Mellten: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: man gywiriadau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Lightning over Oradea Romania 2.jpg|bawd|200px|Mellt yn taro'r ddaear]]
Gollyngiad o [[trydan|drydan]] yn yr [[awyr]] a achosir gan grynhoi siarsau trydannol mewn [[cwmwl]] mewn canlyniad i [[ffrithiant]] gronynnau yn erbyn ei gilydd yn y cwmwl a phrosesau eraill yw '''mellten''' (lluosog: '''mellt''').
 
Mae'r [[egni]] a ryddheir felly yn gallu bod yn anferth, hyd at 1,000 miliwn [[folt]]. Rhaid i'r egni hwnnw gael ffordd i dorri'n rhydd, a gwneir hynny fel mellten, naill ai rhwng cymylau neu o gwmwl i wyneb y ddaear. [[Taran]] yw'r glec fyddarol a greir wrth i'r egni ymollwng i'r awyr. Am fod y ddau ffenomonen yn digwydd gyda'i gilydd fel rheol, cyfeirir atynt fel 'mellt a tharannau'.