Beda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
cywirio dolen
Llinell 1:
[[Hanes]]ydd cynnar, mynach a [[Diwinyddiaeth|diwinydd]] o [[Saeson|Sais]] oedd '''Beda''' ([[Saesneg]] '''Bede''': c. [[673]] - [[735]]), a aned ger [[Wearmouth]], [[Durham]]. Cyfeirir ato'n aml fel "Yr Hybarch Beda" (''The Venerable Bede'').
 
Mae ei gyfrol yn yr iaith [[Lladin|Ladin]] ''[[Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum]]'' yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes cynnar gwledydd [[Prydain]], er gwaethaf rhagfarn amlwg yr awdur yn erbyn y [[Brythoniaid]]. Cafodd ei gyfieithu i [[Hen Saesneg]] yn ystod teyrnasiad y brenin [[Alffred Fawr|Alfred]].
 
Roedd yn ysgolhaig amryddawn hyddysg yn [[Lladin]] a [[Groeg]] ac yn gyfarwydd â'r [[Hebraeg]]. Ymddiddorai hefyd mewn [[llenyddiaeth]] [[Groeg yr Henfyd|glasurol]], [[meddygaeth]], [[seryddiaeth]] a [[gramadeg]].