Pab Sixtus V: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Portread o'r Pab Sixtus V. Pab yr Eglwys Gatholig o 1585 hyd ei farwolaeth oedd '''Sixtus V''' (ganwyd Felice Pe...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Sisto V Papa.jpg|bawd|Portread o'r Pab Sixtus V.]]
[[Pab]] [[yr Eglwys Gatholig]] o 1585 hyd ei farwolaeth oedd '''Sixtus V''' (ganwyd Felice Peretti; 13 Rhagfyr 1521 – 27 Awst 1590). Er iddo deyrnasu am bum mlynedd yn unig, roedd ei gyfnod yn llawn newidiadau ac fe'i gofir fel un o brif arweinwyr [[y Gwrth-Ddiwygiad]]. Llwyddodd i ddiwygio'r llywodraeth eglwysig ac adnewyddu dinas [[Rhufain]].
 
Ganwyd i deulu tlawd o dras [[Dalmatia|Ddalmataidd]] ym mhentref Grottammare yn rhanbarth [[Marche]], [[yr Eidal]]. Bu'n fugail moch cyn iddo ymuno ag [[Urdd Sant Ffransis]] yn 12 oed a gwisgo gŵn llwyd y Brodyr Lleiaf fel [[nofydd]].<ref name=CE/> Astudiodd mewn sawl dinas yng ngogledd yr Eidal cyn ei ordeinio yn [[Siena]] ym 1547, a'r flwyddyn nesaf enillodd ei ddoethuriaeth yn niwinyddiaeth o Brifysgol Fermo. Daeth yn bregethwr o fri yn ystod oes y Gwrth-Ddiwygiad a chafodd ei noddi gan y Cardinal Carafa (yn hwyrach, [[Pab Pawl IV]]), y Cardinal Ghislieri ([[Pab Pïws V|Pïws V]]), Sant [[Filippo Neri]], a Sant [[Ignatius Loyola]]. Roedd yn gynghorydd i'r [[Chwilys]] yn [[Fenis]] o 1557 hyd 1560, ond cafodd ei alw yn ei ôl am fod yn rhy frwdfrydig yn ei swydd. Teithiodd Peretti a'r Cardinal Boncompagni ([[Pab Grigor XIII|Grigor XIII]]) i Sbaen ym 1565 i ymchwilio'r cyhuddiad o [[heresi]] yn erbyn Archesgob Toledo; roedd cymaint o ddrwg rhwng y ddau ohonynt fe ddaethont yn elynion am oes. Cafodd Peretti ei benodi'n esgob Sant' Agata de' Goti a ficer cyffredinol y Ffransisiaid Lleiaf ym 1566 gan y Pab Pïws V, cardinal ym 1570, ac Esgob Fermo ym 1571. Yn sgil dyrchafiad Boncompagni i'r Babaeth ym 1572, cafodd seibiant o rengoedd uchaf y glerigiaeth a threuliodd y cyfnod hwn yn golygu gweithiau Sant Ambrose, Esgob Milan.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Sixtus-V |teitl=Sixtus V |dyddiadcyrchiad=22 Ionawr 2017 }}</ref>