Ymladd teirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Colombia ≠ Colombia !
Llinell 4:
• Yn 1991, daeth [[Yr Ynysoedd Dedwydd]] y Gymuned Hunanlywodraethol Sbaenaidd cyntaf i wahardd ymladd teirw, gyda [[Catalonia]] yn dilyn yn Ionawr 2012.]]
 
Talwrn draddodiadol a welir yn [[Sbaen]], [[Portiwgal]], de [[Ffrainc]] ac mewn rhai gwledydd [[America Ladin]] (megis [[Mecsico]], [[ColumbiaColombia]], [[Feneswela]] a [[Periw|Pheriw]]<ref>[http://www.cas-international.org/es/home/sufrimiento-de-toros-y-caballos/corridas-de-toros/corridas-de-toros-en-latinoamerica/ Corridas de Toros en Latinoamérica<!-- Bot generated title -->]</ref> ydy '''ymladd teirw'''. Yn rhan o'r sioe, ymladda un dyn neu fwy yn erbyn tarw neu deirw mewn maes ymladd teirw. Er ei fod, yn ei hanfod, yn [[chwaraeon gwaed]], caiff ei ystyried fel 'ceflyddyd gain' gan gefnogwyr y talwrn, ac nid fel chwaraeon<ref>Fiske-Harrison, Alexander [http://www.telegraph.co.uk/culture/books/8916880/To-the-Spanish-bullfighting-is-much-more-than-a-sport.html 'To the Spanish bullfighting is much more than a sport'] Daily Telegraph. 25 Tachwedd 2011</ref> am nad oes elfen o gystadleuaeth i'r ornest.
Mae'r ornest ei hun yn cynnwys ''[[torero (ymladdwr teirw)|toreros]]'' proffesiynol (gyda'r torero mwyaf profiadol, sef y [[matador]]) yn lladd y tarw ei hun. Gwna hyn gan ddefnyddio ystod o symudiadau ffurfiol, sydd ag ystyron ac enwau gwahanol, yn unol ag arddull neu ysgol hyfforddiant y matador. Mae agosatrwydd yr ymladdwr teirw at yr anifail yn ei osod mewn perygl o gael ei gornio neu'i ddamsgen arno. Ar ôl i'r tarw gael ei fachu sawl gwaith tu ôl i'w ysgwydd gan y matadors eraill yn yr ymrysonfa, daw'r talwrn i ben gyda'r tarw'n cael ei ladd gydag un hyrddiad terfynol gan gleddyf. Gelwir hyn yr ''estocada''. Ym Mhortiwgal, gelwir y diweddglo y ''pega'', lle mae'r dynion (''forcados'') yn ceisio gafael yng nghyrn y tarw wrth iddo redeg tuag atynt.