Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu: Y ddwy ochr
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Lancashire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Gaerhirfryn]]
[[Delwedd:Yorkshire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Efrog]]
Roedd '''Rhyfeloedd y Rhosynnau''' ('''Rhyfel y Rhos''', yn ôl yr hanesydd John Davies<ref name="ReferenceA">''Hanes Cymru''; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)</ref>) yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o dros 30 mlynedd ([[1455]] i [[1485]]) rhwng cefnogwyr Teulu'r [[Lancastriaid]] a Theulu'r [[Iorciaid]]. Fe'i gelwir yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y [[rhosyn]] coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd [[Coron Lloegr]]. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt. Er y gelwir y cyfnod hwn yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau", ychydig o ymladd a fu mewn gwirionedd - tua 13 wythnos i gyd gyda chyfanswm o 12 brwydr.
 
Yn ôl John Davies, y pwysicaf o'r brwydrau a ymladdwyd oedd [[Brwydr Wakefield]] (1460) lle lladdwyd dug York, [[Brwydr Mortimer's Cross]] ([[1461]]) (brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry, mewn gwirionedd) gan i'w fab ddyrchafu ei hun yn Edward IV, [[Brwydr Banbury]] (1469) a arweiniodd at ailorseddu Harri VI a [[Brwydr Tewkesbury]] (1471) oedd yn allweddol i ailorseddu Edward IV, ac wrth gwrs Brwydr Bosworth.
Llinell 10:
Er na fu brwydrau o bwys yng [[Cymru|Nghymru]], yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau [[Iarll Penfro]], [[Siaspar Tudur]] dros y Lancastriaid a [[William Herbert]] dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr [[Rhys ap Thomas]] ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn [[brwydr Bosworth]]. Tueddai'r rhan fwyaf o'r [[Cymry]] i ochri â phlaid y [[Lancastriaid]] yn erbyn yr [[Iorciaid]], ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd [[Guto'r Glyn]] er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid a bu'n fyw drwy gyfnod y rhyfeloedd.<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutoswales/cy/ygad-rhyfelrhos.php gutorglyn.net;] adalwyd 4 Chwefror 2017.</ref> Ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd [[Owain Tudur]]. Bu farw Tywysog Cymru, [[Edward o San Steffan]], ym [[Brwydr Tewkesbury|Mrwydr Tewkesbury]] ar 4 Mai 1471.
 
Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross ([[1461]]), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.<ref>''Hanes Cymru''; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)<name="ReferenceA"/ref> Galwodd y bardd [[Lewis Glyn Cothi]] frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi. Gwelodd [[Carnhuanawc]] dristwch yn y sefyllfa wedi gwaed Cymry'n cael ei golli dros goron Lloger yn hytrach na thros 'eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru'. ond yn gyffredinol, chwiliai'r beir am genedlaethau am arweinydd Cymreig newydd: yn y 1450au, Siasbar Tudur oedd eu harwr, yn y 1460au, oherwydd ei berthynas â [[Llywelyn Fawr]], [[Edward IV, brenin Lloegr]] oedd hwnnw. Edrychid ar Herbert hefyd fel un o'r arwyr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio trodd y Cymry'n derfysglyd iawn. Er mwyn llenwi'r bwlch arwisgwyd mab y brenin â'r 'Dywysogaeth' yn 1471. Ond roedd gan y Cymry a gefnogai plaid Iorc obeithion tebyg ar gyfer Edward IV a allai olrhain ei linach, fel Harri Tudur, yn ôl i dywysogion Cymru.
 
Yn [[Aberhonddu]] y cododd dug Buckingham faner gwrthryfel, o bosib, i hybu achos Harri Tudur, a oedd yn [[Llydaw]], ond ni chafodd gefnogaeth y Cymry, ac o fewn mis fe'i dienyddiwyd. [[William Stanley (Brwydr Bosworth)|William Stanley]] oedd gŵr grymusaf gogledd Cymru a [[Rhys ap Thomas]] (ŵyr [[Gruffudd ap Nicolas]] a Lancastriaid o fri) yn y De.
Llinell 24:
:A Gwladus Du galw dy stil.
 
Cofiai'r Cymry, hefyd, fod sawl un o'r Mortimeriaid wedi cefnogi [[Owain Glyn D%C5%B5rDŵr#Y Gwrthryfel.2C 1400 - 1415|gwrthryfel Owain Glyn Dŵr]].
 
===Lancastriaid===
Llinell 51:
 
{{comin|Category:Wars of the Roses|Rhyfeloedd y Rhosynnau}}
 
{{eginyn hanes}}
 
[[Categori:Rhyfeloedd y Rhosynnau| ]]
Llinell 57 ⟶ 59:
[[Categori:Hanes milwrol Lloegr]]
[[Categori:Rhyfeloedd y 15fed ganrif|Rhosynnau]]
{{eginyn hanes}}