Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 4 beit ,  2 flynedd yn ôl
Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mawrth 2017. Yn gefndir i hyn roedd [[Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016|Refferendwm Brexit]], pan bleidleisiodd mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon dros aros yn yr UE. Galwyd yr etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Dirprwy Brif Weinidod y Cynulliad, sef [[Martin McGuinness]] ([[Sinn Féin]]) oherwydd ei iechyd ac mewn protest oherwydd sgandal 'Ymgyrch y Gwres Adnewyddadwy' dan arweiniad gan Unoliaethwyr. Gan nad apwyntiwyd neb yn ei le gan y cenedlaetholwyr, roedd yn rhaid, yn ôl y Ddeddf, alw etholiad. Hwn oedd y 6ed etholiad ers ail-sefydlu'r Cynulliad yn 1998.
 
Mae'rRoedd yr etholiad hon yn garreg filltir bwysig yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon gan ei bod y tro cyntaf i'r Cenedlaetholwyr ethol mwy o aelodau na'r Unoliaethwyr. Etholwyd 28 DUP a 10 UUP yn rhoi cyfanswm o 38 o Unoliaethwyr; etholwyd 27 aelod o Sinn Féin a 12 SDLP yn rhoi cyfanswm o 39 aelod.
 
{{clirio}}
 
==Gweler hefyd==
*[[Prif Weinidog Gogledd Iwerddon]]