William Abraham (Mabon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B Cwmafon >> Cwmafan
Llinell 2:
Llywydd cyntaf [[Ffederasiwn Glowyr De Cymru]] ac [[Aelod Seneddol]] oedd '''William Abraham (Mabon)''' ([[14 Mehefin]] [[1842]] - [[14 Mai]] [[1922]]).
 
Ganed ef yng [[CwmafonCwmafan|NghwmafonNghwmafan]], yn fab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol CwmafonCwmafan, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Yn y [[1860au]] bu am gyfnod yn [[Chile]] yn gweithio yn y gweithfeydd [[copr]] yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr yn [[1870]], a bu'n llywydd y glowyr ar y ''Joint Sliding Scale Association'' o 1875 hyd 1903. Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."
 
Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Ar y cyntaf, roedd yn aelod o'r [[Y Blaid Ryddfrydol|Blaid Ryddfrydol]], yna'n ddiweddarach yn aelod o'r [[Y Blaid Lafur|Blaid Lafur]] pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd.