Llyfr dysgwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
iaith
dolen > "E-Ffrindiau"; teitlau llyfrau mewn italig
Llinell 12:
 
== Nofelau dysgwr ==
Fel ymateb i angen dysgwyr i fwynhau darllen, mae sawl cyhoeddwr yn creu [[nofel]]au dysgwyr ers y chwedegau, sy'n defnyddio iaith symlach nag arfer, neu'n rhoi geirfa yng nghefn y llyfr neu ar waelod pob tudalen. Ceir sawl ''genre'' - nofelau ffuglen (e.e. ''[[Pwy sy'n cofio Siôn]]''), nofelau ffuglen hanesol (e.e.'' [[Ifor Bach (llyfr)|Ifor Bach]]''), nofelau ffugwyddynol (e.e. ''[[Deltanet]]''), ac ati. Maen nhw'n rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu geirfa newydd, adeiladu ar ei iaith a mwynhau darllen a hynny ar gyfer pob math o ddysgwyr: o lefel mynediad (e.e. ''[[eFfrindiau (llyfr)|eFfrindiauE-Ffrindiau]]'') i lefel uchaf ac mae'n bosib i bobl sy'n rhugl yn iaith lafar wella eu darllen hefyd trwy ddefnyddio'r math hwn o lyfrau.
 
== Cylchgrawn dysgwyr ==
Mae [[cylchgrawn|cylchgronau]]'n gallu rhoi'r cyfle i ddysgwyr i ddilyn materion cyfoes. Yn y Gymraeg, nid oedd ond un cylchgrawn dysgwr yn 2013: ''[[Lingo Newydd]]'',<ref>[http://www.golwg360.com/cylchgronau-cwmni-golwg Tudalen tanysgryfiad Lingo Newydd]</ref> ac mae e'n cefnogi bob lefel dysgu trwy ysgrifennu pob erthygl ar lefel mynediad (mewn glas), ar lefel sylfaen (gwyrdd) ac ar y lefel uchaf (coch).
 
Cylchgrawn plant yw [[WCW|WCW a'i ffrindiau]]<ref>[http://www.golwg360.com/cylchgronau-cwmni-golwg Tudalen tanysgryfiad WCW]</ref>, ond mae e'n cynnwys tudalen gymorth (uniaith Saesneg) i rieni nad ŷnt yn siarad Gymraeg, i esbonio'r erthyglau a'r gemau trwy'r cylchgrawn ac i alluogi rhieni di-Gymraeg i fwynhau'r cylchgrawn gyda'u plant.