Rheilffordd Dyffryn Rheidol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen > Rheilffordd y Great Western |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 54:
Pasiwyd deddf i adeiladu'r rheilffordd ar 6 Awst 1897. Doedd hi ddim yn bosibl codi arian mor gyflym ag y disgwyliwyd,<ref>[http://www.steamrailwaylines.co.uk/vale_of_rheidol_railway.htm Gwefan Steamrailwaylines]</ref> ond dechreuodd y gwaith ym 1901. Y Prif Beiriannydd oedd [[Syr James Szlumper]]. Defnyddiwyd locomotif, '''Talybont''', a ailenwyd yn '''Rheidol''', o [[Tramffordd Plynlimon a Hafan|Dramffordd Plynlimon a Hafan]]. Agorwyd y Rheilffordd ar 22 Rhagfyr, 1902, gan ddefnyddio dau locomotif 2-6-2T a adeiladwyd gan [[Davies a Metcalfe]] a locomotif 2-4-0T a adeiladwyd gan [[Bagnall]].<ref name="british-heritage-railways.co.uk">[http://www.british-heritage-railways.co.uk/vor.html Gwefan Rheilffyrdd Treftadaeth Prydeinig]</ref> Ail-agorwyd rhai o byllau plwm yn yr ardal, ac aeth y plwm ar y rheilffordd i Aberystwyth ac ymlaen ar longau. Cludwyd plwm o Bwll Plwm Rheidol gan raff dros Ddyffryn Rheidol i'r Rheilffordd yn ymyl Rhiwfron.<ref name="british-heritage-railways.co.uk"/> Cludwyd pren i'r cymoedd, lle'i defnyddiwyd fel pyst yn y pyllau. Aberystwyth, Llanbadarn, Capel Bangor, Nantyronen a Phontarfynach oedd y gorsafoedd gwreiddiol.
Ym 1912, ystyriwyd defnyddio pŵer trydan o [[Afon Rheidol]] ond daeth y rheilffordd yn rhan o [[Rheilffordd y Cambrian|Reilffordd y Cambrian]] yr un flwyddyn. Yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], caewyd Pwll Plwm Rheidol a chafwyd llai o wasanaethau i deithwyr. Ym 1923, daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o [[Rheilffordd y
Ym 1948 daeth y rheilffordd yn rhan o [[Rheilffyrdd Prydeinig|Reilffyrdd Prydeinig]]. Ym 1966, ar ôl y cau hen [[Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau|Reilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau]], trosglwyddwyd terminws lein Dyffryn Rheidol i'w hen blatfform yn y brif orsaf.<ref name="british-heritage-railways.co.uk"/>
|