John Henry Vivian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:John Henry Vivian, Ferrara Square, Swansea, Wales.JPG|bawd|Cofgolofn John Henry Vivian, Abertawe]]
Roedd '''John Henry Vivian''' ([[9 Awst]], [[1785]] - [[10 Chwefror]], [[1855]]) yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Chwig / Rhyddfrydol]] a fu'n ddylanwadol yn natblygiad y diwydiant copr yng Nghymru ac a wasanaethodd fel [[Aelod Seneddol]] [[Dosbarth Abertawe (etholaeth seneddol)|Dosbarth Abertawe]] o 1832 hyd 1855.<ref name=":0">Edmund Newell, ‘Vivian, John Henry (1785–1855)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Oct 2009 [http://www.oxforddnb.com/view/article/47482, adalwyd 14 Rhagfyr 2015]</ref>
 
 
==Bywyd Personol==
Llinell 7 ⟶ 6:
Ganwyd Vivian yn [[Truro]], [[Cernyw]] yn fab i John Vivian (1750-1826) mentrwr mwyngloddio a thoddi copr a Betsy née Cranch ei wraig. Bu ei frawd Richard Hussey Vivian, Barwn 1af Vivian yn AS dros etholaethau yng Nghernyw ac etholaeth Windsor.
 
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Truro ac Ysgol [[Lostwithiel]]. Yn 16 oed aeth i'r Almaen i astudio ieithoedd. Ym 1803 cofrestrodd fel efrydydd yn Sefydliad Mwyngloddio Prifysgol Freiberg fel disgybl i'r daearegwr Abraham Werner.
 
Ym 1816 priododd Sarah Jones ([[1799]]-[[1886]]) Merch Arthur Jones, Reigate, Surrey. Bu iddynt naw blentyn gan gynnwys [[Henry Hussey Vivian]], Barwn 1af Abertawe.
Llinell 20 ⟶ 19:
==Cyfraniad i addysg a gwyddoniaeth==
[[Delwedd:7314M-vivianite2.jpg| bawd|chwith|Vivianite (Fe<sub>3</sub>(PO<sub>4</sub>)<sub>2</sub>•8(H<sub>2</sub>O)]]
Roedd gan Vivian diddordeb byw mewn addysg a gwyddoniaeth.
 
Rhwng 1820 a 1847 bu Vivian a'i wraig yn gyfrifol am noddi a/ neu sefydlu pum ysgol yn ardal yr Hafod, Abertawe <ref>Stephen Hughes ''Copperopolis: Landscapes of the Early Industrial Period in Swansea'', Tud 248; Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales 2008 ISBN 9781871184327 </ref>
 
Ym 1823 cafodd ei ethol yn gymrawd y Sefydliad Brenhinol ac ym 1835 sefydlodd Sefydliad Brenhinol De Cymru <ref>LlGC ''Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe'' [https://www.llgc.org.uk/fga/fga_c01.htm] adalwyd 14 rhagfyr 2015</ref>. Bu hefyd yn gymrawd Y Sefydliad Mwynol Brenhinol.
 
Ym 1817 enwyd y mwyn Vivianite ar ei ôl.<ref> Mindat.org ''Vivianite'' [http://www.mindat.org/min-4194.html] adalwyd 14 Rhagfyr 2015</ref>
 
== Gyrfa Gyhoeddus ==
Gwasanaethodd Vivian fel Ddirprwy Raglaw Sir Forgannwg ym 1820, ac fel [[Siryfion Morgannwg yn y 19eg ganrif|Uchel Siryf]] ym 1827. Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth newydd Dosbarth Abertawe o greu'r etholaeth ym 1832 hyd ei farwolaeth ym 1855 gan sefyll yn ddiwrthwynebiad mewn chwe etholiad yn olynol.
 
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Abertawe ac fel un o ymddiriedolwyr Harbwr Abertawe.
 
Ym 1830 sefydlodd papur lleol dyddiol yng Nghernyw ''The Western Briton'', papur Rhyddfrydol a sefydlwyd i roi barn amgen i un y papur Ceidwadol ''The Royal Cornwall Gazette''.<ref name=":0" />
Llinell 50 ⟶ 49:
{{Teitl An}}
{{bocs olyniaeth
| teitl = [[Siryfion Morgannwg yn y 19eg ganrif |Uchel Siryf Morgannwg]]
| blynyddoedd =[[1827]]-[[1828]]
| cyn = [[Thomas Edward Thomas]]
Llinell 56 ⟶ 55:
{{diwedd-bocs}}
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Vivian, John Henry}}
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Genedigaethau 1785]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif]]