unwaith a chipio Prosperina (Persephone i’r Groegiaid) a’i dwyn i’w fyd ei hun i fod yn frenhines iddo.
 
Pan ddarganfyddwyd planed newydd, y 9fed o’r haul, yn 1930 ni chafwyd llawer o drafferth i’w henwi – nid fel yn achos Iwranws (gw. Llafar Gwlad 99) oherwydd bod bron pob un o brif dduwiau clasurol y Rhufeiniaid erbyn hynny wedi eu cydnabod yn enwau’r planedau, heblaw Plwto. Cynhaliwyd cystadleuaeth gyhoeddus i chwilio am enw a dewiswyd Plwto yn unfrydol gan banel o staff Arsyllfa Lowell yn Arizona, lle darganfyddwyd y blaned newydd, wedi i ferch unarddeg oed, Venetia Burnley o Loegr, ei gynnig. Cafodd Venetia £5.00 o wobr.
 
===Yr is-blaned Pliwto===
Am sawl rheswm penderfynodd yr Undeb Astronomegol Ryngwladol yn 2006 i ddiraddio Plwto, druan bach, o fod yn blaned i is-blaned. Bellach nis cydnabyddir yn ddim mwy na un o’r llu enfawr o gyrff bychain sy’n cylchdroi am yr haul yn wregys llydan tebyg i siap ‘doughnut’ a elwir yn Wregys Kuiper y tu draw i Neifion. A bychan ydi Plwto hefyd – ddim ond chwarter maint ein lleuad ni.
 
Tra bo cylchdaith y planedau eraill yn weddol gyson, h.y. maent yn aros tua’r un pellter o’r haul wrth deithio o’i amgylch, a’u bod hefyd i gyd yn gorwedd ar yr un gwastad, nid felly Plwto. Mae ei gylchdaith ef yn hirgron ac, yn y 248 mlynedd y mae’n gymeryd i deithio rownd yr haul, cyrhaedda hyd at 4.6 biliwn milltir o’r haul ar ei fan bellaf, a 2.8 biliwn milltir pan fo ar ei asgosaf. Daw hyn ag ef hydnoed yn agosach i’r haul na Neifion am gyfnod byr o ryw 15 – 20 mlynedd ym mhob cylchdro, fel a ddigwyddodd yn ddiwedar rhwng 1979 a 1999. Gwahaniaeth arall yw nad yw ei gylchdaith y gorwedd yn yr un gwastad â’r prif blanedau, ond ar ongl o 17° iddynt.
 
===Os nad yn blaned…?===
Oherwydd ei gylchdro anarferol ni fu’n bosib i Voyager a lloerennau eraill alw heibio Plwto ar eu teithiau gofodol o’r 1980au ymlaen. Ychydig a wyddom amdano felly, hyd yn hyn, heblaw ei fod yn gymysgedd o graig a rhew – ‘fel pelen eira llawn llwch a cherrig’ yn ôl rhai . Yn hyn o beth mae ei gyfansoddiad yn debyg iawn i rai o’r comedau cylchdro byr ddaw i ymweld â ni o Wregys Kuiper o bryd i’w gilydd, e.e. Comed Halley bob 76 mlynedd a Chomed Swift-Tuttle bob 120 mlynedd. Mewn gwirionedd, petae Plwto yn newid ei gylchdaith ac yn dod yn nes at yr haul fe fyddai yntau’n magu cynffon!
 
Cofiwch fod yna gomedau cylchdro hir hefyd, ond daw y rheiny o ffynhonnell arall, a elwir yn gwmwl Oort, sydd lawer pellach i’r gofod, e.e. Comed Hale-Bopp welwyd yn 1997 ac na welir eto am 4,200 o flynyddoedd.
 
Gobeithir cael mwy o wybodaeth a lluniau agos o Plwto yn 2015, pan gyrhaeddith y lloeren New Horizons, a lawnsiwyd yn 2006, ato.
 
===Chwilio am y Blaned X===
Er na ddarganfyddwyd Plwto tan 1930 roedd yna gred eitha cadarn fod yna rywbeth yn llechu yn y tywyllwch tu draw i Neifion. Mae hyn yn rhyw ailadrodd stori darganfod Neifion, mewn gwirionedd, oherwydd daeth y blaned honno i’r fei o ganlyniad i geisio esbonio be oedd yn achosi anghysonerau yng nghylchdro Iwranws (gw. Llafar Gwlad 100).
 
Ond hydnoed ar ôl canfod Neifion yn 1846, roedd anghysondeb mwy na’r disgwyl yn dal yng nghylchdroadau Iwranws a Neifion – digon i berswadio y miliwnydd Percivall Lowell, a sefydlodd Arsyllfa Lowell ger Flagstaff, Arizona yn 1894 mai planed arall, tu draw i Neifion, oedd yn achosi hyn. Galwyd hwn yn ‘Blaned X’ gan Lowell yn 1901 a bu’n chwilio’n ddygn amdano am y 15 mlynedd nesa hyd ei farwolaeth yn 1916.
 
Yna, yn 1929, ailddechreuwyd chwilio o ddifri pan gyflogwyd Clyde Tombaugh, mab fferm o Kansas, gan Arsyllfa Lowell i dynnu lluniau o rannau o’r gofod i’w cymharu â lluniau wythnos yn ddiweddarach. Treuliodd oriau maith gyda meicroscop yn chwilio am newidiadau bychan yn lleoliadau dros filiwn o sêr unigol rhwng un llun a’r llall cyn canfod yr hyn roedd yn chwilio amdano yn Ionawr 1930. Roedd wedi darganfod smotyn bach symudol – ai hon oedd y ‘Blaned X’ hir-ddisgwyliedig?
 
Erbyn hyn gwyddom mai camgymeriadau bychan yn yr amcanion o feintiau Neifion ac Iwranws oedd yn gyfrifol am yr anghysonderau yn eu cylchdeithiau. Felly doedd dim angen Planed X o gwbwl i esbonio hynny ac mai lwc llwyr oedd darganfod Plwto! Druan o Percival Lowell – roedd wedi gwneud llanast drwy ddehongli ‘camlesi’ honedig Mawrth fel tystiolaeth o fywyd ar y blaned goch (gw. Llafar Gwlad 96) ac yn awr roedd ei ddamcaniaeth am Blaned X yn anghywir! Ond chware teg iddo, bychan yw hynny o ystyried gwerth aruthrol cyfraniadau Arsyllfa Lowell dros y ganrif a mwy ddiwetha. Mae’r gorau’n methu weithiau!
 
===Lleuadau Plwto===
Yn 1978 darganfyddwyd fod gan Plwto leuad oedd yn cylchdroi amdano bob 6 niwrnod a hynny’n eitha agos – dim ond 12,000 o filltiroedd i ffwrdd. Dyma Charon, a enwyd, yn addas iawn, ar ôl y cychwr fyddai’n rhwyfo eneidiau’r meirwon ar draws yr afon Styx i’r is-fyd. Yna, yn 2005 darganfyddwyd, drwy delescop Hubble, fod yna ddau leuad arall bychain – Nix, a enwyd ar ôl mam Charon oedd yn dduwies y tywyllwch a Hydra, oedd yn sarff erchyll â naw phen ganddi.
 
===Ci a chath a phlwtoniwm===
Pan ddarganfyddwyd Plwto yn 1930 bu astrolegwyr yn meddwl pa ddylanwadau fyddai ganddo ar ffawd pobl. Penderfynwyd ei gysylltu â phwerau’r fall, oedd yn addas iawn o ystyried ei gefndir chedlonnol, ond hefyd am iddo gael ei ddarganfod ddechrau’r 1930au, pan welwyd tŵf ffasgaeth a chomiwnyddiaeth unbenaethol a gwawr yr oes atomig oedd a’i photensial dinistriol. Roedd rhoi’r enw Plwtoniwm ar elfen newydd, ddarganfyddwyd yn 1940, ac a ddaeth yn danwydd i fomiau niwclear yn addas iawn.
 
Ond mae ochor ysgafnach i’r stori hefyd – galwyd ci Mickey Mouse yn Plwto yn 1931ar ôl y blaned newydd ac roedd yn naturiol i Clyde Tombaugh, a’i canfyddodd ym mhellafion y gofod, i alw ei gath yn Plwto!
 
==Sêr cynffon, sêr gwib, ac asteroidiau==
(Syw wici: Angen didoli i'r erthyglau priodol ar wici)
 
Mae yna dri dosbarth o gyrff bychain gofodol yng nghysawd yr haul nad ydynt yn blanedau na lleuadau chwaith. Ceir cryn dipyn o goelion difyr am rai ohonynt.
 
===Sêr cynffon neu gomedau===
Rhyw gymysgedd o rew, cerrig a llwch, tebyg i belen eira go fudr, yw comed ac mae’n debyg bod rhai miliynnau ohonynt yn cylchdroi ymhell allan yn y gofod y tu draw i’r blaned Neifion. Weithiau bydd cylchdro un ohonynt yn dod a hi i lawr rhwng y planedau ac yn agos i’r haul cyn iddi gael ei hyrddio allan ymhen ychydig fisoedd i’r duwch pell. Ond wrth iddi ddynesu at yr haul bydd y rhew yn anweddu a hefyd bydd llwch yn cael ei hyrddio ohonni nes ffurfio cynffon fawreddog sy’n tyfu wrth iddi agosau at yr haul a lleihau wrth iddi bellhau. Dyma pryd y’i gelwir yn seren gynffon.
 
Ceir llawer o gofnodion o sêr cynffon – rai ohonynt yn mynd yn ôl hyd at 2 – 3,000 o flynyddoedd am y byddai gwareiddiadau y dwyrain pell, y dwyrain canol a de America yn credu’n gryf bod y sêr, y planedau a digwyddiadau / gwrthrychau gofodol eraill yn rheoli ffawd pob un ohonom.
 
Cysylltid sêr cynffon yn benodol â thrychinebau, e.e., yn Ewrop: comed 451AD âg ymosodiadau Attila yr Hun; comed 837AD âg ymosodiadau y Llychlynwyr; comed 1066 – y Normaniaid yn trechu’r Saeson a chomed 1354 yn newydd ddrwg eto i’r Saeson am mai dyma pryd ganwyd Owain Glyndŵr. Gwelwyd comed yn 1456, adeg cwymp Constantinople i’r Twrciaid ac fe ddylsai Napoleon fod wedi aros adre pan welodd gomed yn 1811 fel yr oedd yn paratoi ei ymgyrch drychinebus i Rwsia. Ar y llaw arall ni cheir drwg nad yw’n dda i rywun oherwydd roedd y comedau hyn yn arwyddion da iawn i Attila, y Normaniaid, y Twrciaid a’r Rwsiaid!
 
Gyda gwawrio’r oes wyddonol fe aeth seryddwyr ati o ddifri i geisio deall comedau a chanfod o le y deusant. Cynnigiodd Otto von Guericke (1602 - 86) eu bod yn teithio mewn cylch hir (elips) ond ni chafwyd prawf o hynny tan y sylwodd Edmund Halley (1656 - 1742) fod comed 1682 yn debyg iawn o ran ei disgrifiad i gomedau 1607, 1531 a 1456 a bod tua’r un amser rhyngthynt, sef 76 mlynedd. Penderfynodd mai yr un gomed oedd hi ac y dychwelai yn 1758. Doedd Halley ddim yn fyw i’w gweld, ond pan ddigwyddodd hynny yn 1759 dyma’r prawf cynta o natur taith comed, ac fel teyrnged iddo fe’i henwyd yn Gomed Halley ar ei ôl. Ers hynny enwyd a dadansoddwyd cylchdeithiau rai miloedd o gomedau.
 
Yn 1951 cynigiodd yr Iseldirwr Gerard Kuipier fod llawer o gomedau yn tarddu o ardal oedd ar ffurf disg llydan a thew, tebyg i ‘ddoughnut’, sydd yn gorwedd tu draw i Neifion rhwng 6 biliwn a 12 biliwn kilomedr oddiwrth yr haul. Cynnigiodd bod miliynnau o gyrff bychain comedaidd yma, y rhan fwyaf ohonynt yn aros o fewn yr ardal hon o’r gofod – a elwir yn wregys Kuipier – ond bod nifer fechan ohonynt yn dod yn agosach at yr haul o bryd i’w gilydd, gan ymddangos fel sêr cynffon. Tybir erbyn hyn mai un go fawr o’r cyrff Kuipier hyn yw Pliwto (gweler Llafar Gwlad 101) ac nid planed go iawn o gwbwl.
 
Ond os cylchdeithiau gweddol fyr sydd gan y cyrff yng ngwregys Kuipier, e.e., Halley yn 76 mlynedd, Swift-Tuttle yn 135 mlynedd, mae yna hefyd ddosbarth arall o gomedau sydd â’u cylchdeithiau yn dipyn hirach, e.e. comed Hale-Bopp welwyd yn 1997 ac ni welir eto am 4,200 o flynyddoedd; Hyakutake welwyd yn 1996 ac ni welir eto am 30,000 o flynyddoedd a West, welwyd yn 1975, ac ni ddaw’n ôl am 500,000 o flynyddoedd.
 
Tua’r un amser ag y cynigiodd Kuipier ei syniadau cynigiodd Iseldirwr arall, Jan Oort bod y comedau cylchdaith hir yn tarddu o gwmwl mawr o biliynnau o gomedau sydd ar ffurf sffêr enfawr, tebyg i groen oren go dew ac sy’n ymestyn hyd at 1.6 blwyddyn oleuni i’r gofod – sydd bron hanner ffordd tuag at y seren agosaf.
 
===Sêr gwib===
Cyrff bychain yw y rhain fel arfer wrth lwc (!) sydd yn disgyn i’r ddaear ac yn llosgi wrth dreiddio drwy’r atmosffêr. Bydd y mwyafrif llethol yn llosgi’n llwyr cyn cyrraedd y llawr ond bydd ambell un yn glanio. Tarrodd un westy’r Tywysog Llywelyn, Beddgelert ar Fedi 21ain, 1949. Pwysai bum pwys a mesurai 6 modfedd ac, wrth lwc, fe laniodd yn unig loft wag y gwesty. Ceir disgrifiad o’r digwyddiad mewn rhifyn diweddar o’r cylchgrawn tâp: Utgorn Cymru, 23 (Awst 2008) gan Dyfed Evans oedd yn ohebydd i’r Cymro ac a gafodd sgŵp fawr i’r papur ar y pryd. Glaniodd un arall o fewn 6 llath i amaethwr Coch y Big, Brynaerau, Arfon yn Ebrill 1931. Pwysai honno 5 owns ac roedd tua maint ŵy.
 
Pe ceid hyd i garreg / maen awyr neu faen mellt fel hyn credid y deuai â lwc a llwyddiant i’w pherchenog, ond iddo edrych ar ei hôl yn ofalus. Pe’i gwerthai neu ei rhoi i rywun arall byddai ef neu ei deulu yn siwr o gael anffawd.
 
Pan welid byrdaith lachar seren wib (‘Digwyddodd, derfy, megis seren wib’, R Williams Parry) byddai pobl yn dymuno am lwc dda, ac os na wnaent hynny, anlwc a geid am weddill y flwyddyn. Byddai sêr gwib yn syrthio i’r gorllewin yn arwydd tristwch; i’r dwyrain – llawenydd; i’r gogledd – gaeaf caled ac i’r de – haf braf.
 
Ond tybed o le y daw a be yw sêr gwib? Deuant o sawl ffynhonell:
Llwch a gronynnau sy’n weddillion o gynffon comed
Cyrff a gwympodd o’r gwregys o asteroidau carregog sy’n cylchdroi am yr haul rhwng y planedau Mawrth a Iau. Mae miliynnau ohonynt a bydd gwrthdrawiadau rhyngthynt weithiau yn gyrru tameidiau i bob cyfeiriad – gan gynnwys y ddaear. Mae rhai asteroidau yn anferth, e.e. Cerres, a ystyrir bellach yn is-blaned a chafodd un a ddarganfyddwyd yn 2004 gan seryddwr Almaenig fu ar wyliau yng Nghymru ei henwi yn ‘Snowdonia’. Ystyrrir eu bod yn weddillion planed a chwalwyd yn chwilfriw.
Daw nifer fechan o’r lleuad ac o Fawrth – yn falurion daflwyd i’r gofod gan wrthdrawiadau meteoraidd.
 
O ran eu cyfansoddiad mae tua 93% o’r meini awyr hyn yn garregog; rhyw 5% yn aloi haearn-nicel a’r gweddill yn gyfuniad o garreg a haearn-nicel. Maent yn werthfawr iawn i ymchwilwyr am eu bod yn rhoi gwybodaeth inni am gyfnodau cynharaf ffurfio planedau cysawd yr haul.
 
 
==Y sêr sefydlog==
 
Y lle gorau y gwn i amdano yng Nghymru i werthfawrogi’r sêr yw ar noson glir ddi-leuad ar Ynys Enlli. Yno does dim golau strydoedd ac mae’r mynydd yn fur rhag llewyrch melyn dinasoedd pell Llŷn fel nad oes dim i amharu ar y duwch perffaith sydd ei angen yn gefndir i olygfa naturiol fwya’r greadigaeth.
 
Does ryfedd i’r Brenin Dafydd ddweud:
:‘Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,
:y lloer a’r sêr, a roddaist yn eu lle,
:beth yw dyn, iti ei gofio,
:a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?’ (Salm 8, 3 - 4)
 
I Ddafydd gwaith bysedd Duw oedd y sêr – yn dyst o fawredd y creawdwr ac, wrth gwrs o fawredd ei greadigaeth.
 
===Trefn gosmig===
Go brin y gallasai unrhyw un, o ba wareiddiad cynnar bynnag drwy’r byd, beidio cael ei syfrdannu gan fawredd y nefoedd serog a’i weld yn brawf o drefn gosmig a reolid gan y duwiau. Yn sicr roedd yna drefn go bendant i’r hyn a welid. Hynny yw, roedd patrymau amlwg yn nosbarthiad y sêr sefydlog; roeddent yn troelli’n gyson o gwmpas seren y gogledd yn ystod y nos ac roedd y seren honno ei hun yn treiglo mewn cylch fyddai’n newid gogwydd y ffurfafen yn flynyddol gan ddiffinio inni y tymhorau.
 
Ar ben hyn roedd y lleuad yn dilyn ei chwrs ei hun gan newid ei chyflwr dros gyfnod o 28 niwrnod ac roedd rhai o’r sêr yn symudol – planedau (ystyr gwreiddiol y gair ‘planed’ yw teithiwr), sêr gwib a sêr cynffon fyddai y rhain. Sut oedd deall hyn oll mewn oes gyn-wyddonol? Mae’r esboniadau geir ar draws y byd yn niferus a hynod wreiddiol.
 
===Y ffurfafen serog===
Un syniad cyffredin oedd mai bowlen â’i phen i lawr oedd y ffurfafen, neu babell, cragen crwban, neu hydnoed gloch anferth â’r sêr yn emau llachar yn sownd yn y nenfwd neu yn dyllau bychain fyddai’n dangos goleuni tanllyd yr haen nesa uwchlaw’r ffurfafen. Credai rhai y ceid sawl haen, un o amgylch y llall, oedd yn cynrychioli’r gwahanol lefelau oedd i’r bydysawd ac yn breswylfannau i’r duwiau.
 
I’r Celtiaid cyfandirol nenfwd cadarn oedd y ffurfafen a’r unig beth yn y byd yr oeddent ei ofn oedd y byddai’n disgyn ar eu pennau rhyw ddydd. Ond hydnoed petae hynny’n digwydd roedd y Galiaid dewr yn dychmygu y byddai’n bosib i’w ddal i fyny ar flaenau eu gwaewffyn.
 
Syniad arall, yn y dwyrain canol ac ynysoedd y dwyrain pell, oedd mai hylif diderfyn oedd nenfwd y ffurfafen yn amgylchynnu swigen o aer, sef yr awyr, ac mai cychod yn nofio ar wyneb cefnfor y gofod oedd y sêr. Yn ôl un hen chwedl o’r dwyrain canol oddiyma y daeth y dŵr ollyngwyd gan Jehofa i foddi’r byd drygionus – heblaw Noa a phreswylwyr yr Arch.
 
Ar adeg pan gredid yn gyffredin bod ein byd yn ‘fflat’, un esboniad o symudiad y sêr yn ystod y nos oedd bod y ffurfafen yn troi’n rheolaidd ar ei hechel – yr ‘axis mundi’ yn ôl y Rhufeiniaid paganaidd – a bod y cyfan yn cael ei gynnal gan gan biler neu hydnoed goeden fawr anweledig. Dyma dderwen fawr dragwyddol y Celtiaid a choeden fywyd (neu Ygdrassil) y Llychlynwyr – syniad y goroesodd arlliw ohono yn stori Jac a’r goeden ffa!
 
I’r hen Eifftiaid, bol Nut, duwies y nos, oedd y ffurfafen. Safai hi ar ei phedwar uwch ein pennau ac roedd y sêr yn addurniadau ar ei chorff. Byddai’n llyncu’r haul pob gyda’r nos ac yna, wedi iddo deithio drwy ei chorff, cawsai ei ail eni bob bore. Yn Siapan ambarel neu barasol anferth yn troi o gwmpas ei handlen oedd y ffurfafen.
 
===Be ydi’r sêr?===
A’r sêr eu hunnain? Gemau, tyllau i lefel nesa’r bydysawd, neu hydnoed lynnoedd bychain disglair ar beithdir maith yr awyr – fel y creda’r Innuit yn y gogledd pell. Ond mae’n ddifyr pa mor gyffredin oedd y syniad mai bodau ysbrydol oeddent. Credai’r Iddewon bod angel gwarcheidiol yn gysylltiedig â phob seren; i bobl y dwyrain canol cynrychiolai eu niferoedd mawr ddisginyddion Abraham; i Incas Periw morynion duwies y lloer oeddent (ddim yr haul sylwer, oherwydd mai dim ond yn y nos y’u gwelid); i Aztecs Mecsico arwyr laddwyd mewn rhyfeloedd neu eneidiau y rhai aberthwyd yn seremonïol oeddent tra i bobl Tsieina eneidiau eu cyn deidiau ymadawedig oeddent.
 
Crwydrodd delweddau tebyg i hyn i’n diwylliant Eingl-Americanaidd ni o bryd i’w gilydd, e.e. yng nghartŵn Disney: y Lion King fe welwn Pwmba (y baedd gwyllt) a Timone (y mïrgath) yn gorwedd dan y sêr, ac un yn dweud wrth y llall: ‘eneidiau dyrchafedig hen frenhinoedd ydi’r sêr wy’sdi?’
‘O! Dyna ydyn nhw!’ meddai’r llall, ‘a finnau wedi meddwl mai pelenni enfawr o elfennau mewn cyflwr o ffrwydriad niwclear cyson oedden nhw!’
 
Yn ein chwedloniaeth ni’r Cymry ystyriai Idris Gawr mai ei ddefaid oedd y sêr ac arferai eistedd ar y Gader uwchlaw Dolgellau bob nos hefo’i ben yn sticio i fyny uwchlaw’r cymylau yn eu cyfri. Oedd, fe oedd o yn ddyn cyfoethog iawn o ystyried mai yr adeg honno, cyn i arian ddod yn gyffredin, nifer yr anifeiliaid yn eich preiddiau oedd mesur eich cyfoeth.
 
I wareiddiadau oedd nid yn unig yn credu mai eneidiau’r ymadawedig oedd y sêr ond a oeddent hefyd, fel y Tsineaid, yn addoli eu cyn deidiau, roedd y sêr yn fodd i gysylltu’n uniongyrchol a phersonol hefo anwyliaid y gorffenol. Gellid cael mantais o’u doethineb dwyfol am gymorth a chyngor ond ichi aberthu a dilyn y defodau priodol a dod yn hyddysg mewn darllen yr arwyddion seryddol. Daeth yn arfer, felly, i ymgynghori â’r sêr-hynafiaid ar gyfer pob math o weithredoedd a mentrau newydd a bydd pawb yn cynnig aberth i’w seren bersonol ef neu hi ar ddydd cyntaf y flwyddyn newydd Tsineaidd..
 
===Gweld patrymau a darllen eich ffawd?===
Beth bynnag eu tarddiad, roedd yn amlwg bod rhai sêr yn amlycach na’i gilydd ac yn ffurfio clystyrau a adnabyddir fel cytser. I bobloedd ar draws y byd daeth y rhain yn gyfrwng cyfleus iawn i gynrychioli a chyflwyno mythau a chwedlau – fel rhyw sioe sleidiau i’r dychymyg ar sgrïn enfawr ffurfafen y nos.
 
Datblygiad o hynny fu diffinio ag enwi cytser a phriodoli iddyn nhw bwerau allasai ddylanwadu ar bersonoliaeth a ffawd pobl. Er enghraifft fe ystyrid y byddai rhai cytser, pe digwyddant fod yn amlwg neu yn codi mewn rhyw ran arwyddocaol o’r awyr ar adegau pwysig – fel eich genedigaeth neu achlysuron eraill drwy eich bywyd – yn cael effaith mawr arnoch. Deuai dylanwadau eraill i rym petae rhai o’r sêr symudol (pob un a’i heffaith pendant ei hun) yn digwydd croesi y rhan o’r ffurfafen lle gorwedda rhai sêr a chytser sefydlog arbennig. Esgorodd hynny ar ddisgyblaethau neu gyfundrefnau astrolegol cymleth ar draws y byd i esbonio’r gorffenol a’r presennol ac i ddarogan eich dyfodol.
 
==Cytser y Sidydd==
 
Y cytser yw grwpiau o sêr sydd, o edrych arnynt o’r ddaear, yn ffurfio patrymau a ellir eu dehongli yn greaduriaid, cymeriadau mytholegol a gwrthrychau o bob math. Bu’r patrymau hyn yn gyfleus iawn ar hyd y canrifoedd i ddisgrifio rhannau arbennig o’r ffurfafen. Er enghraifft, mae’n llawer haws lleoli y sêr symudol (y planedau a sêr cynffon ayyb) ar eu hynt os dywedir: ‘mae Comed Hagrid ar hyn o bryd yn Y Sosban Fach (Pleiades)’, neu ‘mae’r blaned Mawrth yn symyd drwy arwydd Y Tarw’.
I’r anghyfarwydd, mae gweld patrymauymysg y sêr yn gofyn cryn ddychymyg. Onid ydych chi wedi meddwl o bryd i’w gilydd: ‘Sut yn y nefoedd mae nhw’n gweld cranc (neu beth bynnag) yn fan’cw rwan?’
Ond’dydach chi ddim ar eich pen eich hun yn hynny o beth oherwydd mae’r posibiliadau’n di-ri ynglyn â dewis pa sêr sy’n ffurfio pa batrwm cytserol. Na, mae’n amlwg nad oedd pawb yn gwirioni yn yr un ffordd drwy hanes chwaith fel y gwelwn yn y gwahaniaethau mawr a bach rhwng y Babiloniaid, Persiaid, Groegiaid, Indiaid, Tsineaid, Arabiaid, yr Aztec a’r Maya ayyb. Yn wir, heblaw am ychydig iawn o’r cytser amlycaf, neu rannau ohonynt, fel yr Heliwr (Orion), y Sosban Fach (Pliades) a’r Sosban Fawr (neu Yr Arth Fawr – Ursa Major) ychydig iawn iawn o gytser sy’n gyson i bawb. Yn Tsieina ni cheir ond 28 o gytser, tra yn y gorllewin ceir 88.
Ar ben hyn ceir mwy o wahaniaeth fyth, efallai, yn y dulliau o ddehongli’r patrymau hyn yn astrolegol. Hynny yw pa effeithiau honedig arnom gaiff ymweld yr haul, sêr cynffon, y lleuad a’r planedau â chytser arbennig ar eu teithiau.
Tair prif gyfundrefn Erbyn heddiw ceir tair prif gangen o astroleg – astroleg y gorllewin (fel a arferid gan Madam Sera); astroleg yr India ac astroleg y dwyrain pell.
Datblygodd astroleg y gorllewi allan o sawl cyfundrefn gynharach – megis Mesopotamia (cofiwch y Doethion ddilynodd y seren i Fethlehem) a gafodd gryn ddylanwad ar y Groegiaid; a hwythau yn eu tro ar yr Aifft a Rhufain. Yn yr India mae astroleg Vedaidd yn rhan hanfodol o’r grefydd Hindwaidd ac felly’n bwysig iawn hyd heddiw i ddehongli ffawd ei dilynwyr.
Yng nghanolbarth America ceid cyfundrefn wahanol eto lle plethid sawl calendr astrolegol fyddai’n para 260, 360, 584 niwrnod, a hydnoed 52 mlynedd ayyb. Byddai tynged pob bachgen yn cael ei ddarllen o’r calendrau pan fyddai’n bum niwrnod oed ar gyfer ei ddethol yn filwr, offeiriad, swyddog sifil neu i’w aberthu.
 
===Y Sidydd===
 
Mae’r gwahaniaeth rhwng y cyfundrefnau astrolegol ar eu hamlycaf rhwng y dwyrain pell a’r gorllewin. Does dim ond inni edrych ar y cytser sy’n gorwedd yn y rhan honno o’r awyr sy’n ffurfio llwybr cul ar hyd yr hwn y bydd y planedau’n gorymdeithio’n flynyddol, sef llwybr y Sidydd.
Yn Tsieina a gwledydd cyfagos rhennir y llwybr hwn yn ddeuddeg rhan a ddiffinir gan symudiad blynyddol y blaned Iau, a elwir yn seren y flwyddyn. Enwir y deuddeg rhan ar ôl anifeiliaid: llygoden fawr, ŷch (byfflo yn Fietnam), teigr, gwningen (cath yn Fietnam), draig (malwen yn Kasakstan), neidr, ceffyl, myharen (gafr yn Fietnam), mwnci, ceiliog, ci a mochyn (baedd gwyllt yn Japan). Blwyddyn yr ŷch ydi hi ar hyn o bryd gyda llaw.
Yn y gorllewin mae arwyddion y Sidydd yn gysylltiedig â deuddeg cytser; pob un yn para tua mis â’u heffeithiau astrolegol honedig yn ddibynol ar eu symudiadau tymhorol drwy’r flwyddyn. Y rhain yw: yr hwrdd, y tarw, yr efeilliaid, y cranc, y llew, y forwyn, y glorian, sgorpion, y saethwr, yr afr, y cludwr dŵr a’r pysgodyn.
’Dydy’r amrywiaeth rhyfeddol ’ma ddim yn dweud rhyw lawer am gywirdeb cyffredinol y gwyddorau astrolegol yn nacydi? Ond, dyna fo, rhaid cydnabod y bu i’r ddisgyblaeth o gofnodi seryddol fod yn ragbaratoad hanfodol i ddatblygiad gwyddoniaeth fodern.
 
===Straeon y Sidydd===
Mae i bob un o arwyddion y sidydd ei stori ei hun. Dyma fraslun o’r chwedlau sy’n gysylltiedig â’r deuddeg arwydd gorllewinol:
*Yr Hwrdd (Aries) – Tosturiodd Aries dros y ddau blentyn Phrixus a Helle oedd am gael eu haberthu a chynnigiodd ei hun yn eu lle. I gydnabod ei aberth fe’i dyrchafwyd yn un o gytser y Sidydd.
*Y Tarw (Tawrws) – newidiodd Iau ei hun yn darw gwyn hardd i dwyllo’r dywysoges Ewropa. Roedd hi wedi gwirioni cymaint efo’r tarw nes iddi ddringo ar ei gefn. Nofiodd yntau i Creta ac yno y gwelodd hi pwy oedd o go iawn.
*Yr Efeilliaid (Gemini) – roedd i’r efeilliaid yma ddau dad; Phollux yn fab i Iau ac felly’n anfarwol a Castor yn fab i frenin Sparta ac felly’n feidrol. Pan fu Castor farw mynnodd Phollux iddynt ill dau rannu anfarwoldeb fel rhan o gytser Gemini.
*Y Cranc (Cancer) – gyrrwyd y cranc i ymosod ar Hercules ond cafodd ei chwalu dan sawdl yr arwr. Cododd Juno ei weddillion i’r nefoedd yn wobr am aberthu ei fywyd.
*Y Llew (Leo) – bu raid i Hercules ymladd Llew Nemea oedd â chroen oedd yn amhosib ei drywannu. Ond daeth Hercules dros y broblem honno drwy ei dagu i farwolaeth! Yna gwisgodd groen gwarchodoly llew yn amddiffynfa iddo’i hun.
*Y Forwyn (Virgo) – hi yw un o’r ysbrydion anweledig sy’n gwarchod y ddynoliaeth ac yn cynrychioli tegwch a chyfiawnder. Mae’n dal clorian cyfiawnder yn ei llaw.
*Y Glorian (Libra) – clorian cyfiawnder, yn gysylltiedig â’r forwyn warchodol, ond yn wreiddiol yn cynrychioli’r cyhydnos, neu gyfartalwch nos a dydd.
*Y Sgorpion (Scorpio) – hwn laddodd yr heliwr Orion am iddo frolio na allai gael ei ladd gan unrhyw greadur. Rhoddwyd Orion a Scorpio ar ddau ben eitha’r ffurfafen i osgoi unrhyw ffrwgwd pellach rhyngthynt.
*Y Saethwr (Sagitariws) – hwn oedd y sentawr Chiron a gynnigiodd ei hun yn lle’r gwystl Promethews. Cafodd ei ddyrchafu i’r sêr am ei ddaioni.
*Yr Afr (Capricorn) – yn hanner gafr, hanner pysgodyn. Achubodd Iau rhag cael ei larpio gan y cawr erchyll Typhoeus.
*Y Cludydd Dŵr (Aquarius) – Y bachgen hardd Ganymede oedd hwn. Fe’i ffansiwyd ef gan Iau a’i cipiodd o i weini byrddau i’r duwiau.
*Y Pysgod (Pisces) – i ddianc rhag y cawr Typhoeus newidiodd Iau yn hwrdd; Diana yn gath; Bacchus yn afr a Gwenner a Cupid yn ddau bysgodyn. Dyrchafwyd y ddau bysgodyn yn un o’r cytser.