Les Liaisons dangereuses: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
OBRM (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 2:
[[Nofel epistolaidd]] [[Ffrangeg]] enwog a ysfrifenwyd yn [[1782]] gan y llenor [[Ffrainc|Ffrengig]] [[Pierre Choderlos de Laclos]] (1741-1803) yw '''''Les Liaisons dangereuses'''''. Ystyrir y nofel, sy'n adrodd hanes yr ymryson gwyriedig a nwydus rhwng dau ''libertin'' uchelwrol yng nghyfnod [[Yr Oleuedigaeth]] Ffrengig (''le siècle des Lumières''), yn un o weithiau mawr [[llenyddiaeth Ffrangeg]].
 
Fframwaith y nofel yw cyfres o lythyrau rhwng y ddau brif gymeriad, yr Ardalyddes de Merteuil (Madame de Merteuil) a'r Is-iarll de Valmont (Valmont), ac eraill, sy'n disgrifio eu hymdrechion i hudo merch ifanc iawn - Cécile de Volanges - i golli ei morwyndod, a hynny er mwyn ennill bet.
 
Achosodd y nofel gryn sgandal ar y pryd a chafodd ei chamddeall a'i chomdemnio fel ymosodiad ar [[moes|foes]] cymdeithas. Ond amddiffynodd Laclos y llyfr. Camfernir y nofel gan rai hyd heddiw am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,