Apton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ap yr wythnos
BDim crynodeb golygu
Llinell 20:
| trwydded gynnwys = Hawlfraint Apton
}}
Gwefan a gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig yw '''Apton''' neu '''Aptôn'''<ref>[http://golwg360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/251029-gwasanaeth-cerddoriaeth-apton-yn-ol-yn-fyw-ac-yn-iach golwg360.cymru;] adalwyd Chwefror 2017.</ref>, a lansiwyd yn hydrefHydref 2016. Gellir gwrando ar y gerddoriaeth ar sawl dyfais, gan gynnwys y [[ffôn clyfar|ffôn]], tabled, [[cyfrifiadur]] ayb. Ceir 10,000 o draciau gan nifer o labeli, wedi'u dosbarth mewn sawl ffordd er mwyn fforio (neu fordwyo) drwyddynt yn hawdd: yn ôl arddull, artist neu'n ôl yr [[wyddor]], neu fe ellir nodi enw'r artist neu'r albym yn y blwch chwilio. Trefnwyd a rheolir y wefan gan [[Sain Recordiau Cyf]], [[Llandwrog]], [[Gwynedd]]. Ceir hefyd botwm ffefrynau ac mae modd gwrando ar draciau o’r rhestr chwarae all-lein.
 
Ceir mynediad i'r wefan am fis cyfan, am ddim, ac yna codir tanysgrifiad bychan; nid oes yn rhaid rhoi manylion cerdyn i gael mynediad am y mis cyntaf, cyfnod blasu. Ar ddiwedd y mis, codir £5 y mis am fynediad, neu £7.50 am wasanaeth ‘premiwm’ fydd yn caniatáu mynediad at fwy o ganeuon a thraciau unigryw oddi ar hen feinyls.<ref>[http://cymraeg.gov.wales/news/index/ApyrWythnos-Apton?lang=cy Gwefan cymraeg.gov.wales;] adalwyd 10 Mawr 2017.</ref>
 
Haciwyd ygwasanaeth Apton ychydig wedi iddi gael ei lansio gan hacwyr a fynnodd bridwerth o £200 i'w rhyddhau'n ôl i ddwylo'r perchennog. Ni wnaethpwyd hynny, a llwyddwyd i'w hailosod a diogelu'r gweinydd drwy ei uwchraddio. O fewn y mis cyntaf, roedd 1,300 o bobl wedi tanysgrifio.
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 31:
[[Categori:Gwefannau Cymraeg]]
[[Categori:Gwefannau o Gymru]]
[[Categori:Sefydliadau 2016]]
[[Categori:Prosiect Wicipop]]