Samson (sant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
buchedd
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Sant]] o Gymru a ymsefydlodd yn [[Llydaw]] oedd '''Samson''' (c. [[485]] — c. [[565]]), [[Llydaweg]]:'''Samzun'''. Mae'n un o [[Saith Sant-sefydlydd Llydaw]].
 
Ceir buchedd Ladin gynnar i Samson, y ''Vita Sancti Samsonis'', a ysgrifennwyd rywbryd rhwng [[610]] ac [[820]]. Dywedir ei fod yn fab i Amwn o [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] ac Anna o [[Teyrnas Gwent|Went]]. Cafodd ei addysgu gan sant [[Illtud]] yn [[Llanilltud|Llanilltud Fawr]], a daeth sant [[Dyfrig]] yno i'w ordeinio yn ddiacon ac yn ddiweddarch yn offeiriad. Treuliodd amser ar [[Ynys Bŷr]] ym mynachlog Pŷr ei hun, a daeth yn [[abad]] yno wedi marwolaeth [[Pŷr,]].
 
Teithiodd i [[Iwerddon]], lle mae eglwysi wedi eu cysegru iddo yn [[Ballygriffin]] ger [[Dulyn]] ac yn [[Ballysamson]]. Dychwelodd i Ddyfed i fyw fel meudwy am gyfnod, a chysegrodd Dyfrig ef yn [[esgob]] ar Ddydd Gŵyl Cadair Pedr. Gellir rhoi dyddiad pendant i'r digwyddiad yma o'r manylion yn ei fuchedd, sef [[22 Chwefror]] [[521]]. Treuliodd rai blynyddoedd yng [[Cernyw|Nghernyw]] cyn symud i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn [[Dol]]. Dywedir i sant [[Teilo]] ymweld ag ef yma yn [[547]], wedi iddo ffoi o Gymru rhaf [[y Fad Felen]].
 
Dywedir iddo fedru rhyddhau Iudual, tywysog gogledd Llydaw, oedd yn cael ei ddal yn garcharot ym [[Paris|Mharis]] gan [[Childebert]], brenin y [[Ffranciaid]], ac ymwelodd a'r ddinas eto yn 556, pan oedd yn bresennol mewn senedd esgobol. Arwyddodd ddogfen yma fel ''Samson peccator episcopus''. Ei wylmabsant yw [[28 Gorffennaf]].
Llinell 9:
[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Seintiau Llydaw]]
[[Categori:Esgobion]]
[[Categori:Genedigaethau'r 480au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 560au]]
 
[[br:Samzun]]