Charles Watkin Williams-Wynn (1775–1850): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (2) using AWB |
B clean up |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Charles Watkin Williams-Wynn.JPG|bawd|Charles Watkin Williams-Wynn]]
Roedd Y Gwir Anrhydeddus '''Charles Watkin Williams-Wynn''' ([[9 Hydref]], [[1775]] – [[2 Medi]], [[1850]]) yn wleidydd Cymreig. Bu'n cynrychioli'r sedd bwdr enwog Hen Sallog (Old Sarum) o 1797 i 1799 ac yna etholaeth [[Maldwyn (etholaeth seneddol)|Sir Drefaldwyn]] o 1799 i 1850. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn gweinyddiaethau Torïaidd a Chwigaidd. Roedd yn Dad [[Tŷ'r Cyffredin]] (yr aelod efo'r cyfnod hiraf o wasanaeth di-dor) rhwng 1847 a 1850.<ref>
==Bywyd personol==
Llinell 12:
==Gyrfa==
Galwyd Williams-Wynn i'r Bar yn [[Lincoln's Inn]] ym 1798 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdeithiau Rhydychen a Gogledd Cymru. Cafodd ei benodi yn feinciwr ym 1835. Bu yn Gofiadur Llys Sirol [[Croesoswallt]] 1798-1835<ref>
==Gyrfa wleidyddol==
Llinell 18:
Ym 1797 cafodd Williams-Wynn ei ethol i'r senedd fel un o'r ddau aelod a etholwyd gan lond llaw o fwrdeiswyr absennol ar gyfer etholaeth bwdr Hen Sallog o dan nawdd Richard Wellesley, 2il Iarll Mornington. Pan ddaeth hen sedd ei daid [[Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig]], Sir Drefaldwyn, yn rhydd ym 1799 ymddiswyddodd fel aelod Hen Sallog a chael ei ethol dros Sir Drefaldwyn gan dal y sedd am 51 mlynedd ganlynol.
Ym 1806 fe'i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn y Weinyddiaeth a arweiniwyd gan ei ewythr yr Arglwydd Grenville. Parhaodd yn y swydd hyd ddymchwel y llywodraeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Williams-Wynn yn aelod gweithgar o'r Senedd ac yn cael ei ystyried yn awdurdod ar drefn Tŷ’r Cyffredin, gan hynny cafodd ei enwebu ar gyfer swydd y Llefarydd ym 1817, ond oherwydd nam ar ei leferydd awgrymodd rhai o'i wrthwynebwyr mai ''Squeaker'' byddai nid ''Speaker'' a chafodd ei orchfygu ar bleidlais gan Charles Manners Sutton.<ref>
Yn y 1810au roedd Williams-Wynn yn arweinydd grŵp o Aelodau Seneddol a geisiodd, yn aflwyddiannus, i sefydlu trydedd blaid yn Nhŷ'r Cyffredin o dan nawdd ei gefnder yr Arglwydd Buckingham. Wedi methiant yr ymgyrch i greu trydedd blaid ymunodd a'r Torïaid.<ref>
Ym mis Ionawr 1822 cafodd Williams-Wynn ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor a'i benodi yn Llywydd y Bwrdd Rheoli, gyda sedd yng nghabinet yn llywodraeth Dorïaidd Iarll Lerpwl. Arhosodd yn y swydd hon yng ngweinyddiaethau [[George Canning]] a'r [[Frederick John Robinson, Is-Iarll 1af Goderich|Arglwydd Goderich]]. Pan ddaeth [[Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington|Dug Wellington]] yn Brif Weinidog yn 1828, ni chafodd cynnig swydd yn y llywodraeth gan hynny fe ymunodd a'r Chwigiaid a phan ddaeth y blaid honno i rym o dan arweiniad yr [[Charles Grey, 2il Iarll Grey|Arglwydd Grey]] ym 1830 penodwyd Williams-Wynn yn Ysgrifennydd Ryfel, ond heb sedd yn y cabinet. Parhaodd yn y swydd hyd fis Ebrill 1831 ond ni chafodd cynnig unrhyw swydd arall yn llywodraeth y Chwigiaid. Yn 1834 dychwelodd y Torïaid i rym o dan [[Robert Peel|Syr Robert Peel]], a phenodwyd Williams-Wynn yn Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn. Syrthiodd llywodraeth Peel mis Ebrill 1835 ac ni phenodwyd Williams-Wynn i unrhyw swydd wedi hynny. Parhaodd i gynrychioli Maldwyn yn y Senedd hyd ei farwolaeth ym 1850, rhwng 1847-1850 roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin.
Llinell 39:
{{diwedd-bocs}}
{{Authority control}}
{{DEFAULTSORT:
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Genedigaethau 1775]]
|