Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn gosod File:STS-129_landing_video.ogv yn lle STS-129_landing_video.ogg (gan CommonsDelinker achos: File renamed: Wrong extension (img_media_type=VIDEO/ogv)).
italig; dyddiadau
Llinell 12:
==Gwenoliaid gofod America==
[[Delwedd:Enterprise free flight.jpg|250px|bawd|chwith|Y wennol ofod ''Enterprise''.]]
Penderfynodd y sefydliad Americanaidd [[NASA]] ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar [[12 Ebrill]] [[1981]], 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, [[Yuri Gagarin]], gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: ''Columbia'', ''Challenger'', ''Discovery'', ''Atlantis'', ac ''Endeavour''. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriad y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.
 
Lansiwyd ''Columbia'' yn 1981. Dilynwyd hi gan ''Challenger'' yn 1983, ''Discovery'' yn 1984 ac ''Atlantis'' yn 1985. Yn 1986 dinistrwyd ''Challenger'' mewn damwain ac felly fe adeiladwyd ''Endeavour'' yn ei lle a lansiwyd hi yn 1992. Yn 2003 dinistriwyd ''Columbia'' wrth iddi ddychwelyd yn ôl i'r ddaear. Defnyddiwyd ''Atlantis'' am y tro olaf yn Mai 2010. Gwnaeth ''Discovery'' ei thaith olaf gan lanio yn ôl ar y ddaear ar y[[9 9fed o FawrthMawrth]] [[2011]] a'r ''Endeavour'' ar y 1af o[[1 FehefinMehefin]] [[2011]].
[[Delwedd:Brightly lit STS-135 on launch pad 39a.jpg|bawd|Atlantis yn 2011 yng nghanolfan ofod NASA Kennedy, Cape Canaveral.]]
 
Ystyriwyd bod yr hen system o rocedi a chapsiwlau gofod (''space capsules'') yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob taith. Yn y dechreuad, y syniad oedd creu system trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd ''Challenger'' a ''Columbia'' eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen system o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Orion yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.
 
Lansiwyd y daith ofod ddiwethaf (sef taith ofod STS-135) gan yr [[American Space Shuttle]] ar yr 8ed o Orffennaf 2011.