Ogof Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bwlch
Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno
Llinell 9:
| lon_deg = -3.4763
}}
Mae '''Ogof Bontnewydd''' ('''Ogof Pontnewydd''', neu '''Bont Newydd''') yng nghymuned [[Cefnmeiriadog]] yn nyffryn [[afon Elwy|Elwy]] yn [[Sir Ddinbych]] (Cyfeirnod OS: SJ01527102) yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear [[Cymru]] gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Mae o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennog [[Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion]]. Mae Ogof Bontnewydd ac [[Ogof Cefn]] (sydd tua 300 metr i'r gorllewin, wedi'u cofrestru'n Henebion.<ref>[file:///C:/dros%20dro/SSSI_0147_Citation_EN001.pdf Cyfoeth Naturiol Cymru;] adalwyd 3 Hydref 2014</ref> Tua 7 milltir i'r de-ddwyrain, yn [[Tremeirchion|Nhremeirchion]] mae [[Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno]].
 
Carreg [[calchfaen|galchfaen]] yw'r ogof ac nid ydyw ar agor i'r cyhoedd, fel arfer.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/306687/details/BONT+NEWYDD+CAVE%3BBONT-NEWYDD+CAVE%3B+PONTNEWYDD+CAVE/ Gwefan Coflein;] Adalwyd 21 Mehefin 2014</ref> Yn wir, dim ond un man arall drwy [[wledydd Prydain]] sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex).<ref>''The Archaeology of Clwyd'', Cyngor Sir Clwyd 1991 tudalen 32</ref><ref>Hanes Cymru gan John Davies, Cyhoeddwr: Penguin, 1990, ISBN 0-14-012570-1; tudalen 3</ref> Mae'n perthyn i [[Hen Oes y Cerrig yng Nghymru|Hen Oes y Cerrig]] (neu Paleolithig).