Calvert Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
ehangu o'r BAL |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:David brewster group.jpg|bawd|Ch-Dde: Calvert Richard Jones, y Ledi Brewster, Mrs Jones, Syr David Brewster and Miss Parnell (yn eistedd).]]
Roedd '''Calvert Jones''' ([[4 Rhagfyr]] [[1804]] – [[7 Tachwedd]] [[1877]]) yn enedigol o [[Abertawe]] ac yn [[Ffotograffiaeth|ffotograffydd]], yn [[mathemateg|fathemategydd]] ac yn [[paentio|arlunydd]] a arbenigai mewn tirluniau o'r [[arfordir]]. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i dynnu llun 'ffotograff' yng Nghymru: math 'Daguerreotype' a hynny o [[Margam|Gastell Margam]] yn 1841.
Roedd ei rieni'n gyfoethog iawn, ac yn hanu o [[Abertawe]]. Fe'i addysgwyd yng [[Coleg Eton|Ngholeg Eton]] ac yng [[Coleg Oriel, Rhydychen|Ngholeg Oriel, Rhydychen]]
==Ffotograffiaeth==
Gan nad oedd proses Talbot wedi'i berffeithio, trodd yn gyntaf at y dull ''daguerrotype'' gan berffeithio'r grefft erbyn 1841. Drwy'r [[1840au]] cydweithiodd gyda Talbot a chyda [[Ffrainc|Ffrancwyr]] fel Hippolyte Bayard a bu'n ddolen gyswllt anhepgor rhwng arloeswyr Ffrainc a gwledydd Prydain. Erbyn 1846 yr oedd wedi troi at broses ''calotype'' Talbot. A dyma'i waith mwyaf nodedig, y ffotograffau ''calotype'' a dynnodd ddiwedd yr [[1840au]] ar [[Ynys Malta]], yn [[yr Eidal]] ac o gwmpas gwledydd Prydain. Danfonai'r negyddion at Talbot i'w hargraffu a'u gwerthu.<ref>['Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein'; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].</ref>
==Ewrop ac yn ôl==
Teithiodd yn helaeth, gan gynnwys [[Ffrainc]] a'r [[Eidal]] gan ddatblygu techneg ei hun i greu llun ar ffurf panorama. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth.
Yn 1847 etifeddodd llawer o diroedd ac Ystad Heathfield yn ardal Abertawe yn 1847 a dychwelodd adref. Adeiladodd strydoedd yng nghanol y ddinas, gan goffáu ei hanner brawd yn enw "Stryd Mansel" a'i ail wraig yn enw "Stryd Portia". Gadawodd Abertawe yn 1853 a byw ym [[Brwsel|Mrwsel]].
Bu iddo un ferch o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail briodas.
==Marwolaeth==
Enwyd 'Stryd Mansel' ar ôl ei frawd. Symudodd i [[Brwsel|Frwsel]] yn 1853 ac yna i [[Caerfaddon|Gaerfaddon]] lle bu farw ar 7 Tachwedd 1877. Yng nghapel y teulu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, fodd bynnag, y cafodd ei gladdu, cyn difa'r eglwys yn llwyr yn yr [[Ail Ryfel Byd]].
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Rheoli awdurdod}}
|