Defnyddiwr:Twm Elias/Sêr a Phlanedau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 221:
 
 
==Sadwrn==
 
Sadwrn, a’i gylchoedd amlwg, ydy’r ail fwya o’r planedau a’r chweched o’r haul (neu’r 7fed erbyn hyn os derbynir yr argymhelliad diweddar bod Ceres, y mwyaf o’r asteroidau, yn blaned). Sadwrn hefyd yw’r pellaf o’r planedau a ellir eu gweld â llygaid noeth, yn gorwedd 938 miliwn o filltiroedd o’r haul ac yn cymryd 29.5 o flynyddoedd i gylchdroi amdano. Blwyddyn Sadyrnaidd go hir felly ond mae ei ddydd yn fyr – 10 awr i droi ar ei echel. Golyga’r troelli dyddiol cyflym yma, a chyfansoddiad hylifol yn bennaf, ei fod yn taflu allan rhywfaint am ei ganol, fel ei fod 10% yn fwy ar ei draws nag ydy o’r de i’r gogledd.
 
Ar y cyd â Iau, Neifion ac Iwranws mae Sadwrn yn aelod o deulu o 4, y ‘cewri nwy’. Mae tua 95 gwaith mwy na’r ddaear ac, fel y cewri nwy eraill, wedi ei gyfansoddi yn bennaf o heidrogen a heliwm, gyda chyfran fechan o nwyon eraill ar ffurf methên ag amonia’n bennaf yn yr atmosffêr tennau allanol. Wrth deithio tua’r canol byddai rywun yn suddo i fôr o heidrogen a heliwm hylifol fyddai’n newid wrth i’r pwysedd a’r tymheredd gynnyddu i ffurf fetalaidd hylifol yn amgylchynnu cnewyllyn bychan creigiog. Rhyfedd meddwl y byddai Sadwrn, er ei fod cymaint mwy o faint na’r ddaear, yn llai o ran dwysedd ar gyfartaledd. Golyga hynny y buasai’n nofio ar un o foroedd y ddaear – petae un digon mawr ynde?
 
===Y Cylchoedd===
Nodwedd amlycaf Sadwrn, wrth edrych arno o bell, yw’r cylchoedd mawr sy’n ymestyn allan i’r gofod uwchben ei gyhydedd gan bron iawn ddyblu ei faint ymddanghosiadol. Mae’n bosib gweld tri cylch o’r ddaear: A, B, C a darganfyddwyd cylch arall mewnol yn 1969. Ond yna, pan ddaeth lluniau lloeren o Pioneer 11 yn 1979, Voyager 1 a 2 yn 1980 – 81, Galileo ddechrau’r 1990au ac yn ddiweddar Cassini ers 2004, darganfyddwyd llawer mwy a bod patrymau rhyfeddol o hardd a chymhleth iddynt.
 
Darnau o rew a chreigiau, â’u meintiau yn ymestyn o ronnynau o lwch i gyrff rai cilomedrau ar eu traws sydd yn y cylchoedd. Mae’r cylchoedd eu hunnain yn dennau iawn, tua kilomedr o drwch, ac mae, mewn gwirionedd, filoedd ohonynt. Rhai yn llyfn, eraill ar batrwm tebyg i blethen hir droellog ac eraill yn donnog. Mae’n debyg mai symudiadau creigiau go fawr neu leuadau bychain ymysg y cylchoedd sy’n gyfrifol am y patrymau hyn a bod y bylchau rhyngthynt wedi eu ffurfio wrth i lwch a cherrig gael eu sgubo i fyny gan greigiau neu leuadau bychain ar eu hynt.
 
A tharddiad y cylchoedd? Posib mai rhyw gorff neu gyrff astronomegol gafodd eu chwalu’n yfflon gan rym ddisgyrchiant Sadwrn ydynt, a bod rhai o’r gweddillion yn dal i gylchdroi hyd heddiw ar ffurf disg tennau. Mae’n ddifyr bod gan bob un o’r cewri nwy eraill gylchoedd hefyd, ond rhai llawer iawn llai na Sadwrn; rhai nas darganfyddwyd tan i luniau lloeren ein cyrraedd o’r 1980au ymlaen.
 
Ceir esboniad difyr o bwrpas cylchoedd Sadwrn yn Yr Anianydd Cristnogol, T Dick (1860), tud. 207: “Un o ddybenion eglur y modrwyau yma yw adlewyrchu goleuni ar y blaned yn absenoldeb yr haul; ac wrth bob tebyg, eu bod yn gwasanaethu fel cyfaneddle helaeth i fyrddiynau o fodau teimladol a deallol…”. Nid yw’n ymhelaethu, gwaetha’r modd, ar pa fath o fodau byw fyddai y rheiny.
 
===Chwedloniaeth===
Yn 1610, pan edrychodd Galileo ar Sadwrn drwy ei delescôp bychan fe welodd ddau lwmp yn sticio allan nail ochr iddo. Erbyn 1612 roedd y lympiau wedi diflannu! Bu i arsylliadau eraill ganddo ef ag eraill ddangos bod meintiau’r lympiau hyn yn cynnyddu a diflannu dros gyfnod o 15 mlynedd. O’r diwedd, yn 1659, dealltodd Christiaan Huygens o’r Iseldiroedd mai ‘modrwy’ neu gylch o amgylch Sadwrn oedd yn gyfrifol a bod hon yn fwy neu yn llai gweladwy yn ôl yr ongl yr oedd rhywun yn edrych arni wrth i’r blaned gylchdroi drwy’r gofod. Hynny yw, roedd yn hawdd i’w gweld wrth edrych arni o’r top neu’r gwaelod, ond yn anoddach pan edrychid yn syth ar draws arni.
 
Yn rhyfeddol, roedd ymddanghosiad a diflaniad lympiau neu ‘glustiau’ Sadwrn yn cyfateb (efo cryn dipyn o ddychymyg, hynny yw) i ran o’r chwedl Roegaidd wreiddiol am Cronos a ymgorfforwyd yn rhan o gefndir y Sadwrn Rhufeinig. Yn ôl y stori honno, wedi Iwranws (duw’r awyr) ffrwythlonni Gaia (y fam ddaear) fe geisiodd atal mwy o’u hepil erchyll – 3 chawr; 3 Seiclops hyll a 12 Titan – rhag cael eu geni drwy eu gwthio yn eu holau i groth eu mam. I ddial am y fath driniaeth fe roddodd Gaia gryman yn llaw ei holaf anedig, sef y Titan a elwid Cronos. Fe sbaddodd hwnnw ei dad a thaflodd ei geilliau i’r môr! O drochion y ‘sblash’ fawr honno y cododd Affrodite, duwies serch y Groegiaid.
 
Fel yr oedd Iwranws yn marw o ganlyniad i’r sbaddu fe broffwydodd y byddai Cronos hefyd yn cael ei ladd gan un o’i feibion ei hun. O ganlyniad byddai Cronos yn llyncu ei blant fel y byddai Rhea, ei wraig, yn rhoi genedigaeth iddynt. Yn naturiol, roedd Rhea braidd yn flin am hyn, a’r tro nesa dyma hi’n geni ei phlentyn yn y nos, ei guddio, a rhoi carreg i Cronos i’w llyncu. Zeus oedd y plentyn a achubwyd ac, yn unol â’r broffwydoliaeth fe drechodd ei dad a sefydlu ei oruchafiaeth ei hun.
 
Mabwysiadwyd stori Cronos gan y Rhufeiniaid a’i hasio i hanes Sadwrn, eu duw amaeth. Yn y fersiwn Rufeinig, y mab a guddiwyd gan Ops, gwraig Sadwrn, oedd Iau ac ef fu’n gyfrifol am drechu Sadwrn a’r Titans eraill a dyrchafu ei hun yn reolwr y bydysawd. Ymysg pethau eraill, roedd y Rhufeiniaid yn gweld ystyr amaethyddol i gryman Cronos!
 
Ystyriai rhai ei bod ymddanghosiad ysbeidiol y ddau lwmp welodd Galileo y nail ochr i’r blaned Sadwrn yn cyfateb, yn symbolaidd hynny yw, i enedigaeth epil Cronos a’u diflaniad yn cyfateb i’r hen Gronos yn eu traflyncu!
===Y Satwrnalia===
Roedd y Sadwrn Rhufeinig yn dipyn mwy ewyllysgar na’r Cronos gwreiddiol a chynhelid gŵyl fawr yn ei enw bob blwyddyn am rai dyddiau nail ochr i’r dydd byrraf. Roedd y Satwrnalia yn dipyn o barti! Rhialtwch meddwol lle byddai rheolau cymdeithasol o bob math yn cael eu llacio, thrythyllwch rhywiol yn rhemp, y meistr yn gweini ar y gweision a chynhelid gêmau a charnifalau o dan ofal rywun apwyntiwyd fel ‘arglwydd afreolaeth’ dros gyfnod yr ŵyl – plentyn neu gaethwas yn aml iawn. Cyfle i’r isaf fod uchaf a’r lleiaf fod fwyaf. Gwelwn adlais o hyn yn nefod Hela’r Dryw, pan ddaw’r lleiaf, er iddo gael ei aberthu, yn frenin dros dro. Hefyd, oni elwir y dydd o’r wythnos roir i ymlacio a chwaraeon yn ddydd Sadwrn?
 
===Astroleg ===
Caiff taith awyrol ac araf Sadwrn drwy 12 arwydd y Sidydd ei chysylltu yn astrolegol â henaint, oerni a phrudd-der. Yn ‘Seryddiaeth’ (1830), disgrifia R Jones effaith Sadwrn ar y sawl gaiff ei eni dan ei ddylanwad: “A’r dyn a aner dani a gâr ddillad duon; ac fe fydd iddo lygaid trymion, a gweflau tewion…a gwedd athrist, sarug; ac o fywyd anfodlon, pifis yn ei natur…Y benywod yn hyswiod budron…a’u cyrph yn heneiddio yn fuan.”…!?
 
Wrth lwc, does dim llychedyn o wirionedd yn y fath rwtsh!
 
==Iwranws==