Brwydr Fforest Teutoburg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Blick-über-den-Teutoburger-Wald1.jpg|bawd|300px|Golygfa o'r ''[[Hermannsdenkmal]]'']]
 
Brwydr rhwng cynghrair o lwythau Almaenig a byddin [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] yn y flwyddyn [[9]] OC oedd '''Brwydr Fforest Teutoburg''' ([[Almaeneg]]: '''Schlacht im Teutoburger Wald''', '''Varusschlacht''' neu '''Hermannsschlacht'''). Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng [[9 Medi]] ac [[11 Medi]], a'r canlyniad oedd i dair [[lleng Rufeinig]] dan [[Publius Quinctilius Varus]], ([[Legio XVII]], [[Legio XVIII]] a [[Legio XIX]]), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan [[Arminius]] mab [[Segimer]] ("Hermann" mewn Almaeneg diweddar).
 
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers [[Brydr Cannae]] yn erbyn [[Hannibal]]. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Suetonius]], gyrrwyd yr ymerawdwr [[Augustus]] bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muria y palas a gweiddi ''Quintili Vare, legiones redde!'' ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")