Seren Tan Gwmmwl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Llinell 7:
Y prif ddylanwad ar draethawd Glan-y-gors yw athroniaeth y radicalydd o Sais [[Thomas Paine]], awdur ''The Rights of Man''.<ref>''Dylanwad y Chwyldro Ffrengig'', tt. 150-152.</ref> Ar un ystyr mae'r llyfryn yn fath o dalfyriad a chrynodeb o brif syniadau Paine, mewn gwisg Gymreig, ond mae'r awdur yn tynnu ar hanes traddodiadol Cymru fel y'i ceir yn ''[[Drych y Prif Oesoedd]]'' gan [[Theophilus Evans]] hefyd ac mae ei genedlgarwch yn elfen amlwg yn y gwaith hefyd. Rhaid gosod y llyfr yng nghyd-destun y [[Chwyldro Ffrengig]] hefyd: roedd Glan-y-gors yn un o'r Cymry gwerinol a'i groesawodd yn frwd.
 
Mae ''Seren Tan Gwmmwl'' (''sic'' gyda dwy 'm') yn fflangellu [[brenhiniaeth|brenhinoedd]], [[Eglwys Loegr|esgobion]] ac arglwyddi fel achosion pob drwg cymdeithasol ac yn eu [[dychan]]u yn ddidrugaredd.
 
Mae agoriad y ''Seren'' yn ddarn rhyddiaith grymus a chofiadwy sy'n gosod y cyweirnod am weddill y llyfr ac yn enghraifft dda o [[Gymraeg]] ystwyth a naturiol yr awdur: