Maes glo De Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Pwllmawr.jpg|bawd|240px|Pwll Mawr, Blaenafon]]
 
'''Maes glo De Cymru''' yw'r mwyaf o'r ddau [[Maes glo|faes glo]] yng Nghymru. Mae'n ymestyn am bron 90 milltir o Fae Sant-y-Brid yn y gorllewin i [[Pont-y-pwl|Bont-y-pwl]] yn y dwyrain gyda rhannau ohono yn siroedd [[Sir Gaerfyrddin|Caerfyrddin]], [[Abertawe]], [[Castell-nedd Port Talbot]], [[Pen-y-bont ar Ogwr]], [[Rhondda Cynon Taf]], [[Bro Morgannwg]], [[Merthyr Tydfil]], [[Caerdydd]], [[Caerffili (sir)|Caerffili]], [[Blaenau Gwent]], [[Torfaen]] a [[Powys]].
 
Mae'r maes glo yn fasn o greigiau [[Carbonifferaidd]], a ffurfiwyd pan oedd Cymru yn rhan o [[uwchgyfandir]] [[Pangea]] ac yn wlad gwernydd yn agos i'r [[cyhydedd]]. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o [[tywodfaen|dywodfaen]] a [[siâl]] hefyd. Mae natur y glo yn amrywio o un rhan o'r maes i'r llall. Yn Sir Gaerfyrddin, ceid [[glo carreg]], tra'r oedd glo [[Cwm Rhondda]] yn [[glo ager|lo ager]], a ddefnyddid ar gyfer llongau ager.