Germanicus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
Roedd Germanicus yn ffefryn gan yr ymerawdwr Augustus, a phan enwodd [[Tiberius]] fel ei etifedd, mynnodd ei fod yn mabwysiadu Germanicus fel mab ac etifedd iddo ef. Bu'n ymladd yn
[[Pannonia]] a [[Dalmatia]], a daeth i gael ei gydnabod fel cadfridog galluog. Wedi marwolaeth
Augustus yn [[14]], enwodd [[Senedd Rhufain]] ef yn bennaeth y milwyr yn the [[Germania]]. Arweiniodd nifer o ymgyrchoedd yn erbyn y cynghrair o lwythau lmaenig dan arweiniad [[Arminius]], oedd wedi dinistrio tair lleng Rufeinig ym [[Brwydr Fforest TeutobugTeutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]] yn [[9]] OC. Enillodd Germanicus nifer o fuddugoliaethau dros Arminius, yn enwedig ger Idistoviso ar [[Afon Weser]] yn [[16]]. Gallodd adennill [[eryr (lleng)|eryr]] pob un o'r tair lleng a gollwyd ym Mrwydr Fforest Teutobug.
 
Galwyd Germanicus yn ôl i Rufain gan Tiberius, ac yna gyrrwyd ef i [[Asia (talaith Rufeinig)|Asia]], lle gorchgyfodd deyrnasoedd [[Cappadocia]] a [[Commagene]] yn [[18]], a'i troi yn daleithiau Rhufeinig. Bu cweryl rhyngddo ef a llywodraethwr Syria, [[Gnaeus Calpurnius Piso]], a phan fu farw Germanicus yn sydyn yn [[Antioch]], cyhuddwyd Piso o'i wenwyno. Lladdodd Piso ei hun tra'n disgwyl ei brawf yn Rhufain. Awgrymodd [[Suetonius]] fod Tiberius yn eiddigeddus o boblogrwydd Germanicus, a'i fod a rhan yn y llofruddiaeth. Taflwyd amheuaeth ar brif gynghorydd Tiberius, [[Sejanus]], hefyd.