Enfys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Geirdarddiad: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 17:
Rhyfeddod neu ffenomenon [[opteg]]ol a [[meteoroleg]]ol yw '''enfys''' ([[Llydaweg|Hen Lydaweg]]: ''envez''; 'cylch neu 'fodrwy'), pan fydd [[sbectrwm optegol|sbectrwm]] o [[golau|olau]] yn ymddangos yn yr awyr pan fo'n [[haul]] yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn [[atmosffer|atmosffer y ddaear]]. Mae'n ymddangos ar ffurf bwa [[lliw|amryliw]], gyda [[coch|choch]] ar ran allanol y bwa, a [[dulas]] ar y rhan fewnol. Caiff ei greu pan fo golau o fewn diferion o ddŵr yn cael ei [[adlewyrchu]], ei [[Plygiant|blygu]] (neu ei wrthdori) a'i wasgaru.
 
Mae enfys yn ymestyn dros sbetrwm di-dor o liwiau; mae'r bandiau a welir yn ganlyniad i olwg lliw [[bod dynol|pobol]]. Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel [[coch]], [[oren]], [[melyn]], [[gwyrdd]], [[glas]], [[indigo]] a [[fioled]]. Gellir eu dwyn i'r cof wrth adrodd y [[cofair]]: "Caradog o'r mynydd gafodd gig i'w fwyta".<ref>D. Geraint Lewis. ''[[Lewisiana]]'' (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 44.</ref> Galla yr enfys fod ar ffurf cylch cyfan ond mae'r gwyliwr cyffredin, fel arfer, yn gweld rhan ohoni - bwa'n unig ac nid cylch.<ref>{{cite web|title=Dr. Jeff Masters Rainbow Site|url= http://www.wunderground.com/blog/JeffMasters/the-360degree-rainbow}}</ref>
 
Gall enfys gael ei achosi gan ffurfiau eraill o ddŵr heblaw [[glaw]], megis [[niwl]], [[olew]] a [[gwlithyn|gwlith]].
 
Nid yw enfys wedi'i leoli mewn un lle, ond mae'n ymddangos mewn rhith optegol i'r gwyliwr ei fod. Ongl y golau, wrth iddo blygu o fewn y diferion sy'n achosi hyn, mewn perthynas i ongl y gwyliwr a tharddiad y golau (yr haul yn yr achos hwn). Nid yw'r enfys felly'n wrthrych sy'n bodoli mewn un man, ac ni fedrir ei gyffwrdd. Dim ond ar ongl o 42 gradd o'r cyfeiriad dirgroes y gellir ei weld.
 
==Geirdarddiad==