Defnyddiwr:Twm Elias/Sêr a Phlanedau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 522:
*Pegasus – dyma’r ceffyl adeiniog a gododd o waed y Medusa erchyll. Fe’i dofwyd gan Neifion a’i rhoddodd i Bellerophon i’w gario i’r frwydr lle lladdodd yr anghenfil Chimera.
*Saggita – y saeth. Hefo hwn y lladdodd Hercules y fwltur oedd yn gwledda’n ddyddiol ar berfedd Prometheus a oedd wedi ei glymu ar glogwyn ym mynyddoedd y Cacasws. Dywed traddodiad arall mai hwn a saethwyd gan Apollo i ladd Cyclops ac fe’i cysylltwyd hefyd â saeth Cupid.
 
 
==Sêr a Phlanedau==
 
Mae’n debyg i fy niddordeb i yn y sêr a’r planedau gychwyn pan oeddwn yn hogyn bach yn y 1950au yn dwad adre o’r Band o’ Hôp efo’m chwiorydd mawr ar nosweithiau tywyll yn y gaeaf. Doedd teledu ddim wedi cyrraedd cefn gwlad i gadw pobl adre bryd hynny ac roedd mynd mawr ar bob mathau o weithgareddau cymdeithasol i blant ac oedolion. Roedd athrawon yn byw yn eu cymunedau yr adeg honno ac yn barod i wirfoddoli i arwain y fath weithgareddau!
 
Ar ein ffordd adre byddai Marian, ar nosweithiau serog, wrth ei bodd yn pwyntio at seren y gogledd, y prif blanedau, y Sosban Fawr, y Llew, yr ‘W’ fawr, yr Heliwr, seren y ci a’r Sosban Fach ayyb. Deuthum i ddeall yn ddiweddarach bod gan y ddwy sosban enwau eraill: yr Arth Fawr neu’r Aradr (Ursa Major) oedd yr un fawr a’r Saith Chwaer neu’r Twr Sêr (Pleiades) oedd yr un fach. Ond roedden nhw’n edrych yn debyg iawn i ddwy sosban – bob un yn sgwaryn â handlen – ac o’u canfod fe fyddem yn siwr o floeddio canu arnynt:
 
:‘Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
:Sosban bach yn berwi ar y tân...’
 
Hynny er mawr ddifyrrwch, mae’n siwr, i bobol Llwyn y Ne, Clynnog odditannom wrth inni ddringo’r allt am adre.
Mae’r diddordeb seryddol yn dal ynddo’ i hyd heddiw, nid yn unig yn yr ochr wyddonol neu astronomegol ond hefyd yn y chwedlau a’r mytholegau sy’ gan wahanol bobloedd i ddisgrifio rhyfeddodau’r gofod a’u hesbonio yng nghyswllt eu diwylliant eu hunnain.
Trueni braidd nad oes mwy o enwau a chwedloniaeth seryddol yr hen Gymru a’r gwareiddiad Celtaidd wedi goroesi ond, serch hynny, mae yna sawl cyfeiriad at chwedloniaeth Cymru ymysg y sêr:
 
Caer Arianrhod – dywed rhai mai enw ar gytser Goron y Gogledd (Corona Borealis) ydyw (Duwiau’r Celtiaid, Gwyn Thomas (1995), Cyfres Llafar Gwlad 24, tud. 28), sydd yn griw bychan o saith seren ar ffurf hanner cylch yn gorwedd rhwng Hercules a Bootes. Ond mae hefyd yn un o’r enwau Cymraeg ar y Llwybr Llaethog (Milky Way), sef y gwregys eang o sêr a welwn yn croesi’r awyr ac sydd yn ymddangos felly am ein bod yn edrych i mewn i ymylon ein galaeth arbennig ni. Enwau eraill ar y Llwybr Llaethog (Geiriadur yr Academi (1995)) yw: Caer Gwydion, y Ffordd Laethog, y Ffordd Laethwen, y Ffordd Wen, Heol y Gwynt a Llwybr y Gwynt.
 
Ceir hanes Arianrhod ym mhedwaredd gainc y Mabinogi. Hi oedd mam Lleu (duw’r haul) a chwaer Gwydion y dewin. Duwies y wawr oedd hi yn ôl Syr John Rhys, ond rhaid inni gofio hefyd ei phwysigrwydd hi a’r duwiau / duwiesau Cymreig eraill yn nhreigl y tymhorau neu yng nghylchdro rhod fawr y flwyddyn. Onid yw’r arian-rhod, neu yr olwyn arian, yn gyfeiriad at hynny?
Mae Caer Gwydion yn enw arall ar y Llwybr Llaethog, yn deillio o hen stori [Welsh Folklore & Folk-custom, T Gwynn Jones (1929), tud. 16] am Gwydion yn mynd i chwilio drwy’r holl wledydd am ei fab colledig Huan ap Dôn. Yn y diwedd mae’n cyrraedd y ffordd laethog yn yr awyr lle mae’n canfod enaid Huan yn y nefoedd.
 
I’r Rhufeiniaid llaeth a gollwyd gan Juno pan yn magu’r ddau blentyn bach, Gwenner a Mawrth roddodd inni’r llwybr llaethog, tra i’r Groegiaid, Phaeton oedd ar fai. Fe berswadiodd o Apollo i adael iddo yrru cerbyd (chariot) newydd yr haul a oedd newydd gael ei adeiladu gan Vulcan. Ond mae’n amlwg nad oedd Phaeton fawr o yrrwr oherwydd fe redodd y cerbyd a’r haul yn wyllt ar draws y ffurfafen gan adael llwybr o lwch ar ei ôl.
 
Llys Dôn, Cadair Dôn – dyma enwau ar Cassiopeia neu yr ‘W’ fawr a welir yr ochr arall i seren y gogledd yn wynebu’r Sosban Fawr. Roedd Dôn yn enw ar fam dduwies y Brythoniaid ac yn cyfateb i Dana neu Danu yn yr Iwerddon. Roedd yn ferch i Mathonwy, yn chwaer i Math ac yn wraig i Beli, duw marwolaeth. Roedd ganddi lawer o blant a rheiny, yn cynnwys: Amaethon, Arianrhod, Gofannon, Gwydion, Gilfaethwy a Nudd sy’n cynrychioli sgiliau’r ddynoliaeth a phriodolweddau’r byd. Mae’n debyg bod llun mam dduwies Geltiaid y Cyfandir i’w gweld ar un o baneli arian y Pair Gundestrup enwog wedi ei hamgylchynnu gan blant, anifeiliaid ac adar.
Ceir cysylltiad â chadair mewn mytholegau eraill hefyd, e.e. dynes mewn cadair yn un o ddelweddau’r Rhufeiniaid a’r Arabiaid. Ond delwedd o goes yw hi i’r Eifftiaid, camel yn penlinio yng ngogledd Affrica a lamp garreg i’r Esgimo.
 
Yr Heliwr – cytser amlwg iawn ac yn ddelwedd o Orïon a oedd, yn chwedloniaeth y Groegiaid, yr heliwr goreu yn y byd. Ond am ei fod yn meddwl gormod ohono’i hun fe yrrodd y duwiau sgorpion i’w bigo a’i ladd. Mae’r Sgorpius hwnnw yn un o gytser y Sidydd a welir yn y pen eitha o’r awyr i’r Heliwr, rhag ofn iddi fynd yn ffrwgwd pellach rhwng y ddau!
 
Mae’r tair seren sy’n ffurfio gwregys Orïon yn dwyn yr enwau: y Tri Brenin, y Groes Fendigaid, Llathen y Teiliwr neu Llathen Fair (Geiriadur yr Academi). Mae tair seren y gwregys yn anelu at seren y ci, neu Sirius, oedd yn bwysig iawn ar un adeg am y byddai ymddanghosiad y seren gyfnewidiol hon uwchben y gorwel yn nodi cychwyn tymor amaethyddol y dwyrain canol. Yma yng Nghymru gelwir y dyddiau pan ddaw i’w hanterth ganol haf yn ddyddiau’r cŵn.
 
Y Sosban Fawr – mae saith seren y Sosban Fawr (Ursa Major) yn adnabyddus drwy’r byd dan sawl enw. Hi oedd yr Arth i seryddwyr yr Ewffrates dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl a cheir yr un enw yn yr India a rhannau eraill o’r byd yn ogystal. Ymysg brodorion gogledd America y bedair seren sy’n ffurfio sgwâr yw yr arth tra bo tair seren y gynffon yn cynrychioli tri heliwr yn ei herlid – y cyntaf efo bwa a saeth, yr ail efo pot i ferwi’r cig a’r trydydd efo’r tân i’w roi dan y pot. Llwydda’r helwyr i’w dal bob hydref, a’i gwaed yn disgyn o’r awyr sy’n gyfrifol am gochi’r dail.
 
Enwau eraill arni yw yr Aradr, y Big Dipper yn yr Unol Daleithiau, y Car Llusg ym Mecsico a’r Sosban Fawr gan rai ohonom yng Nghymru. Mae’r ddwy seren ar flaen y sosban yn cyfeirio at seren y gogledd (Polaris) sydd hefyd yn dwyn yr enwau Seren y Pegwn a Seren y Morwyr (Geiriadur Prifysgol Cymru).
 
Y Sosban Fach (Pleiades) – er mai dyma un o’r cytser lleiaf mae hefyd ymysg y mwyaf adnabyddus. Mae’n gorwedd rhwng yr Heliwr (Orïon) a’r Efeilliaid (Gemini) ac yn rhan estynedig o gytser y Tarw (Taurus). Gellir gweld rhyw saith seren â’r llygad noeth, ond dengys sbienddrych bod clwstwr o rai ugeiniau yma i gyd. Ceir chwedlau gwahanol am y Sosban Fach o bob rhan o’r byd, ond i’r Groegiaid a’r Rhufeiniaid roedd saith seren y Pleiades yn ferched i Atlas. Fe’u dyrchafwyd i’r ffurfafen am eu chwaer-garwch a’u cydymdeimlad â’u tad oedd yn gorfod cario pwysau’r byd ar ei ysgwyddau.
 
Yn ogystal â’r Saith Chwaer a’r Twr Sêr ceir enwau eraill arnynt (gw. [[Geiriadur yr Academi]]): y Saith Seren Siriol, y Saith Bardd, y Twr Tewdws (neu y Twr Tatws yn Sir Drefaldwyn yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru) a’r Trypser.
Os gwyddoch am fwy o enwau na’r uchod am y cytser ac os ydych yn gwybod pa gytser y cyfeirir atynt dan yr enwau ‘Caer Eiddionydd’ (Geiriadur Prifysgol Cymru) a ‘Dolen Teifi’ (Welsh Folk Lore & Folk-custom, tud. 15) fe fyddwn yn falch iawn o gael gwybod.
 
==Disgleirdeb y sêr==