Arwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Watts-galahad.JPG|200px|bawd|Syr [[Galahad]], un o arwyr cylch [[Arthur]]]]
Ceir sawl ystyr i'r gair '''arwr''' (benywaidd: '''arwres'''). Daw'r gair [[Cymraeg]] o'r [[rhagddodiad]] ''ar-'', sy'n cryfhau'r ystyr, a'r [[enw]] ''gŵr'' 'rhyfelwr'; 'gwron' neu 'rhyfelwr dewr' yw prif ystyr y gair mewn [[Cymraeg Canol]]. Yn nhermau [[mytholeg]], gan darddu o'r defnydd o'r gair ''hero'' ym mytholeg y [[Groeg]]iaid a'r [[Rhufeiniaid]], mae '''arwr''' yn gymeriad dwyfol neu led-ddwyfol wedi ei ddonio â nerth neu ddawn anghyffredin; [[Heracles]] (Ercwlff) oedd un o'r enwocaf o arwyr y byd Clasurol. Yn fwy cyffredinol, datblygodd y gair i olygu unrhywun sy'n ddewr neu sy'n barod i aberthu ei hun er mwyn eraill. Gall olygu prif gymeriad [[cerdd]] neu [[nofel]] yn ogystal. Erbyn heddiw mae'r defnydd o'r gair wedi dirywio cymaint fel bod pobl fel peldroedwyr sy'n achub gêm yn cael eu disgrifio fel "arwyr".