Myfyr Isaac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
Ar ôl byw am gyfnod yn [[Toronto]] dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis [[Sêr (rhaglen deledu)|Sêr]] (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr [[Endaf Emlyn]], ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp [[Brân (band)|Brân]] a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop [[Channel 4|Sianel 4]] The Tube), a dau o aelodau [[Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr|Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr]], Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, ''Genod Oer'' (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân "Halfway" o’r albwm amlgyfrannog ''Twrw Tanllyd'' – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980]] (Sain, 1981).
 
Yn ystod y 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan [[Bando (band)|Bando]] a [[Crys (band)|Crys]], yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf [[Endaf Emlyn]] yn ystod y cyfnod hwn, ''Dawnsionara'' (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio solos melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân "Rola". Ymunodd Isaac gyda [[Bando]] gan gyd-gyfansoddi caneuon megis "Nos yng Nghaer Arianrhod" a "Saf ar dy Draed", gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd – bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol Rhisiart Arwel – tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r arddull roc trwm anthemig. Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores [[Caryl Parry Jones]], ar recordiau hir megis ''Shampŵ'' (Sain, 1982), ''Caryl a’r Band'' (Gwerin, 1983) ac ''Eiliad ''(Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr [[Geraint Griffiths]] ar ei recordiau unigol yntau, ''Madras'' (Sain, 1984), ''Rebel'' (Sain, 1986) ac ''Ararat'' (Sain, 1988), ynghŷd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu ''[[Dinas (cyfres deledu)|Dinas]]''.
 
==Bywyd personol==