Nwy naturiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
a fach
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Gaskessel gr.jpg|200px|de|bawd|Tanc storio i nwy naturiol]]
[[Tanwydd ffosil]] yw '''nwy naturiol'''. Mae'n cynnwys cymysgedd o [[nwy]]on, ond [[methan]] yw'r pennaf. Mae'r nwy yn casglu o dan y ddaear mewn creigiau athraidd (e.e. [[tywodfaen]]), fel arfer mewn meysydd [[petroliwm|olew]]. Caiff y nwy ei storio fel '''nwy naturiol cywasgedig''' (CNG) neu '''nwy naturiol hylifedig''' (LNG).
 
== Ffurfiant ==
Fel olew a [[glo]], ffurfir y nwy o [[pydred anaerobig|bydredd anaerobig]] gwastraffoedd organig dros filiynnau o flynyddoedd. Yn wahanol i lo, ffynhonnell y deunydd organig yw [[micro-organeb]]au morol fel [[plancton]], ac mae pob maes nwy wedi bod o dan moroedd twym pan casglodd y deunydd organig. Gan fod nwy naturiol ac olew yn medru llifo, maent yn ymgasglu mewn creigiau athraidd fel tywodfaen. Pan mae haen o dywodfaen yn cael ei gorchuddio gan haen o graig [[anathraidd]] fel [[sial]], gall olew a nwy gael eu dal mewn man lle mae'r haenau yn cael eu plygu gan newidiadau [[daeareg]]ol.
 
== Priodweddau'r nwy ==
Mae nwy naturiol yn nwy di-liw a di-arogl. Er mwyn osgoi ffrwydradau os mae'r nwy yn dianc, ychwanegir cyfansoddyn [[sylffwr]] er mwyn achosi arogl cryf. Mae'r nwyon yn fflamadwy iawn ac yn gallu creu cymysgeddau ffrwydradol gydag [[ocsigen]] neu [[aer]].
 
Cludir nwy mewn [[llong]] fel [[tancer nwy]] neu drwy [[peipen cludo nwy|beipen cludo nwy]].
 
Llosgir nwy naturol am ei [[ynni]], er enghraifft mewn injan [[bws|bysiau]] a nifer o [[car|moduron]] eraill ac i gynhyrchu [[trydan]].