Ymholltiad niwclear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
B →‎top: clean up
 
Llinell 2:
[[Delwedd:UFission.gif|300px|dde|bawd|Diagram o ymholltiad niwclear ble welir y niwtron araf yn cael ei dderbyn gan niwclews atom o [[wraniwm|wraniwm-235]] gan hollti'n ddwy elfen cyflym a niwtronau ychwanegol. Mae'r egni a rhyddheir ar ffurf egni cinetig a niwtronau. Hefyd gwelir niwtron yn cael ei ddal gan wraniwm-238 gan ei droi yn wraniwm-239.]]
 
Mewn [[ffiseg niwclear]] a [[cemeg niwclear|chemeg niwclear]], math o adwaith niwclear ydy '''ymholltiad niwclear'''. Mae [[Niwclews atomig|cnewyllyn yr atom]] yn hollti'n rhannau llai, ysgafnach gan ryddhau niwtronau a phrotonau rhydd a elwir yn [[pelydr gamma|belydr gamma]]. Mae ymhollti elfennau trwm yn rhyddhau peth wmbredd o [[ynni niwclear|ynni]] ar ffurf [[egni electromagnetig]] ac [[egni cinetig]].
 
Mae ymhollti niwclear yn creu ynni niwclear ac i'w ganfod oddi mewn i [[arf niwclear|arfau niwclear]] ar ffurf ffrwydriad. Mae'r ddau yma'n digwydd pan fo rhai deunyddiau a elwir yn [[tanwydd niwclear|danwydd niwclear]] yn mynd drwy'r weithred yma o ymhollti pan cânt eu taro gan y niwtronau rhydd yma, gan greu rhagor o niwtronau wrth iddyn nhw dorri i fyny'n ddarnau llai. Caiff y broses hon ei hailadrodd dro-ar-ôl-tro ar ffurf [[adwaith cadwyn]] sy'n rhyddhau gwres y gellir ei harneisio neu ei ffrwyno a'i reoli mewn [[adweithydd niwclear]] neu'n gyflym ac ar raddfa na ellir ei reoli mewn bom atomig.