Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Siartiaeth"

Lleihawyd o 1 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB)
B (clean up)
Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd '''Siartiaeth''' neu '''Fudiad y Siartwyr'''. Roedd y mudiad yn weithgar yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]]. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.
 
Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848 a chyflwynwyd deiseb i [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Dŷ'r Cyffredin]] yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbwl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebion. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, [[Dwyrain Canolbarth Lloegr]], [[Ardal y Crochendai|Ardal y Crochendai, Stafford]] a'r ''Black Country'', sef bwrdeisdrefi Dudley, Sandwell a Walsall.
 
== Cymru ==
Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], y Siartydd mwyaf amlwg oedd [[Hugh Williams]], a oedd yn frawd yng nghyfraith i [[Richard Cobden]], y gwleidydd [[Radicaliaeth|radicalaidd]]. Yn [[Llanelli]] yr oedd [[David Rees]] golygydd ''[[Y Diwygiwr]]'' yn ffigwr amlwg. Ym [[Merthyr Tudful]], roedd [[Morgan Williams]]; yr enwog Dr [[Willliam Price]] o [[Llantrisant|Lantrisant]]; a [[John Frost]] yn [[Sir Fynwy]]. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn [[Neuadd y Sir, Trefynwy]] i'w crogi a'u chwarteru.
 
{{eginyn hanes}}
 
[[Categori:Siartiaeth| ]]
[[Categori:Sefydliadau 1838]]
[[Categori:Erthygl Pedia Trefynwy]]
 
{{eginyn hanes}}
417,732

golygiad