Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 1,046 beit ,  2 flynedd yn ôl
Aelodaeth
 
Yn Awst 2015 roedd Unoliaethwyr Ulster (UUP) yn ystyried rhoi’r gorau i rannu grym pwerau yng Ngogledd Iwerddon, a ffurfio gwrthblaid eu hunain yn dilyn honiadau y gallai’r IRA fod yn weithredol o hyd. Daw’r penderfyniad yn sgil asesiad gan wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) fod elfennau o’r IRA yn dal i weithredu, yn groes i Gytundeb Gwener y Groglith. Dywedodd Prif Gwnstabl gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, George Hamilton fod posiblirwydd cryf fod rhai o aelodau'r IRA fod wedi bod ynghlwm â llofruddiaeth Kevin McGuigan. Ond yn ôl [[Gerry Adams]], arweinydd y blaid [[Sinn Fein]] roedd yr IRA wedi "mynd i ffwrdd". Galwodd y Gweinidog dros Gyfiawnder, Frances Fitzgerald, am "arolwg newydd" o weithgareddau’r IRA gan yr heddlu.
 
==Aelodau==
Manylwyd ar aelodaeth y Cynulliad yn Neddf Gogledd Iwerddon 1998. Yn wreiddiol roedd gan y Cynulliad 108 aelod (MLAs) a etholwyd o 18 etholaeth wyth-aelod. Yn dilyn y ''Assembly Members (Reduction of Numbers) Act (Northern Ireland) 2016'', cafwyd gostyngwyd nifer yr aelodau ymhob etholaeth o 6 i 5.<ref>{{cite web|url=http://www.legislation.gov.uk/nia/2016/29|title=Assembly Members (Reduction of Numbers) Act (Northern Ireland) 2016|publisher=}}</ref> Felly, pan gynhalwyd Etholiad Cyffredinol Gogledd Iwerddon ym Mawrth 2017, roedd cyfanswm o 90 aelod.<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.com/news/uk-northern-ireland-politics-35555322|title=Stormont election: How results are calculated and reported|date=23 Chwefror 2017|publisher=|via=www.bbc.com}}</ref>
 
{{Wide image|NI Assembly seat share by designation.svg|1000px|Shows the proportion of seats obtained at each election to the Northern Ireland Assembly by those members designated as Unionist, those members designated as Nationalist and those members designated as Other.}}
 
==Gweler hefyd==