Eco-sgolion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B clean up
Llinell 1:
{{byd bregus}}
[[Delwedd:Eco Sgolion.png|bawd|dde|200px|Logo Eco-sgolion]]
Mudiad rhyngwladol yw '''Eco-sgolion''' sy'n annog a hybu disgyblion ysgolion i gymryd diddordeb mewn materion amgylcheddol a codi ymwybyddiaeth am yr [[amgylchedd]]. Mae'r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae'r meysydd pwnc yn cynnwys [[Ysbwriel]], Lleihau [[Gwastraff]], [[Cludiant]], [[Iechyd|Byw'n Iach]], [[Ynni]], [[Dŵr]], Tir yr Ysgol a [[Dinasyddiaeth]] Fyd-eang.
 
Disgyblion sy'n cymryd y prif rannau mewn cymryd penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach.
 
Mae Baner Werdd Ryngwladol Eco-Sgolion, a roddir i ysgolion sydd wedi llwyddo'n dda gyda'u rhaglen, yn eco-label cydnabyddedig sy'n cael ei barchu am berfformio mewn [[addysg]] ar gyfer [[datblygu cynaliadwy]]. Gweithgaredd tymor hir yw'r rhaglen Eco-Sgolion gyda'r wobr yn cael ei hail asesu a'u hadnewyddu bob dwy flynedd.
Llinell 9:
== Cymru ==
Ceir Eco-Sgolion drwy'r 22 o [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|awdurdodau lleol Cymru]] ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ysgolion babanod, cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig. Ar hyn o bryd mae 1600 o Eco-Sgolion wedi'u cofrestru yng Nghymru gyda 320 wedi llwyddo i ennill statws y Faner Werdd.
Mae'r cyfan o'r defnyddiau ar gael yn [[Gymraeg]] a [[Saesneg]] ac yn rhad ac am ddim i ysgolion sydd wedi cofrestru.
 
Mae'r cynllun yn dal i dyfu'n gyflym ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan bron bob un o awdurdodau lleol Cymru yn ogystal ag [[ACCAC]], [[ESTYN]] a nifer o sefydliadau amgylcheddol.
Llinell 15:
 
==O ble daeth y rhaglen?==
Yng Nghynhadledd y [[Cenhedloedd Unedig]] ar yr Amgylchedd a Datblygu (Uwch Gynhadledd [[Rio de Janeiro]]) ym 1992 y sylweddolwyd fod angen rhoi rhan i bobl ifanc mewn canfod atebion i heriau amgylcheddol a datblygu cynaliadwy yn lleol.
 
O ganlyniad datblygwyd y rhaglen Eco-Sgolion ym 1994 gan y Sefydliad dros Addysg Amgylcheddol (FEE). Fe'i cyflwynwyd i'r [[DU]] ym 1995. Rheolir y rhaglen yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, ac yn [[yr Alban]] fe'i rheolir gan Keep Scotland Beautiful a chan EnCAMS yn [[Lloegr]] a [[Gogledd Iwerddon]].<ref>[http://www.eco-schoolswales.org/category.asp?catID=21 Eco-Sgolion Cymru]</ref>