Gwydion fab Dôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
llun
Llinell 20:
Wedi clywed hyn aeth Gwydion at Fath, mab Mathonwy, am help a chymerodd Gwydion a Math flodau’r [[derw]], [[banadl]] ac [[erwain]] a thrwy hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau. Galwyd hi [[Blodeuwedd]], ac yn fuan priodwyd hi a Lleu.
 
[[Delwedd:Math Lleu(Guest).JPG|200px|bawd|Lleu'n esgyn i'r awyr yn rhith eryr (darlun o argraffiad 1877 o ''Mabinogion'' [[Charlotte Guest]]]]
Ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â [[Gronw Pebr]], Arglwydd [[Penllyn]] a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared o Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. Dywedodd Lleu wrthi na ellid ei ladd os nad oedd yn gyntaf wedi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon, ac wedyn yn sefyll ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a'i taro â gwaywffon. Roedd rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig.